Module WXC-3191:
Ysgrifennu Caneuon
Ysgrifennu Caneuon 2023-24
WXC-3191
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
20 credits
Module Organiser:
Pwyll ap Sion
Overview
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno yn ystod y darlithoedd i sylfeini cyfansoddi caneuon, gan gynnwys alaw (siapio alawol), harmoni (patrymau harmonig), ffurfiau penodol, gosod geiriau (lliwio geiriol), rhythm, gwead, ac yn y blaen. Trafodir yr elfennau hyn mewn perthynas ag idiomau ac arddulliau sy’n perthyn i ganeuon artistiaid megis Elton John a Joni Mitchell yn ystod y 1970au at arddulliau pop a roc mwy diweddar. Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd angen i’r myfyriwr gynhyrchu portffolio o ganeuon a threfniannau o ganeuon gan un ai eu perfformio yn unigol neu mewn grŵp, neu eu recordio i safon boddhaol, neu wedi eu cyfansoddi a’u prosesu ar feddalwedd megis Sibelius.
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyBydd yr ymarferiadau a gyflwynir yn dangos dychymyg creadigol cyfyngedig, rheolaeth gyfyngedig ar ddeunyddiau cerddorol, y ddealltwriaeth leiaf o’r hyn y gall yr adnoddau (p’un a fyddent yn offerynnol neu’n lleisiol) ei wneud, a thystiolaeth brin o feddwl deallusol. Mae’r cyflwyniad yn dangos diffyg ymchwil, ac ynddo’i hun yn wael. -good -DaBydd yr ymarferiadau a’r aseiniadau yn dangos lefel ddymunol o ddychymyg creadigol, gyda rheolaeth a datblygiad da ar ddeunyddiau cerddorol, ar sail hyfedredd technegol yn nefnydd adnoddau (offerynnol a/neu leisiol). Ceir hefyd dystiolaeth o graffter deallusol. Mae’r cyflwyniad yn dangos ôl ymchwil drylwyr, ac ynddo’i hun yn dda. -excellent -ArdderchogMae’r ymarferiadau a’r aseiniadau yn dangos lefel uchel o ddychymyg creadigol, gyda nodweddion unigol yn ymddangos o ran llais cyfansoddiadol a thelynegol, rheolaeth a datblygiad medrus ar ddeunyddiau cerddorol, a meistrolaeth dechnegol ar adnoddau (offerynnol a/neu leisiol). Ceir hefyd dystiolaeth o lefel uchel o allu o ran meddwl yn gysyniadol, craffu ar faterion perthnasol, gwreiddioldeb o ran ymdriniaeth a dealltwriaeth.Mae’r cyflwyniad yn dangos ôl ymchwil fanwl, ac ynddo’i hun o safon uchel.