Mae ein cwrs BA Cynradd SAC yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu ac yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro creadigol ac arloesol.
Mae Cymru ar flaen y gad ym maes diwygio addysgol. Cynlluniwyd ein cyrsiau newydd gyda'r newidiadau holistig a phedagogaidd hyn mewn golwg, sy'n golygu y byddwch yn graddio gyda set o sgiliau addysgu a sylfaen wybodaeth hynod gyfoes, rhywbeth a fydd yn eich gwneud yn gyflogadwy iawn.
Rydym yn credu'n gryf ein bod yn 'addysgu'r rhai fydd yn gwneud newidiadau yfory'. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i fod yn rhan allweddol o addysgu o safon ble bynnag y bydd eich gyrfa ym myd addysg yn mynd â chi.
- Ymysg y 5 Uchaf am ragolygon gyrfa (Guardian University Guide 2022)
- Ymysg y 10 Uchaf am ansawdd ymchwil (Complete University Guide 2022)
- Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau hyfforddi cefnogol mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig, Canolfannau Awyr Agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, i sicrhau bod gennych brofiad ehangach sy'n benodol i'ch diddordeb unigol
- Byddwch yn profi lleoliadau o fewn y gwahanol gyfnodau mewn ysgolion ledled Gogledd Cymru, sy'n golygu y byddwch yn gallu addysgu mwy nag un ystod oedran, gan ehangu eich opsiynau cyflogaeth.
- Byddwch yn cyfarfod â staff a myfyrwyr yn gweithio ar amrywiaeth o brojectau ac ymchwil datblygu cwricwlwm, sy'n rhoi awyrgylch dysgu gwirioneddol ysgogol.
- Mae ein harbenigedd rhyngwladol a'n profiad o'r theori a'r ymchwil ddiweddaraf yn ymwneud ag arweinyddiaeth yn eich paratoi ar gyfer swyddi arwain yn y dyfodol.
- Cewch gyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddechrau dysgu'r iaith a chyfoethogi eich sgiliau.
- P'un a fyddwch yn dewis cael eich rhoi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg (yn dibynnu ar eich galluoedd iaith), byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o addysgu mewn amgylchedd dwyieithog
Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau disgyblion, a hynny'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r arbenigedd ymchwil sydd gennym yn yr ysgol yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon a'r datblygiadau sylweddol ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arweinyddiaeth cryf ac effeithiol yn ein hysgolion. Byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth fodern, drylwyr nid yn unig o addysgu ond hefyd o arweinyddiaeth addysgol, a fydd yn llwyfan rhagorol i ddatblygu eich gyrfa addysgu yn gyflym.