Fy ngwlad:
Main Arts Building's quad with graduates

Archwiliwch Eich Gweledigaeth Dyngarol

Mae gan bob rhoddwr rywbeth sy’n eu hysbrydoli i roi. P'un a ydych yn teimlo’n angerddol am gefnogi myfyrwyr, hyrwyddo ymchwil neu greu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i archwilio sut y gall eich haelioni gael effaith barhaol ym Mhrifysgol Bangor.

DIOLCH AM EICH RHODD!

Beth sydd bwysicaf i chi? 

P'un a ydych yn teimlo’n angerddol am addysg, ymchwil, cynaliadwyedd, diwylliant, llesiant, neu effaith gymunedol, gall eich haelioni helpu i greu newid parhaol ym Mhrifysgol Bangor.

Yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r môr, mae Prifysgol Bangor wedi bod yn trawsnewid bywydau drwy addysg, ymchwil ac arloesi ers dros 140 mlynedd. Heddiw, rydym yn parhau i ehangu cyfleoedd, ysbrydoli darganfyddiadau, a mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf dybryd cymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.

 

Creu Cyfle, Newid Bywydau drwy Ddyngarwch

Gyda’ch rhoddion chi, rydyn ni’n creu cyfleoedd, yn ysbrydoli darganfyddiadau, ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol. O gefnogi myfyrwyr talentog a gwella'r profiad dysgu i hyrwyddo ymchwil o'r radd flaenaf ac ymgysylltu cymunedol, mae eich haelioni yn cael effaith ar bob agwedd ar Brifysgol Bangor. Mae eich cefnogaeth yn trawsnewid bywydau, yn ehangu gwybodaeth ac yn creu newid cadarnhaol sy'n cael effaith ymhell y tu hwnt i'r campws ac i gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Rydym yn cydnabod bod llawer o roddwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael sgwrs bersonol am yr effaith yr hoffent ei chael. Os hoffech drafod y meysydd sydd bwysicaf i chi ac archwilio sut y gallai eich cefnogaeth helpu i lunio dyfodol Prifysgol Bangor, mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddog Datblygu, Persida Chung, am sgwrs anffurfiol.

  01248 - 388756

  p.v.chung@bangor.ac.uk | cymynroddion@bangor.ac.uk