Module WMC-4042:
Cyfansoddi mewn Cyd-Destun
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
30.000 Credits or 15.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Guto Puw
Overall aims and purpose
Nod y modiwl hwn yw gosod arferion creadigol y myfyrwyr eu hunain o fewn cyd-destun cyfansoddi cyfoes ar draws ystod o genres ac arddulliau. Drwy astudio gwaith cyfansoddwyr sydd wedi ennill eu plwyf, bydd y myfyrwyr yn cael golwg dechnegol, ddamcaniaethol, esthetig ac athronyddol a fydd o gymorth iddynt lywio ac arwain eu hymarfer eu hunain.
Mae rhan o'r modiwl yn mynd i'r afael â materion sy'n uniongyrchol berthnasol i gyfansoddi mewn un o dri chyd-destun: cyfansoddi ar gyfer offerynnau a lleisiau; cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau a gemau; cerddoriaeth electroacwstig a chelfyddyd sonig. Mae'r rhan arall yn cynnwys pob cyfansoddwr gyda'i gilydd, gan drafod materion sy'n berthnasol i bob math o gyfansoddi gan ddysgu oddi wrth arbenigeddau a diddordebau ein gilydd.
Course content
Bydd y seminarau yn canolbwyntio ar faes penodol o gyfansoddi (offerynnol a lleisiol; ffilm a gemau; electroacwstig a chelfyddyd sonig). Bydd y myfyrwyr yn ystyried ystyriaethau damcaniaethol a thechnegol sy'n codi mewn gweithiau penodol o gyfansoddi cyfoes, ac mewn astudiaethau beirniadol perthnasol ohonynt.
Bydd myfyrwyr a staff hefyd yn cyfarfod fel un grŵp mawr gan gyfuno pob maes cyfansoddi a chael clywed cyflwyniadau gan staff, myfyrwyr a darlithwyr gwadd mewn meysydd sy'n berthnasol i bob ffurf o gyfansoddi. Byddant yn ystyried ac yn trafod ym mha ffyrdd y gellir cymhwyso'r ddirnadaeth a gafwyd wrth ystyried un genre o gyfansoddi i genres eraill.
Assessment Criteria
excellent
O ran gwaith creadigol: Rhagorol Gwaith sy’n dangos hyder a sicrwydd safon uwch o arddulliad, ffurfiau a thechnegau cerddorol cyfoes, ystod nodedig o adnoddau technegol a meddwl creadigol ar lefel uchel, ac ymwybyddiaeth ddatblygedig o sut i ysgrifennu ar gyfer offerynnau cerdd, lleisiau neu gyfryngau eraill.
O ran gwaith sy’n seiliedig ar draethodau: Rhagorol Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth ychwanegol, meddwl yn fwy trylwyr, ymdriniaeth wreiddiol a medrau ysgrifennu rhagorol.
good
O ran gwaith creadigol: Da Gwaith sy’n dangos hyder a sicrwydd wrth ymdrin ag arddull, ffurf a thechneg, a lefel nodedig o addewid a gwreiddioldeb creadigol, a dealltwriaeth sicr o offerynnau cerdd, lleisiau neu gyfryngau eraill, ac o sut i ysgrifennu ar eu cyfer.
O ran gwaith sy’n seiliedig ar draethodau: Da Dylai’r gwaith ddangos dealltwriaeth gadarn o’r pwnc, lefel dda o feddwl cysyniadol, ymwybyddiaeth o’r prif faterion o bwys, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
threshold
O ran gwaith creadigol: Trothwy Gwaith sy’n dangos crap sylfaenol ar rai arddulliau a thechnegau cyfoes, ysgrifennu medrus ar gyfer offerynnau, lleisiau neu gyfryngau eraill, ond heb ddangos ond ychydig o allu creadigol.
O ran gwaith sy’n seiliedig ar draethodau: Trothwy Gwaith sy’n dangos gwybodaeth sylfaenol, gyfyngedig o’r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o faterion perthnasol, ond rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
Learning outcomes
-
ennill mwy o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o amrywiaeth o theorïau, cyd-destunau a chysyniadau sy’n gysylltiedig â chyfansoddi cyfoes;
-
Meithrin dealltwriaeth dda o sylfaeni damcaniaethol (estheteg, athronyddol a thechnegol) genre cyfansoddi penodol.;
-
meithrin hyfedredd mewn amryw o dechnegau cyfansoddi;
-
dechrau gweithio tuag at feithrin iaith ac idiom sy’n berthnasol, o safbwynt artistig, i’r gymdeithas sydd ohoni;
-
gosod eu gwaith creadigol eu hunain yng nghyd-destun gwaith cyfansoddwyr eraill;
-
ennill gwell medrau cyflwyno llafar.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Ymarferion Technegol | 40.00 | ||
Traethawd | 30.00 | ||
Cyflwyniad | 30.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau |
260 |
Seminar | Un seminar cyflwyno a thrafod yr wythnos am ddeg wythnos, 2 awr yr un. |
20 |
Seminar | Un seminar dechnegol/ddamcaniaethol yr wythnos am ddeg wythnos, 2 awr yr un. |
20 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
Subject specific skills
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Resources
Reading list
Yn barhaus, (yn unol â pholisi caffael presennol yr Ysgol) prynu sgoriau a chryno ddisgiau cyfoes, a chyfnodolion ar gerddoriaeth gyfoes. Cynnal a chadw ac uwchraddio offer stiwdio yn barhaus.
Courses including this module
Compulsory in courses:
- W3BM: MMus Composition and Sonic Art year 1 (MMUS/CSA)
Optional in courses:
- W3BJ: MA Music with Education year 1 (MA/MUSED)