Module WXC-1004:
Melodi a Harmoni
Melodi a Harmoni 2024-25
WXC-1004
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau sylfaenol myfyrwyr wrth ddadansoddi cerddoriaeth o'r oes arfer cyffredin ymlaen, gan gynnwys elfennau o gerddoriaeth boblogaidd fodern. Mae'n canolbwyntio ar fagu hyder wrth adnabod ac adeiladu gweadau harmonig a melodig, gan gynnwys diatonigiaeth, cromatyddiaeth, dilyniant cordiau, ac egwyddorion melodig-harmonig. Mae hefyd yn datblygu hyder myfyrwyr wrth ddarllen sgôr. Mae'r modiwl yn addas ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth flaenorol am egwyddorion harmonig neu felodig (e.e. y rhai nad ydynt wedi gwneud harmoneiddio corâl fel rhan o Lefel A neu gymhwyster gyfwerth), neu'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn hyderus o’u sgiliau yn y maes hwn.
Mae myfyrwyr yn gweithio trwy gwrs astudio a fydd yn datblygu medrau sain glust, darllen sgorau a medrau dadansoddol, creadigrwydd a dealltwriaeth drwyadl o’r paramedrau ar gyfer creu cerddoriaeth yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae'r modiwl yn addas ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth flaenorol am egwyddorion harmonig neu felodig (e.e. y rhai nad ydynt wedi gwneud harmoneiddio corâl fel rhan o Lefel A neu gymhwyster gyfwerth), neu'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn hyderus o’u sgiliau yn y maes hwn.
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%–49%) Y nod hollbwysig yw arddangos gafael sylfaenol ar sgiliau technegol/nodiant a'r rheolau damcaniaethol sy'n sail i gerddoriaeth hwyr y Dadeni ac/neu o'r oes arfer cyffredin. Dealltwriaeth lawn o nodiant staff, ond dim ond dealltwriaeth sylfaenol o arfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir; gafael sylfaenol ar sgiliau allweddol sy'n ymwneud â'r pwnc, gyda gallu cyfyngedig i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn cyd-destunau cerddorol eraill; arddangosiad cyfyngedig o greadigrwydd unigol, o fewn y cyd-destun penodol. Cyflwynir gwaith yn rhesymegol ond gyda phriodoldeb arddulliadol cyfyngedig yn unig; gallu ac ymwybyddiaeth glywedol gyfyngedig. Bydd y marc yn cael ei gyfyngu i'r lefel hon gan bethau fel: diffygion aml mewn harmoneiddio/ymarferion cyfansoddi pastiche; diffygion cyson nodiant cerddorol a chyflwnyiad y testun cerddorol; methu â mynd i'r afael yn iawn â'r prif agweddau dadansoddol; penderfyniadau dadansoddol/cyfansoddol annigonol; gwaith anghyson, anghyflawn neu annigonol mewn tasgau dadansoddi/harmoneiddio/cyfansoddi.
Ail ddosbarth is: C- i C+ (50%–59%) Y brif briodwedd sy'n cyfiawnhau marciau yn y categori hwn yw'r cyflwyniad digonol o destun neu ddadansoddiad cerddorol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r cysyniadau damcaniaethol a drafodir yn y modiwl. Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, ond dim ond dealltwriaeth sylfaenol o arfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir; gafael sylfaenol ar sgiliau allweddol sy'n ymwneud â'r pwnc, gyda gallu cyfyngedig i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn cyd-destunau cerddorol eraill; arddangosiad cyfyngedig o greadigrwydd unigol, o fewn y cyd-destun penodol. Cyflwynir y gwaith yn rhesymegol ond gyda phriodoldeb arddulliadol cyfyngedig yn unig; gallu ac ymwybyddiaeth glywedol gyfyngedig. Y priodweddau sy'n cyfyngu'r marc i'r lefel hon yw: ambell ddiffyg yn y harmoneiddiadau/ymarferion cyfansoddi pastiche a'u cyflwyniad; rhai diffygion yn y disgrifiadau rhyddiaith yn y tasgau dadansoddi; peth diffyg yn y ddadl neu fylchau yn y dull dadansoddol neu gyfansoddol.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%–69%) Y briodwedd wahniaethol yw'r cyflwyniad cwbl foddhaol o destun neu ddadansoddiad cerddorol yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyflawn o'r cysyniadau damcaniaethol a drafodir yn y modiwl. Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth dda o arfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Gafael da ar sgiliau allweddol sy'n ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn ystod o gyd-destunau cerddorol eraill. Arddangosiad da o greadigrwydd unigol, o fewn y cyd-destun penodol. Cyflwynir gwaith yn rhesymegol, a chyda rhywfaint o briodoldeb arddulliadol. Gallu ac ymwybyddiaeth glywedol dda. Bydd y gwaith yn cyfleu dealltwriaeth lawn o gysyniadau damcaniaethol cerddoriaeth o gyfnod hwyr y Dadeni ac/neu arfer cyffredin. Dim ond mân wallau sydd yn y testun cerddorol ac unrhyw ddisgrifiadau rhyddiaith. Gall gwaith yn y dosbarth hwn gynnwys llawer o'r un rhinweddau sydd i’w cael mewn gwaith Dosbarth Cyntaf; fodd bynnag, gall y gwaith fod yn rhagorol mewn un categori, ond eto'n ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- ac A (70%–83%) Y briodwedd wahaniaethol yw’r cyflwyniad medrus o destun neu ddadansoddiad cerddorol yn seiliedig ar ddealltwriaeth lawn o'r cysyniadau damcaniaethol a drafodir yn y modiwl. Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth ragorol o arfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir; gafael da iawn ar sgiliau allweddol sy'n ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i gymhwyso'r sgiliau hyn ar draws amrediad cyfan y cyd-destunau cerddorol; arddangosiad rhagorol o greadigrwydd unigol, oddi mewn i’r cyd-destun penodol; cyflwynir gwaith yn rhesymegol gydag ymwybyddiaeth arddulliadol lawn; gallu ac ymwybyddiaeth glywedol ardderchog. Bydd y gwaith yn ddi-wall neu'n agos at fod yn ddi-wall ym mhob agwedd dechnegol a bydd yn dangos ymchwil, menter a gwreiddioldeb trylwyr yn y dull datrys problemau.
Dosbarth Cyntaf: A+ I A** (84%–100%) Bydd gwaith o'r safon hon yn arddangos holl rinweddau gwaith Dosbarth Cyntaf i raddau eithriadol.
Learning Outcomes
- Arddangos dealltwriaeth gadarn o egwyddorion cyfansoddi tonyddol a moddol trwy gyfansoddi *pastiche* sylfaenol.
- Arddangos dealltwriaeth gadarn o nodiant cerddorol a nodiant dadansoddol cyfoes.
- Arddangos sgiliau mewn dadansoddi cerddoriaeth donyddol / foddol yn ôl egwyddorion sylfaenol.
- Arddangos sgiliau mewn darllen sgorau.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith cwrs 1 Mae'r aseiniad hwn yn asesu'r rhan fwyaf o’r prif gysyniadau a ddysgir ar y modiwl, trwy gwestiynau dadansoddol a chwestiynau dadansoddi ymarferol. Fe’i bwriedir fel paratoad ar gyfer cwblhau’r prif aseiniad. Fel arfer bydd tri chwestiwn. Gofynnir i chi ddadansoddi un neu ragor o ddarnau o gerddoriaeth (hyd at 20 bar neu gyfwerth fel arfer), gyda sylw arbennig i'r prif nodweddion harmonig a melodig. Gofynnir i chi hefyd gwblhau un neu ragor o ddarnau (fel arfer hyd at 20 bar neu gyfwerth) gan ddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r arddull berthnasol (e.e. ysgrifennu dilyniant harmonig, cwblhau lleisiau mewnol/is o dan linell trebl ac ati). Cyflwynir y gwaith erbyn 4pm ddydd Iau wythnos 7.
Weighting
30%
Due date
14/11/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Prif Aseiniad. Mae'r aseiniad hwn yn asesu'r holl brif gysyniadau a ddysgir ar y modiwl, trwy gwestiynau dadansoddol a chwestiynau dadansoddi-mewn-ymarfer. Fel arfer bydd pedwar cwestiwn. Gofynnir i chi ddadansoddi un neu ragor o ddarnau o gerddoriaeth (hyd at 20 bar neu gyfwerth fel arfer), gyda sylw arbennig i'r prif nodweddion harmonig a melodig. Gofynnir i chi hefyd gwblhau un neu ragor o ddarnau (fel arfer hyd at 20 bar neu gyfwerth) gan ddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r arddull berthnasol (e.e. ysgrifennu dilyniant harmonig, cwblhau lleisiau mewnol/is o dan linell treblu ac ati). Cyflwynir y gwaith erbyn 4pm ddydd Llun wythnos 13
Weighting
50%
Due date
13/01/2025
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf ar-lein Byddwch yn cael cyfres o gwestiynau (15 amlddewis fel arfer, gwerth cyfartolog) yn ymwneud â gwahanol agweddau ar y pynciau a drafodir yn wythnosau 1–9 y modiwl. Maent wedi'u cynllunio i brofi eich dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol a ddysgir i'r pwynt hwnnw yn y modiwl. Bydd y cwestiynau fel arfer yn cyfuno dadansoddi trwy ddarllen sgôr ac ymwybyddiaeth glywedol. Bydd y prawf yn cael ei gwblhau ar-lein, ar Blackboard. Nid oes terfyn amser, ond ni ddylai gymryd mwy na 30 munud. Rhaid cyflwyno’r gwaith erbyn 4pm ddydd Iau wythnos 10.
Weighting
20%
Due date
05/12/2024