Module WXC-1300:
Cerddoriaeth Ers 1850
Cerddoriaeth Ers 1850 2024-25
WXC-1300
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaethau cerddolegol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth rhwng 1850 a heddiw, ynghyd â chyfres o gweithdai ar sgiliau astudio.
Mae'r modiwl yn gwneud arolwg o weithiau mewn amrywiaeth o genres 'clasurol' a phoblogaidd. Gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddulliau cerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd. Yn ogystal, mae myfyrwyr yn edrych ar nifer o weithiau yn fanwl mewn seminarau, gan eu hastudio fel testunau cerddorol a'u dadansoddi, a thrwy ymchwilio i'r amgylchiadau y cawsant eu cyfansoddi ynddynt.
Gallai rhestr o bynciau darlithoedd gynnwys: - Y cyfnod Rhamantaidd hwyr o safbwynt hanesyddol, cymdeithasol a cherddorol - Wagner a'r ddrama-gerdd - Y symffoni, 1850 ymlaen - Cerddoriaeth siambr y cyfnod rhamantaidd hwyr - Cenedlaetholdeb - Debussy ac Agraffedd - Stravinsky - Mecanyddiaeth - Cyfresiaeth gyflawn - Gwreiddiau roc a rôl - Cyfansoddwyr Cymru - Cerddoriaeth mewn diwylliannau lleiafrifol - Canu protest - Jazz ers 1950 - Strwythur y Diwydiant Pop - Cerddoriaeth ar y rhyngrwyd.
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%)
Y cyrhaeddiad allweddol yw dangos gafael sylfaenol ar y testun dan sylw a’r math o ddeunydd a ddefnyddir. Fodd bynnag, cyfyngir y marc i’r lefel hon gan ffactorau megis: ailadrodd gwybodaeth yn foel, heb ddangos gwir ddealltwriaeth; dryswch wrth gyflwyno dadl sy’n dangos diffyg dealltwriaeth briodol o’r deunydd; methu â gwahaniaethu rhwng y perthnasol a’r amherthnasol; methu â deall syniadau’n iawn; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau hynod ddiffygiol o ran llyfryddiaethau neu droednodiadau; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyno blêr.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%)
Y prif gryfder sy’n gwarantu marc yn y categori hwn yw casglu corff rhesymol o ddeunydd perthnasol o ystod weddol eang o ddarllen neu ffurfiau eraill ar adalw gwybodaeth, sydd wedi’i gyflwyno mewn trefn eglur a’i fynegi’n ddealladwy. Nodweddion sy’n cyfyngu’r marc i’r lefel hon yw: dadleuon aneglur, neu ddadleuon sy’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadl; tystiolaeth gyfyngedig o ddealltwriaeth neu wybodaeth eang o’r testun; ymrwymiad cyfyngedig i drafod ac aildrafod syniadau mewn trafodaethau llafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl yn ddwys, mewn cyferbyniad â diwydrwydd syml.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%)
Y nodwedd allweddol yma yw’r gallu i lunio dadl glir gyda thystiolaeth briodol i’w hategu. Bydd y gwaith, felly, yn debygol o ddangos y gallu i ddeall y drafodaeth ar waith o gelfyddyd a chymhwyso’r wybodaeth honno at wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o’r testun yn ei gyfanrwydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd mwy penodol; sgiliau medrus gyda llyfryddiaethau a throednodiadau; cyfathrebu syniadau a dadleuon yn effeithiol; gallu gweld problemau a gwrthddweud mewn darllen ffynonellol; cyfraniad meddylgar i drafodaethau llafar; sgiliau mewn arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o’r un nodweddion ag a geir mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant i’w gweld ar lefel lai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn eithriadol o ran un o nodweddion Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%)
Y nodwedd allweddol yma yw tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol gwirioneddol mewn trafodaeth sylweddol. Bydd gwaith ar y lefel hon yn debygol o ddangos bod yr ymgeisydd wedi cymryd yr awenau i wneud gwaith ymchwil y tu hwnt i’r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau a ddefnyddiwyd yn feirniadol; trafodaeth sylweddol a chlir; mynegiant caboledig mewn gwaith ysgrifenedig a llafar; gallu i gywain deunydd o wahanol ffynonellau at ei gilydd; sgiliau arsylwi a dadansoddi o’r safon uchaf; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i egluro testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i ffiniau culion y testun dan sylw; y gallu i arwain trafodaethau llafar; y gallu i adnabod problemau neu groesddweud yn y testun a’u hwynebu’n rymus.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%)
Mae gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy’n cyrraedd safonau proffesiynol, neu sy’n agos at hynny. Bydd y gwaith hwn yn dangos, mewn modd cyson, yr holl nodweddion a restrwyd yng nghategori A-/A (70%-83%), ac o ansawdd mor uchel fel ei fod naill ai’n deilwng o gael ei gyhoeddi neu ddarlledu yn union fel ag y mae, neu gyda diwygiadau o ran ei gyflwyniad.
Learning Outcomes
- Arddangos gwybodaeth o amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol sydd wedi effeithio ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd rhwng 1850 a heddiw.
- Arddangos gwybodaeth o weithiau, arddullau, genres, ac arweddion cerddorol mewn repertoire a gyfansoddwyd rhwng 1850 a heddiw.
- Cyfathrebu syniadau yn effeithiol.
- Dadansoddi cerddoriaeth o berfformiadau / sgoriau.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 2 (hir: 1500 gair). Bydd y cwestiynau'n cael eu rhannu gyda'r myfyrwyr ar ddechrau'r semester.
Weighting
40%
Due date
13/01/2025
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 1 (byr: 750 gair). Bydd cwestiynau'n cael eu rhannu gyda'r myfyrwyr ar ddechrau'r semester.
Weighting
20%
Due date
14/11/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf repertoire 2. Byddwch yn cael cyfres o gwestiynau (fel arfer 10 dewis lluosog, wedi'u pwysoli'n gyfartal) yn ymwneud ag agweddau amrywiol ar y pynciau a drafodir yn wythnosau 7–12 y modiwl. Fe'u cynlluniwyd i brofi eich dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol a addysgir hyd at y pwynt hwnnw yn y modiwl. Mae'r prawf i'w gwblhau ar-lein, ar Blackboard. Nid oes terfyn amser, ond mae wedi'i gynllunio i beidio â chymryd mwy na 30 munud. Disgwylir erbyn 4pm ar ddydd Iau wythnos 12.
Weighting
10%
Due date
19/12/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf repertoire 1. Byddwch yn cael cyfres o gwestiynau yn ymwneud ag agweddau amrywiol ar y pynciau a drafodir yn wythnosau 1–5 y modiwl. Fe'u cynlluniwyd i brofi eich dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol a addysgir hyd at y pwynt hwnnw yn y modiwl. Mae'r prawf i'w gwblhau ar-lein, ar Blackboard. Nid oes terfyn amser, ond mae wedi'i gynllunio i beidio â chymryd mwy na 30 munud. Disgwylir erbyn 4pm ar ddydd Iau wythnos 6.
Weighting
10%
Due date
07/11/2024
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
Cyfranogiad i seminar: Cymryd rhan mewn seminar, yn seiliedig ar gyfraniadau sy'n deillio o dasgau gosod. Bob wythnos bydd myfyrwyr yn cael tasg benodol (e.e. dadansoddi sgôr, darllen cyd-destunol gyda chwestiynau ac ati), sy'n bwydo i mewn i drafodaeth grŵp. Caiff myfyrwyr eu graddio ar ansawdd eu cyfraniadau, yn seiliedig ar y tasgau a gwblhawyd. Gall myfyrwyr hefyd gyflwyno nodiadau fel tystiolaeth o baratoi.
Weighting
20%
Due date
13/01/2025