Module XMC-4041:
Methodoleg Addysgu Dwyieithog
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
30.000 Credits or 15.000 ECTS Credits
Organiser: Mr Huw Clwyd Phillips
Overall aims and purpose
Mae’r rhaglen hon yn paratoi ymarferwyr (athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr) ar sut i addysgu’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), er mwyn galluogi i ddysgwyr ddatblygu’u sgiliau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol yn y Gymraeg ochr-yn-ochr â’r Saesneg, a chael eu hasesu yn eu dewis iaith.
Bydd y rhaglen yn:-
i. Galluogi i ymarferwyr adnabod eu sgiliau dwyieithog personol;
ii. Cyflwyno damcaniaethau, syniadau ac ymagweddau tuag at addysg ddwyieithog yng Nghymru a thu hwnt;
iii. Adnabod nodweddion hyfedredd iaith a phwnc gwahanol garfanau o ddysgwyr 14-19 oed;
iv. Cyflwyno a chynnig cyfle i ymarfer strategaethau addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg/dwyieithog yn unol ag anghenion dysgwyr unigol mewn grwp;
v. Cyflwyno technolegau sy’n cefnogi cynhyrchu adnoddau pynciol yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’n ddwyieithog;
Course content
Nod yr hyfforddiant hwn yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n addysgu’n ddwyieithog, gan yn ei dro arwain at gynnydd yn hyder a niferoedd y dysgwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu. Bydd ymarferwyr yn cael eu paratoi i weithio’n Gymraeg a Saesneg yn hyderus ac effeithiol gan ddefnyddio’r ddwy iaith yn gytbwys a phriodol yn unol ag anghenion ieithyddol y grwp dysgu.
Assessment Criteria
threshold
• Cynllunio’n ddigonol mewn perthynas a’r deilliannau dysgu ac anghenion ieithyddol y grwp; • Defnyddio adnoddau addas a chywir sy’n ddigonol i anghenion asesu yn y ddwy iaith; • Defnyddio’r ddwy iaith yn briodol ac yn gywir er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn y grwp yn deall ac yn chwarae rhan weithredol yn y wers yn eu dewis iaith; • Defnyddio dulliau dysgu ac addysgu sy’n ysgogi cyfraniad a chyfranogiad gan bob dysgwr yn eu dewis iaith; • Creu o leiaf un cyfle i ddatblygu sgiliau dwyieithog nifer helaeth o aelodau yn y grwp; • Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol yn y wers;good
• Cynllunio’n llawn mewn perthynas a’r deilliannau dysgu ac anghenion ieithyddol y grwp, gan gynnwys cynllunio i ymestyn sgiliau iaith aelodau’r grwp; • Defnyddio adnoddau safonol er mwyn cyrraedd anghenion asesu yn y ddwy iaith, gan gynnwys defnydd o adnoddau i hyrwyddo sgiliau trawsieithu; • Defnyddio’r ddwy iaith yn flaengar ac yn gywir er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn y grwp yn deall ac yn chwarae rhan weithredol yn y wers yn eu dewis iaith, gan osgoi’r dull o gyfieithu pob brawddeg o’r naill iaith i’r llall; yn gweithredu fel hwylusydd iaith (ee yn trawsieithu cyfraniadau gan aelodau yn y Gymraeg i’r Saesneg o flaen y grŵp cyfan) er mwyn osgoi llithro i’r Saesneg; • Defnyddio dulliau dysgu ac addysgu sy’n ysgogi cyfraniad a chyfranogiad gan bob dysgwr yn eu dewis iaith; • Creu mwy nag un cyfle i ddatblygu sgiliau dwyieithog nifer helaeth o aelodau yn y grwp; • Defnyddio’r Gymraeg at bwrpasau anffurfiol yn rheolaidd.excellent
• Ymgorffori dulliau ffurfiol ac anffurfiol i ymestyn sgiliau dwyieithog pob aelod neu fwyafrif aelodau’r grŵp wrth gynllunio i gyrraedd deilliannau dysgu’r pwnc; • Defnyddio adnoddau safonol mewn ffordd heriol ac ysgogol er mwyn cyrraedd anghenion asesu yn y ddwy iaith, gan gynnwys defnydd o adnoddau i hyrwyddo sgiliau trawsieithu; • Defnyddio’r ddwy iaith yn gywir mewn ffordd symbylus a chyffrous, yn gweithredu fel hwylusydd iaith (ee yn trawsieithu cyfraniadau gan aelodau yn y Gymraeg i’r Saesneg o flaen y grwp cyfan) er mwyn osgoi llithro i’r Saesneg; • Defnyddio dulliau dysgu ac addysgu sy’n ysgogi cyfraniad a chyfranogiad gan bob dysgwr yn eu dewis iaith; • Creu cyfleodd i ddatblygu sgiliau dwyieithog pob aelod neu fwyafrif o aelodau yn y grwp; • Gweithredu fel arweinydd ieithyddol wrth symbylu aelodau’r grŵp i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd;Learning outcomes
- Gwerthuso’u hanghenion ieithyddol unigol a pharatoi cynllun datblygu personol.
- Dehongli a beirniadol werthuso damcaniaethau yn ymwneud â dysgu ac addysgu dwyieithog.
- Trafod anghenion iaith gwahanol garfanau o ddysgwyr 14-19 oed, a pharatoi’n briodol ar eu cyfer.
- Cynllunio er mwyn cyflwyno pwnc mewn cyd-destun dwyieithog yn llwyddiannus .
- Dangos hyfedredd ar amrywiaeth o ddulliau a strategaethau sy’n hwyluso dysgu iaith a dysgu pwnc yn y dosbarth/gweithdy mewn amgylchedd dysgu dwyieithog.
- Defnyddio TGCh a ffynonellau ar y we i greu adnoddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog, gan sicrhau cywirdeb yr iaith ysgrifenedig.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Presentation | 20.00 | ||
Teaching Pack | 30.00 | ||
Essay | 50.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Cyfnod 1: Dydd 1 - 7 awr o sesiynau ffurfiol; Dydd 2 - 7 awr o sesiynau ffurfiol. | ||
Cyfnod 2: Dydd 3 - Sesiynau meicroddysgu ac arfarnu grŵp (5 awr). | ||
Cyfnod 3: Dydd 4 - 7 awr o sesiynau ffurfiol a sesiynau tiwtora personol (awr yn unigol). | ||
Cyfnod 4: Asesiad yn y dosbarth (2.5 awr gyswllt). | ||
Cyfnod 5: Dydd 5 - Seminar cloi (3.5 awr gyswllt). |
Courses including this module
Optional in courses:
- X3AA: Diploma Education Studies year 1 (DIP/ED)
- X3AB: MA Education Studies (part-time) year 1 (MA/ED)