Module WMC-4111:
Perfformio I
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
30.000 Credits or 15.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Iwan Llewelyn Jones
Overall aims and purpose
Cynlluniwyd y modiwl hwn i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau perfformio ymhellach fel offerynwyr, cantorion, arweinyddion, cyfeilyddion neu gerddorion siambr. Bydd y myfyrwyr yn cael hyfforddiant unigol gyda thiwtor arbennigol i ymdrin â thechneg, arddull a dehongli i safon uwch. Yn ychwanegol, bydd y myfyrwyr yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn gweithdai pythefnosol, wedi eu harwain gan diwtor y modiwl, a fydd yn mynd i'r afael yn fwy cyffredinol â'r sgiliau y mae ar berfformiwr eu hangen, a bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu hyder, profiad a gwybodaeth.
Mae wedi ei fwriadu ar gyfer perfformwyr sydd eisoes yn gweithio i safon bron-yn-broffesiynol, neu sydd â photensial o gyrraedd y fath safon.
Course content
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar dechneg perfformio, pedagogaeth, dadansoddi, astudiaethau dehongli, astudiaethau perfformio, rhaglenni, ysgrifennu nodiadau rhaglen, a pharatoi ar gyfer perfformio. Bydd y gweithdai hefyd yn ystyried cyflwyniad ar lwyfan a swyddogaeth cyfathrebu wrth berfformio.
Bydd pwysoliad y pynciau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigeddau perfformwyr a diddordebau'r myfyrwyr.
Assessment Criteria
excellent
Rhagorol (70+) Perfformiadau sydd yn dechnegol drawiadol ac yn argyhoeddi o ran arddull, gan ddangos llawer o wreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sy'n peri i rywun feddwl ac sy’n hynod wreiddiol.
threshold
Trothwy (50-59) Perfformiadau sydd gan fwyaf yn gywir ac yn briodol o ran arddull, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sydd yn cynnwys peth gwybodaeth ac yn eitha trefnus.
good
Da (60-69) Perfformiadau sydd wastad yn gywir gydag ymwybyddiaeth o arddull, gan ddangos peth gwreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen sy'n ddiddorol ac yn graff.
Learning outcomes
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu rhaglennu a pherfformio repertoire arbenigol / datganiad eang sy'n cyfleu dealltwriaeth fanwl o strwythur, cyd-destun a thechneg offerynnol / lleisiol, ac yn glynu wrth yr elfennau hynny.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu ymwneud yn gyfannol â'r cyfeiliant, mewn modd cyfarwydd, lle bo hynny'n briodol.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu cyfleu mewn geiriau resymeg, dadansoddiad a gwerthusiad o repertoire eu datganiad.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
DEMONSTRATION/PRACTICE | Perfformiad 1 | Datganiad yn para 20-25 munud; i gymryd lle yng Nghyfnod Asesu Semester 1 (Ionawr 2022). |
90.00 |
Written assignment, including essay | Nodiadau Perfformio | Nodiadau rhaglen i gyd-fynd â'r datganiad cyhoeddus. I'w cyflwyno ar Blackboard erbyn hanner dydd ar ddydd Iau Wythnos 10 (Semester 1). |
10.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau |
276 |
Practical classes and workshops | 12 awr o hyfforddiant unigol ar offeryn, llais neu faes astudio penodol y myfyriwr hwnnw. Bydd y rhain fel arfer yn digwydd ar gyfradd o 1 yr wythnos, ond bydd eu hyd a pha mor aml y cânt eu cynnal yn dibynnu ar ba fath o offeryn neu lais sydd dan sylw. |
12 |
Workshop | Un gweithdy 2 awr o hyd bob pythefnos, i gynnwys dosbarth meistr a chyfleoedd perfformio. |
12 |
Transferable skills
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
Subject specific skills
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Resources
Resource implications for students
Does dim goblygiadau penodol i fyfyrwyr o ran adnoddau.
Reading list
Nid oes goblygiadau penodol ar adnoddau y tu hwnt i gynnal a chadw llyfrgell adnoddau gyfredol (llyfrau, cyfnodolion, sgorau, recordiadau, ac adnoddau ar-lein) ac adnoddau perfformio (e.e. pianos).
Rhoddir llyfryddiaeth fanwl i’r myfyrwyr sy’n cymryd y modiwl hwn, a’r teitlau perthnasol yn cynnwys y canlynol:
- Butt, John, Playing with History (Caergrawnt, 2002)
- Cone, Edward, Musical Form and Musical Performance (Efrog Newydd, 1968)
- Cook, Nick, Beyond the Score: Music as Performance (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2013)
- Davies, Stephen, Musical Works and Performances (Rhydychen, 2001)
- Doğantan-Dack, M. Artistic Practice as Research in Music (Ashgate, 2015)
- Dunsby, Jonathan, Performing Music: Shared Concerns (Rhydychen, 1995)
- Krausz, Michael, The Interpretation of Music (Rhydychen,1993)
- Lawson, Colin and Robin Stowell, The Historical Performance of Music (Caergrawnt, 1999)
- Rink, John, Musical Performance (Caergrawnt, 2002)
- Rink, John, The Practice of Performance (Caergrawnt, 1995)
- Schenker, Heinrich, gol. Herbert Esser, The Art of Performance (Rhydychen, 2000)
Courses including this module
Optional in courses:
- W3BJ: MA Music with Education year 1 (MA/MUSED)
- W3BG: MMus Performance year 1 (MMUS/MUSP)