Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y radd MSc hon mewn Seicoleg Perfformiad yn eich paratoi'n well at berfformio fel hyfforddwr, athletwr, neu weithio fel seicolegydd perfformiad cymhwysol ym maes chwaraeon, busnes, y lluoedd arfog neu'r celfyddydau perfformio. Cyflwynir cynnwys y cwrs gan staff o'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit. Mae'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit wedi ei leoli yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r radd ar-lein mewn Seicoleg Perfformiad wedi ei modelu ar elfennau seicolegol y rhaglen radd MSc Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer, a achredir gan y BPS, a ddarperir gan y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit ar hyn o bryd.
Bydd rhan gyntaf y radd yn cymhwyso theori i ymarfer lle bynnag y bo modd ac yn ymdrin â phynciau sy'n ymwneud â pherfformiad, er enghraifft; personoliaeth, gwytnwch tîm ac unigol, straen a pherfformiad, cymhelliant, gwytnwch meddyliol, cydlyniant tîm a dynameg, arweinyddiaeth, perthynas hyfforddwrathletwyr, hyfforddiant sgiliau seicolegol, cyflymu datblygiad sgiliau, adnabod a datblygu talent, a nodweddion unigol sy'n ymwneud â pherfformiad uchaf. I gwblhau'r radd, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wneud projectau ymchwil cymhwysol neu ddamcaniaethol neu draethawd hir ar bwnc o'u dewis.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Seicoleg Perfformio (Dysgu o Bell Ar-lein yn Rhan-amser) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Caiff ymgeiswyr gyda'r cefndiroedd canlynol eu hystyried:
- Gallant ddangos y potensial i weithio ar lefel Meistr a meddu ar brofiad sy'n berthnasol i gwrs sy'n ymwneud â disgyblaeth Seicoleg Perfformiad.
- Athletwyr a hyfforddwyr proffesiynol sy'n gweithio neu sydd â phrofiad sylweddol o wirfoddoli am dair blynedd o leiaf.
- Gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn gweithio mewn maes ac eithrio chwaraeon, megis y lluoedd arfog, gwasanaethau brys a busnes, ers tair blynedd o leiaf.
- O leiaf gradd 2.2 anrhydedd mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth). Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd â gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol.
- Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs
Gyrfaoedd
Bydd y radd hon yn dysgu'r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr allu gweithio ym maes seicoleg perfformiad cymhwysol ar mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yn cynnwys chwaraeon, y lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a busnes.