Lles meddwl ac emosiynol

Cefnogi eich lles meddyliol

Os oes gennych bryderon am eich lles meddyliol, yn cael trafferthion yn y gwaith, yn eich bywyd personol neu deuluol, mae sawl gwasanaeth a all gynnig cymorth a chefnogaeth gyfrinachol.

Os ydych yn mynd trwy gyfnod anodd yn eich bywyd ac angen rhywun i siarad am bethau, mae'r tîm Caplaniaeth yma i wrando arnoch chi, i weddïo gyda chi neu ar eich rhan, a darparu arweiniad neu fentora ysbrydol.

Mae'r tîm yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF a gellir cysylltu â hwy ar 01248 382024 neu drwy e-bost. Efallai yr hoffech ymweld â'u gwefan hefyd

Ewch i gyfarfod y Tîm Caplaniaeth a dysgu am yr hyn y gallant ei ddarparu

 

 

Tîm Diogelwch Prifysgol Bangor
Y Tîm Diogelwch sy'n gyfrifol am ddiogelwch y myfyrwyr, y staff a’r ymwelwyr, yn ogystal ag ystad y brifysgol. Mae’r holl staff diogelwch yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf a gallent gynnig cyngor a chymorth ar faterion cyffredinol. Mae’r tîm diogelwch ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ac maent yn weithredol 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
Os bydd argyfwng ar y campws ffoniwch 333 o unrhyw ffôn fewnol neu 01248 382795 o ffôn symudol.

Dylid hysbysu’r tîm diogelwch ar unwaith os cysylltwch ag un o'r gwasanaethau brys 999.
Os oes gennych bryderon brys ynglŷn â lles meddyliol a/neu ddiogelwch myfyriwr, cyfeiriwch at y siart llif iechyd meddwl brys sy'n eich tywys trwy'r camau i ddod o hyd i gefnogaeth briodol ac amserol.

Mae GALW Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru
Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol yn cynnig cefnogaeth emosiynol a chyngor cyfrinachol ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl ynghyd â rhestr gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi yn eich ardal leol a gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad atynt. Gall unrhyw un sy’n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddwl ffrind ddefnyddio'r gwasanaeth GALW.
Llinell gymorth: *0800 132 737 neu anfon neges destun 'help' i 81066 * Am ddim i alw o ffôn tŷ, bydd y gost o alw o ffôn symudol yn amrywio'n sylweddol
E-bost: callhelpline.org.uk

CALM
Gall unrhyw un fod mewn argyfwng. Mae'r ‘Campaign Against Living Miserably’ (CALM) yn arwain symudiad yn erbyn hunanladdiad ac yn darparu gwasanaeth llinell gymorth a gwe-sgwrs gyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd angen siarad am broblemau bywyd neu ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth. Mae CALM hefyd yn cefnogi'r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad, trwy'r ‘Support After Suicide Partnership' (SASP).

Llinell gymorth: 0800 58 58 58 - ar agor o 5pm tan hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn

Mea Mind Cymru
yn darparu cyngor a chefnogaeth i helpu unrhyw un sy'n dioddef problem iechyd meddwl neu'n cefnogi rhywun sy'n dioddef problem iechyd meddwl. Mae llinell wybodaeth Mind yn cynnig gwybodaeth am wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, ble i fynd i chwilio am gymorth, meddyginiaeth, triniaethau ac eiriolaeth.
Llinell wybodaeth: 0300 123 3393 (ar agor rhwng 9am a 6pm, rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc).
E-bost: info@mind.org.uk.
Mae ‘Local Minds’ yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Mae pedair elusen Mind ledled y gogledd. Dewch o hyd i’ch cangen leol

111 GIG Cymru
Mae'r gwasanaeth 111 yn dwyn ynghyd wasanaethau y tu allan i oriau Galw Iechyd Cymru a meddygon teulu i ddarparu gwybodaeth am iechyd, cyngor, a mynediad i ofal sylfaenol brys, ond nad yw'n peryglu bywyd, y tu allan i oriau.

Llinell gymorth: 111 neu 0845 4647

Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
yn darparu cefnogaeth a therapi arbenigol i unrhyw un yn y gogledd sydd wedi dioddef cam-driniaeth rywiol neu drais
Llinell gymorth: 0808 80 10 800
E-bost: info@rasawales.org.uk

Mae'r Samariaid
yn cynnig man diogel i chi siarad unrhyw bryd yr hoffech chi, yn eich ffordd eich hun am beth bynnag sy'n eich poeni chi.
Llinell gymorth: 116 123 (Saesneg); 0808 164 0123 (Cymraeg).
E-bost: jo@samaritans.org
Mae'r gwasanaethau Saesneg ar gael 24/7 ac mae'r gwasanaeth Cymraeg ar gael bob dydd rhwng 7pm ac 11pm.

Canolfannau lleol sy'n cefnogi lles

Mea Canolfan Abbey Road yn cefnogi gwell iechyd meddwl i bobl dros 18 oed yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae'r ganolfan yn cynnig gweithgareddau fel grwpiau darllen, ysgrifennu creadigol, celf, crefft, garddio yn ogystal â phrojectau gydag anifeiliaid, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael. Cewch fynediad at gwnsela, therapïau cyflenwol, cefnogaeth ar gyfer dibyniaeth ac amrywiaeth o ddulliau therapiwtig. . 

Mae Canolfan Merched Gogledd Cymru yn Sir Ddinbych, yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau cymdeithasol a gwirfoddoli. Mae'r ganolfan yn darparu amgylchedd diogel, anfeirniadol a phroffesiynol, i ferched yn unig rhwng 9am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os ydych eisiau dysgu mwy am y ganolfan neu ddarganfod beth sydd ar gael, ffoniwch ni ar 01745 339331 neu dywedwch helo ar  Facebook and Twitter

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) yn darparu gwybodaeth a chyfeiriadau at amryw o wasanaethau lleol yn y gymuned i gefnogi iechyd meddwl a lles. Mae'r rheini’n cynnwys meddygfeydd y Meddygon Teulu, Hwb Cymunedol GALLAF, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, Monitro Gweithredol a therapïau. I weld rhestr gyflawn o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael gwelergwefan iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Swyddfa Hunanofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhedeg nifer o gyrsiau iechyd a lles am ddim i oedolion sy'n byw ledled y gogledd i helpu gwella lles a rheoli cyflyrau iechyd tymor hir yn effeithiol. Ymhlith y cyrsiau mae Pum Llwybr Lles, Cysylltu â Phobl, Bwyta’n Gall, Calonnau Iach a llawer mwy.

Nod iechyd galwedigaethol yw hyrwyddo a chynnal lles meddyliol a chorfforol yn y gwaith trwy feithrin diwylliant o gefnogaeth a pharch.


Gall holl staff y brifysgol gael cyngor ac ymgynghoriad i gefnogi perthynas gadarnhaol rhwng eu gwaith a'u hiechyd a rheoli risgiau yn y gwaith sy'n debygol o arwain at afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith. Ewch i Iechyd Galwedigaethol am wybodaeth ar yr amrywiaeth o wasanaethau a llwybrau atgyfeirio sydd ar gael.


SilverCloud

Gall pobl ledled Cymru, sy'n dioddef o bryder, iselder ysbryd neu straen ysgafn i gymedrol, gael mynediad at therapi ar-lein am ddim heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu. Mae SilverCloud yn lwyfan therapi ar-lein sy'n defnyddio dulliau a brofwyd fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd maent yn meddwl ac ymddwyn.

Gallwch ddewis o un o 17 o raglenni iechyd meddwl a lles ar-lein i'w cwblhau ar eich cyflymder eich hun dros gyfnod o 12 wythnos. Mae’r dewisiadau yn cynnwys cymorth gyda phryder, iselder ysbryd, straen, cwsg a phryderon ariannol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy

   

Cwnsela Gofal yn Gyntaf

 

Mae Gofal yn Gyntaf, rhaglen gymorth i staff y brifysgol, yn darparu cwnsela tymor byr cyfrinachol gan gwnselwyr â chymwysterau proffesiynol, wedi eu hachredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Mae mynediad uniongyrchol ac yn syth bin at gwnsela adros y ffôn neu ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Cliciwch yma i ddarllen mwy

Cwnsela RCS Cymru

If you are sick off work, or struggling at work, RCS Wales provide rapid access to range of free one-to-one talking therapies to help you manage stress and build resilience, reduce anxiety or deal with changes at work.

Click here to find out more

 

Hybu eich lles meddyliol

Edrychwch ar yr amrywiaeth o adnoddau a hyfforddiant sydd ar gael i wella eich ymwybyddiaeth o'ch lles meddyliol eich hun a lles eraill, a'ch helpu chi i ofalu amdanoch eich hun ac am bobl eraill.

  •  
  • Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau nos mewn pum iaith, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg a Tsieinëeg (Mandarin). Mae cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal â phobl allanol..

 

Rhowch wybod i ni a oes unrhyw ddigwyddiadau, grwpiau neu rwydweithiau lleol yr hoffech eu cynnwys ar y dudalen hon. Gall y rhain fod yn gymorth i ffurfio cysylltiadau ag eraill, annog pobl i dreulio amser yn yr awyr agored, meithrin sgiliau newydd, rhoi i eraill, neu hybu lles mewn ffyrdd creadigol. Anfonwch e-bost at dlwilliams@bangor.ac.uk gyda'ch awgrymiadau

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn 18 hectar ar lannau'r Fenai ac mae wedi bod ym meddiant Prifysgol Bangor ers 1960. Mae'r gerddi yn agored yn ystod oriau'r dydd. Mae’r tai gwydr ar agor yn ystod digwyddiadau a diwrnodau gwirfoddoli. Mae gan y brifysgol amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do ac awyr agored ar draws pedwar safle. Ewch i'n tudalen Gweithgaredd Corfforol i weld sut i gadw’n heini ym Mangor. Sefydlwyd Grŵp Adar Bangor, sydd â chysylltiadau â Phrifysgol Bangor, 70 mlynedd yn ôl. Mae'n agored i staff, myfyrwyr a'r cyhoedd (yn rhad ac am ddim) ac yn cynnal amrywiaeth ragorol o ddarlithoedd yn ogystal â theithiau maes. Mae'r Grŵp Adar yn cwrdd ar nos Fercher am 7.30pm yn ystod y tymor yn Ystafell 101, Y Ganolfan Rheolaeth, Ffordd y Coleg. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i bangorbirdgroup@gmail.com Mae’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig sesiynau myfyrio ymwybyddiaeth ofalgar am ddim. Os yw'n well gennych ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn fyw a chyda phobl eraill, gallwch hefyd ymuno ag amrywiaeth o sesiynau myfyrio’n rhad ac am ddim ar-lein ar Zoom dan ofal eu helusen gysylltiedig The Mindfulness Network, arweinir y sesiynau hyn gan athro ymwybyddiaeth ofalgar a chânt eu cynnal o leiaf unwaith yr wythnos. Mae croeso i staff a myfyrwyr ymuno r chorau a cherddorfa symffoni’r brifysgol. Mae Corws Symffoni Prifysgol Bangor yn gôr mawr SATB, sy'n cynnwys staff a myfyrwyr o bob rhan o'r brifysgol, a chantorion o'r gymuned leol. Cerddorfa Symffoni’r brifysgol yw prif gerddorfa lawn gogledd Cymru, ac mae ei haelodau’n dod o blith myfyrwyr a staff ar draws y brifysgol, ynghyd â’r offerynwyr gorau yn yr ardal gyfagos. Os ydych eisiau dysgu Cymraeg neu wella eich Cymraeg, mae'r brifysgol yn darparu llawer o gyfleoedd i staff ac i alluoedd amrywiol, ddysgu a defnyddio'r Gymraeg mewn amrywiol sefyllfaoedd, yn y gwaith ac yn gymdeithasol.

Mae lles ariannol yn ymwneud ag ymdeimlad o ddiogelwch a theimlo bod gennych ddigon o arian i dalu eich ffordd. Mae'n ymwneud â bod â rheolaeth dros eich cyllid o ddydd i ddydd a chael y rhyddid ariannol i wneud dewisiadau sy'n eich galluogi i fwynhau bywyd.

Ochr yn ochr â chynlluniau pensiwn y brifysgol, (e.e. Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) a Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor (UPAS)) gyda chyfraniad hael gan gyflogwr, mae'r brifysgol yn cymeradwyo amrywiaeth o fuddion aberthu cyflog a buddion eraill sy'n cynnig y newid i wneud arbedion treth ac yswiriant cenedlaethol ar amrywiol bryniannau a chynlluniau.

Mae Buddion Bangor yn cynnig mwy o wybodaeth am gymhwysedd ac am sut i fanteisio ar y buddion hyn.

Adnoddau lles ariannol

Mae Cynlluniwr Cyllideb yn eich rhoi chi mewn rheolaeth dros wariant ar eich aelwyd ac yn dadansoddi eich canlyniadau i'ch helpu i reoli eich arian

Mae gwefan Gofal yn Gyntaf contains information and articles relating to bills, budgets, savings, investments, pensions, and wills, including a financial health check tool and budgeting calculator. Care first's team of Information Specialists can be contacted at 0800 174 319 to confidentially discuss any monetary or financial matters

Help gyda sgamiau cyngor ar sylweddoli, osgoi, a dod at eich hun ar ôl sgamiau.

Cyngor iechyd meddwl ac ariannol i’ch helpu i ddeall, rheoli a gwella eich problemau iechyd meddwl ac ariannol

Arian ac iechyd meddwl (MIND) gall iechyd meddwl gwael wneud hi’n anoddach ennill cyflog a rheoli arian. Yma, gallwch ddysgu mwy am drefnu eich arian, hawlio budd-daliadau pan fydd gennych broblem iechyd meddwl, delio â gwasanaethau, a gofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn poeni am arian.

National Debt Helpline tîm o gynghorwyr dyledion arbenigol yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim. Yma, ceir canllawiau, taflenni ffeithiau, offer cyllidebu a llythyrau enghreifftiol i'ch helpu chi i ysgrifennu at eich credydwyr. Llinell gymorth: 0808 808 4000 ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 8pm

Mae Stepchange yn cynnig cyngor ar ddyledion am ddim sy'n seiliedig ar asesiad cynhwysfawr o'ch sefyllfa, cymorth ymarferol, a chefnogaeth am ba mor hir bynnag y mae ei hangen arnoch.
Llinell gymorth: 0808 808 4000 ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae'r brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol i staff ar bob lefel. Ewch i'r dudalen datblygu staff am fanylion sut mae cofrestru

Sesiynau hyfforddi a datblygu mewnol pwrpasol

Mae tîm Adnoddau Dynol y brifysgol yn cyflwyno sesiynau mewnol yn rheolaidd sydd wedi eu teilwra i wahanol swyddogaethau a diddordebau, megis 'rheoli amser yn ystod cyfnodau heriol', 'sgiliau hyfforddi i reolwyr', 'rheoli lles', 'ysgrifennu cofnodion effeithiol' a llawer mwy.

Cymhelliant a mentora academaidd

Mae'r cynlluniau deuol hyn yn helpu staff i ymdrin â heriau penodol sy'n gysylltiedig â gwaith a chael cyngor, arweiniad ac anogaeth ynglŷn â’u gwaith a datblygiad eu gyrfa.

Hyfforddiant I-act

I-act yw prif raglen iechyd meddwl a lles achrededig y Deyrnas Unedig ar gyfer deall a rheoli iechyd meddwl a lles yn y gwaith. Mae'r cwrs yn defnyddio llawlyfr cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddulliau a strategaethau rhagorol a defnyddiol i hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol i staff a chydweithwyr.

Cofio Iechyd Meddwl

Mae’r pecyn e-ddysgu hwn, a ddatblygwyd gan y Charlie Waller Memorial Trust, wedi ei lunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff nad ydynt yn arbenigwyr roi cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Caiff ei argymell yn arbennig i staff y brifysgol sydd â chyfrifoldebau bugeiliol. I gyrchu'r cyfle dysgu hwn, cliciwch yma.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru

Mae’r rhaglen yma yn cael ei rede gyn fewnol gan y cynghorwyr iechyd meddwl a gelli’r llogi lle drwy’r Rhaglen Hyfforddi Staff. I staff sydd â chysylltiad uniongyrchol ag oedolion a myfyrwyr bregus sy'n dioddef oherwydd problem iechyd meddwl, mae'r cwrs hwn yn dysgu'r sgiliau effeithiol a allai wneud gwahaniaeth i rywun mewn argyfwng iechyd meddwl.

Ymateb i Ddatgeliadau o Drais Rhywiol

Mae'r cwrs hwn wedi ei lunio i gynorthwyo staff i dderbyn datgeliad o drais rhywiol gan fyfyriwr. Mae'r cwrs yn un rhyngweithiol sy'n cynnwys nifer o ffilmiau byrion, astudiaethau achos, erthyglau newyddion a gweithgareddau. Dylai gymryd tua 1-2 awr i'w wneud i gyd. Cliciwch yma i gyrchu'r cwrs hwn

 

 

Adnoddau rhyngweithiol a chanllawiau ymarferol y brifysgol

  • Mae gwefan Gofal yn Gyntaf yn cynnwys erthyglau ar amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl yn cynnwys cadw’n heini’n feddyliol, cysgu’n braf, rheoli straen, hunan-barch, a chydbwysedd gwaith/bywyd.
  • Mae ap Zest Gofal yn Gyntaf a ddarperir gan My Possible Self, yn cynnig cyfresi o dan arweiniad a phecyn cymorth o dechnegau ac ymarferion rhyngweithiol i'ch helpu chi wneud synnwyr o broblemau, nodi’r arferion rydych chi am eu newid, ac dysgu dulliau er mwyn byw'n hapusach ac yn iachach.
  • Mae Gofalu am eich Meddwl yn cynnwys awgrymiadau a dulliau o gefnogi arferion a dulliau iechyd meddwl da i nodi ac ymdrin yn effeithiol ag achosion trallod Rhoddir cefnogaeth ymarferol i gydnabod symptomau iechyd meddwl gwael ynoch eich hun ac eraill, a chyngor arbenigol ar y camau i'w cymryd os ydych yn adnabod rhywun sy'n arddangos hunan-niweidio neu ymddygiad yn ymwneud â hunan-laddiad.
  • Mae Rheoli straen a lles yn gadarnhaol yn ganllaw ymarferol sy'n cyflwyno ystyriaethau allweddol mewn perthynas â rheoli'r pwysau arferol sy'n dod yn sgil addasu i newid.
  • Mae Straen yn y gwaith yn cyflwyno polisi straen y brifysgol ac yn darparu canllawiau ac offer hunanasesu wedi eu teilwra sy'n ymwneud â nodi a rheoli straen yn y gwaith. Mae'r adnoddau hyn yn amlinellu cyfrifoldebau rheolwyr a staff, wrth atal a lleihau straen yn y gwaith.
  • Mae’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig sesiynau myfyrio ymwybyddiaeth ofalgar am ddim. Os yw'n well gennych ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn fyw a chyda phobl eraill, gallwch hefyd ymuno ag amrywiaeth o sesiynau myfyrio’n rhad ac am ddim ar-lein ar Zoom dan ofal eu helusen gysylltiedig The Mindfulness Network, arweinir y sesiynau hyn gan athro ymwybyddiaeth ofalgar a chânt eu cynnal o leiaf unwaith yr wythnos.

Canolfannau lleol sy'n cefnogi lles

Mea Canolfan Abbey Road yn cefnogi gwell iechyd meddwl i bobl dros 18 oed yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae'r ganolfan yn cynnig gweithgareddau fel grwpiau darllen, ysgrifennu creadigol, celf, crefft, garddio yn ogystal â phrojectau gydag anifeiliaid, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael. Cewch fynediad at gwnsela, therapïau cyflenwol, cefnogaeth ar gyfer dibyniaeth ac amrywiaeth o ddulliau therapiwtig.

Mae Canolfan Merched Gogledd Cymru yn Sir Ddinbych, yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau cymdeithasol a gwirfoddoli. Mae'r ganolfan yn darparu amgylchedd diogel, anfeirniadol a phroffesiynol, i ferched yn unig rhwng 9am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os ydych eisiau dysgu mwy am y ganolfan neu ddarganfod beth sydd ar gael, ffoniwch ni ar 01745 339331 neu dywedwch helo ar  Facebook and Twitter

Podlediadau a chyflwyniadau

  • Give Me Strength with Alice Liveing beth sy'n gwneud unigolyn cryf? Mae'r awdur poblogaidd a hyfforddwr personol Alice Liveing yn cyfweld merched anghyffredin am bwysigrwydd meithrin gwytnwch meddyliol a chorfforol a sut y gall hyn ein grymuso i fyw bywydau hapusach a chryfach.
  • Mae How To Fail With Elizabeth Day Bob wythnos, mae rhywun gwahanol yn cael ei gyfweld ac yn trafod hyn a beth gwnaethant ddysgu o’i methiant ynghylch sut i lwyddo'n well.
  • Live Happy  yma ceir dwsinau o gyfweliadau ag arweinwyr meddwl seicoleg a lles cadarnhaol sy'n rhoi syniadau ac ymchwil i chi i fyw bywyd hapusach a mwy ystyrlon.
  • Mental Health Foundation amrywiaeth o bodlediadau, cyfweliadau a fideos lles, yn cynnwys pynciau ar iechyd meddwl plant, pobl ifanc, teuluoedd, wrth heneiddio, ac adnoddau ac offer atal, a llawer mwy.
  • Talks for when you feel totally burned out wedi ymlâdd? wedi blino'n lân? ddim yn gweld yn glir? Os oes angen rhywbeth bach arnoch i leddfu eich rhwystredigaeth a'ch helpu i ddod yn ôl at eich hun, dylai'r casgliad hwn o sgyrsiau helpu.
  • Past Imperfect a all digwyddiadau yn y gorffennol siapio llwyddiant yn y dyfodol? Mae colofnwyr y Times, Rachel Sylvester ac Alice Thomson yn siarad â phobl arbennig ynglŷn â sut roedd eiliadau yn eu bywydau cynnar wedi dylanwadu ar eu hunaniaethau, eu gyrfaoedd a'u hysfa i lwyddo.
  • The Happiness Lab Bydd yr athro o Yale, Dr Laurie Santos, yn eich tywys trwy'r ymchwil gwyddonol diweddaraf ac yn rhannu ambell i stori ryfeddol ac ysbrydoledig a fydd yn newid y ffordd rydych yn meddwl am hapusrwydd.
  • The Naked Professors mae’r hyfforddwr bywyd a’r awdur Ben Bidwell yn dod â sgyrsiau agored a throsglwyddadwy i chi am iechyd meddwl, meddylfryd a thwf personol. Mae'r Naked Professors yn cynrychioli'r genhedlaeth newydd o ddynion trwy drafodaethau dwfn a bregus am yr hyn sydd bwysicaf mewn bywyd a sut rydym yn teimlo mewn gwirionedd.

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi creu cyfres o gyflwyniadau i wella dealltwriaeth a ffyrdd o gefnogi lles meddyliol ac emosiynol yn effeithiol.

  • Getting a better understanding of our emotions Mae'r Athro Swales, arbenigwr rhyngwladol mewn triniaethau sy'n arbenigo mewn emosiynau, o'r Ysgol Seicoleg, yn disgrifio sut i ddeall ein emosiynau yn well. Mae hi'n cynnwys y prif 'deuluoedd' emosiwn a pham rydym yn eu profi cyn symud ymlaen i ddisgrifio pryd i weithredu ar ein hemosiynau a phryd a sut i leihau emosiynau sy'n rhy ddwys.
  • Top Tips for Good Mental Health Mae myfyrwyr Bangor, ddoe a heddiw, o'r Ysgol Seicoleg yn cynnig eu cyngor, ac yn adfyfyrio ar y strategaethau personol maent yn eu defnyddio i gefnogi eu lles meddyliol.

Saith Ffordd i Les

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod camau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i wella ein lles meddyliol. Datblygwyd  Five Ways to Wellbeing gan y New Economics Foundation yn 2008 gyda'r nod o annog pobl i feddwl am y pethau hynny mewn bywyd sy'n bwysig i'w lles ac efallai y dylid eu blaenoriaethu yn eu harferion o ddydd i ddydd.

Rydym wedi ychwanegu dwy ffordd newydd, hunanofal, a gofal am y blaned, gan ein bod yn credu bod ymarfer hunanofal yn sylfaenol i fywyd ystyrlon a chytbwys ac mae gofalu am y blaned yn gysylltiedig â lles cenedlaethau'r dyfodol a goroesiad rhywogaethau a chynefinoedd.

Rhowch gynnig arnynt - efallai y byddwch y'n teimlo'n fwy cadarnhaol a bodlon, yn gallu gwneud yn fawr o fywyd, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl eraill.

Cysylltu

Cysylltu â'r bobl o'ch cwmpas, ffrindiau, teulu, cydweithwyr, cymdogion, adref, yn y gwaith, yn yr ysgol neu yn eich cymuned leol. Ceisiwch beidio â dibynnu ar dechnoleg neu gyfryngau cymdeithasol yn unig i feithrin perthynas â rhywun. Rhowch o’ch amser, dangoswch ystyriaeth a pharch i feithrin cysylltiadau newydd neu gryfhau rhai sy’n bodoli eisoes..

Gwnewch ymarfer corff

Darganfyddwch weithgaredd corfforol rydych yn ei fwynhau. Rhowch gynnig ar weithgareddau sy'n eich helpu i ganolbwyntio ar y cysylltiad rhwng y corff a’r meddwl. Ewch allan a threulio amser ym myd natur. Darganfyddwch eich ardal leol trwy gerdded, beicio, rhedeg a nofio.

Cymerwch sylw

Byddwch yn chwilfrydig. Gofynnwch gwestiynau. Chwiliwch am bethau anarferol a phrin. Gwerthfawrogwch yr eiliad hon. Sylwch ar y tymhorau’n newid. Byddwch yn ymwybodol o'r byd o'ch cwmpas. Cydnabyddwch amherffeithrwydd bywyd a'ch meddyliau a'ch teimladau’n mynd heibio.

Daliwch ati i ddysgu

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Ailddarganfyddwch hen ddiddordeb. Gosodwch her y byddwch yn mwynhau ei chyflawni. Dysgwch rywbeth defnyddiol a fydd yn cryfhau eich meddwl neu eich corff, sgil neu ddull ymarferol newydd. Gall dysgu pethau newydd atgyfnerthu ymdeimlad o bwrpas a meithrin hunan-barch, yn ogystal â bod yn hwyl.

Rhoi

Gwnewch rywbeth caredig i ffrind neu ddieithryn heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl. Cynigiwch helpu. Gwenwch. Gwirfoddolwch eich amser. Dywedwch diolch wrth rywun. Gwrandewch yn astud ar bobl eraill. Edrychwch ar eich hun, a'ch hapusrwydd, yng nghyd-destun y gymuned ehangach.

Hunan-ofal


Byddwch yn garedig i chi eich hun Byddwch yn amyneddgar. Peidiwch â bod ofn methu. Dysgwch o bethach rydych yn eu difaru. Rhowch yr un cyngor i chi eich hun a thrin eich hun fel y byddech yn trin anwylyd neu ffrind. Mae'r rhan fwyaf o bobl mor hapus ag y maent yn penderfynu bod..

Gofalu am y blaned

Gwnewch newidiadau bach i'ch bywyd a fydd yn lleihau eich defnydd o ynni. Ailgylchwch. Ailddefnyddiwch. Dewiswch gemegau nad ydynt yn wenwynig yn y cartref a'r swyddfa. Prynwch yn foesegol ac yn gyfrifol. Dewiswch gynaliadwy. Addysgwch eich hun a helpwch eraill i ddeall pwysigrwydd a gwerth ein hadnoddau naturiol.

Adnoddau hunangymorth a gwybodaeth i gefnogi lles meddyliol

Action for Happiness mae llwybr pawb at hapusrwydd yn wahanol. Mae Action for Happiness wedi nodi 10 allwedd i fwy’n hapusach sy'n gyson gwneud bywyd yn hapusach ac phobl yn fwy bodlon.

A ydych yn gwybod os yw rhywun yn ei chael hi'n anodd? Pe bai ffrind yn teimlo'n bryderus, a fyddech yn sylwi ac yn gwybod beth i'w wneud? Gweld sut y gallech chi eu cefnogi.

Every Mind Matters yma ceir cyngor arbenigol ac awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ofalu am eich iechyd a'ch lles meddwl.

Mental Health UK Mae'n hawdd i waith fynd yn ormod, a gall y straen arwain at broblemau iechyd meddwl pellach yn y pen draw. Dysgwch ffyrdd a syniadau newydd i'ch helpu i reoli eich iechyd meddwl a'ch lles fel y gallwch fod ar eich gorau yn y gwaith

Mae Mind UK yn darparu gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, cyffuriau a thriniaethau, helpu eraill, hawliau cyfreithiol, a llawer o bynciau eraill.  

NHS Mood Zone edrychwch dros y canllawiau, adnoddau, awgrymiadau a gweithgareddau a all wella eich lles meddyliol, gan gynnwys cyngor i leihau straen, ffyrdd o gynyddu hunan-barch isel, ac ymarfer anadlu i leihau straen

Mae’r cyngor lleihau straen yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am y symptomau, yr achosion a'r triniaethau ar gyfer straen

Fel rhan or Strategaeth Lles mae gwaith yn mynd yn ei flaen i sefydlu rhwydwaith o Bencampwyr Lles ymhob Ysgol Academaidd a Gwasanaeth Profesiynol a bydd y gefnogaeth yma ar gael o Medi 2022.

Yn ogystal, mae 21 aelod o staff ar draws Y Brifysgol yn ymgymryd a hyfforddiant cymhelliant lles ar hyn o bryd fydd yn eu galluogi i gynnig cymorth 1:1 i staff sy’n awyddus trafod materion yn ymwneud a llesiant.

Bydd gwybodaeth bellach am y mentrau hyn ar gael drwy’r Bwletin Staff a Penaethiaid Ysgolion ac Adrannau maes o law.

Hyrwyddwr Llesiant y Staff

Isod fe welwch mwy o wybodaeth am rôl Hyrwyddwr Llesiant y Staff, gan gynnwys disgrifiad swydd a sut i wneud cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y dogfennau hyn, cysylltwch ag Anna Quin a.quinn@bangor.ac.uk

Dyma gyfle i ddod yn hyrwyddwr llesiant staff yn eich ysgol neu adran. Rydym yn chwilio am bobl sydd â brwdfrydedd ac ymrwymiad i gefnogi llesiant y staff. Byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r Brifysgol a'i staff drwy wella llesiant a boddhad yn y gwaith. O ran ysgolion/adrannau bach, caiff un hyrwyddwr ei benodi, ac ar gyfer ysgolion/adrannau canolig a mawr, caiff hyd at ddau o hyrwyddwyr eu penodi.

Bu hysbysiadau’n ddiweddar ynglŷn â hyfforddwyr staff (llesiant), sef staff a hyfforddwyd i gynnig hyfforddiant 1-1 i staff. Nid oes a wnelo hynny ddim oll â rôl yr hyrwyddwyr llesiant.

Rolau allweddol:

Tasgau penodol:

  • Cwblhau’r rhagofynion hyfforddiant (gweler isod) fel y bydd gennych y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y rôl
  • Rhoi gwybodaeth glir i’r staff am wasanaethau cefnogaeth y Brifysgol a’u cyfeirio atynt er mwyn galluogi’r staff i wneud dewisiadau gwybodus am eu llesiant personol
  • Annog cydweithwyr i fanteisio ar gyfleoedd o blith yr adnoddau iechyd a llesiant perthnasol
  • Gweithredu fel model rôl i ysbrydoli cydweithwyr i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn rhagweithiol
  • Datblygu a rhannu syniadau a mentrau gyda rhwydwaith Hyrwyddwr Llesiant y Staff, a chydweithwyr yn eich ysgol/adran er mwyn hybu diwylliant o gefnogi llesiant y staff o ddydd i ddydd.
  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd Rhwydwaith yr Hyrwyddwyr Llesiant (cyfarfod bob rhyw 6 wythnos)

Amlder y cyswllt

  • Mor aml ag sydd angen/yn briodol, megis “cyffyrddiad ysgafn” a bydd yn amrywio drwy'r flwyddyn (e.e. pan fydd ymgyrchoedd neu fentrau penodol efallai y bydd angen mwy o hyrwyddo ar ddigwyddiadau). Bydd hyn rhwng 3 a 6 awr y mis fel canllaw.

Y Dull Gweithredu Cyffredinol:

  • Helpu cyflwyno gweithgareddau sy'n cefnogi Strategaeth Iechyd a Llesiant y Brifysgol (digwyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol y Brifysgol)
  • Bydd ar gael fel rhywun y gall staff yr ysgol/adran droi ato/ati os oes ganddynt bryderon am eu llesiant
  • Gwrando’n astud ar gydweithwyr sy’n dymuno siarad am eu llesiant a’u cefnogi
  • Cynnig agwedd holistaidd lle mae llesiant yn y cwestiwn, nad yw’n gyfyngedig i’r gweithle, yn hytrach mae’n gysylltiedig â strategaethau thematig iechyd a llesiant y Brifysgol (iechyd meddwl, iechyd corfforol ac yn y blaen)

Cofiwch:

  • Mae rôl yr hyrwyddwr llesiant yn canolbwyntio ar lesiant y staff, ac nid yw’r cylch gwaith yn cynnwys gwaith sy’n ymwneud â llesiant y myfyrwyr (er y gall fod gorgyffwrdd neu rannu arferion defnyddiol).
  • Nid oes disgwyl nac anogaeth i chi gynnig cwnsela na chyngor i gydweithwyr – yn hytrach, mae cynnig clust i wrando a chyfeirio rhywun at yr adnoddau sydd ar gael yn rhannau allweddol o’r rôl.

Rhagofynion y rôl:


Beth fyddwch chi'n ei ennill fel hyrwyddwr llesiant y staff?

  • Hyfforddiant mewn iechyd a lles
  • Sesiwn sgiliau cyflwyno/cyfeiriadedd i rôl Hyrwyddwr Llesiant y Staff
  • Hyfforddiant rheolwr 3.5 awr i-act (os na wnaeth yr ymgeiswyr yr hyfforddiant hwnnw eisoes)
  • Gweithdy/ai hyfforddi hyrwyddwyr llesiant
  • Cydweithio a rhwydweithio
  • Byddwch yn rhan o rwydwaith o gyd-hyrwyddwyr llesiant a’r nod yw cefnogi eich llesiant eich hun yn y rôl, gan rannu arloesedd a’r arfer gorau ledled y brifysgol.
  • Cefnogaeth
  • Cyfarfodydd rheolaidd Rhwydwaith Hyrwyddwyr Llesiant y Staff yn rhoi cefnogaeth, cyfleoedd i rwydweithio, a rhannu gwybodaeth newydd/arfer da
  • Sesiynau DPP i’r hyrwyddwyr llesiant a’r Brifysgol yn eu trefnu.

Gofynion personol

Bydd angen yr isod ar hyrwyddwr llesiant y staff:

  • Diddordeb mawr mewn iechyd a llesiant ac awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl
  • sgiliau cyfathrebu a gwrando clir ac effeithiol amlwg. Gallu gwrando'n astud a dangos empathi tuag at gyd-aelodau o staff ac angen cefnogaeth arnynt gyda'u hiechyd a'u llesiant
  • gallu cynrychioli ysgol/adran drwy gasglu adborth a chyflwyno syniadau i gyfarfodydd rhwydwaith Hyrwyddwyr Llesiant y Staff
  • hanes o rwydweithio, gallu cymell, a bod yn gefnogol i eraill


Yn ogystal, byddai croeso arbennig i’r sgiliau a’r rhinweddau canlynol:

  • anogir ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth o staff sy'n ymgymryd â rolau iechyd a llesiant ledled y brifysgol. Merched sy’n tueddu i lenwi swyddi iechyd a llesiant ac o’r herwydd byddem yn falch iawn o dderbyn ceisiadau oddi wrth aelodau gwrywaidd, trawsrywiol neu anneuaidd o’r staff. Rydym hefyd yn chwilio am gydbwysedd da o ran ymgeiswyr dwyieithog.
  • hyfforddiant/sgiliau blaenorol mewn unrhyw agwedd ar gefnogi llesiant (e.e. corfforol, emosiynol, cymdeithasol)

 

Cyfle i Hyrwyddwyr Llesiant Staff:

E-BOST/TAFLEN WYBODAETH I STAFF

Annwyl gydweithwyr,

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn recriwtio hyd at 30 o hyrwyddwyr llesiant y staff ledled y brifysgol (ein nod yw y bydd o leiaf un hyrwyddwr llesiant ymhob ysgol/adran, a hyd at ddau yn yr ysgolion/adrannau mawr). Os ydych yn frwd dros iechyd a llesiant ac os hoffech chi wybod mwy a gwneud cais am y swydd wirfoddol hon, darllenwch ymlaen….

Beth yw hyrwyddwyr llesiant staff?

Bydd hyrwyddwyr llesiant staff yn helpu hybu a chefnogi iechyd a llesiant y staff yn eu hysgol neu eu hadrannau trwy gyfeirio, darparu gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael, trefnu a hyrwyddo gweithgareddau llesiant achlysurol ac annog ffyrdd iach o fyw ac iechyd meddwl cadarnhaol. Byddant ar gael hefyd am sgyrsiau cefnogol gyda’u cydweithwyr sy'n dymuno siarad am eu llesiant. (cofiwch: nid swydd gynghori, hyfforddi na chwnsela yw hon, ond yn hytrach swydd i gefnogi a chyfeirio). Byddwn yn cynnig hyfforddiant a datblygiad ar gyfer y swydd , a bydd cyfarfodydd rheolaidd i’r holl hyrwyddwyr llesiant i rannu mentrau ac i gefnogi ei gilydd – mae’r manylion isod.

Bydd hyrwyddwyr llesiant staff yn helpu meithrin amgylcheddau cadarnhaol a chefnogol ledled y brifysgol. Byddant yn hwyluso ac yn dogfennu gweithgarwch llesiant lleol, gan weithio ar y cyd â hyrwyddwyr llesiant staff eraill. Bydd disgwyl hefyd iddynt ddylanwadu ar reolwyr yn eu meysydd drwy eu hysbysu ynglŷn ag unrhyw faterion sy’n codi o ran iechyd a llesiant. 

Sut gallwn i elwa o fod yn hyrwyddwr llesiant staff?

Yn ogystal â datblygu gwybodaeth a sgiliau newydd, byddwch yn rhan o rwydwaith o gydweithwyr o gefndiroedd amrywiol ledled y brifysgol sy’n frwd dros wella iechyd a llesiant a fydd yn rhwydwaith cefnogaeth i chi yn y swydd a byddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd. Byddwch hefyd yn gallu rhoi adborth i helpu llunio agenda iechyd a llesiant y brifysgol. Hefyd, mae'r swyddi hyn yn dod yn fwyfwy pwysig yn sector prifysgolion y Deyrnas Unedig a gallant fod o gymorth i chi yn eich datblygiad chi a datblygiad eich gyrfa.

Pa hyfforddiant a datblygiad a gaiff hyrwyddwyr llesiant staff?

Caiff hyrwyddwyr llesiant staff gefnogaeth lawn yn eu swydd. I ddechrau bydd sesiwn gynefino i'w dysgu am y swydd, datblygu'r sgiliau i ddechrau trafodaeth am lesiant gyda chydweithwyr yn ogystal â sgiliau trefnu a rheoli digwyddiadau. Bydd dau gwrs allanol hefyd: hyfforddiant i-act a hyfforddiant i hyrwyddwr lles. Bydd hefyd gofyn i hyrwyddwyr llesiant staff gwblhau hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod, hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth, hyfforddiant atal, a hyfforddiant ymateb i ddatgeliadau o drais rhywiol (cyrsiau ar-lein yw’r rhain i gyd sydd eisoes ar gael i bob aelod staff, i gael mynediad at y cyrsiau, cliciwch yma.)  Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhwydweithio rheolaidd er mwyn rhwydweithio, cael cefnogaeth a rhannu gwybodaeth a’r arfer gorau ym maes iechyd a llesiant. Yn ogystal, cânt flaenoriaeth am lefydd mewn hyfforddiant iechyd a llesiant a cyfleoedd datblygu achlysurol a gynigir gan y brifysgol.

Pam bod Prifysgol Bangor wedi datblygu swydd hyrwyddwr llesiant staff?

Mae iechyd a lles yn un o bedair “thema drawsnewidiol” sy’n sail i’r weledigaeth a nodir gan y brifysgol yn ei Strategaeth 2030. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cefnogi iechyd a llesiant staff yn Arolwg Staff 2020 a daeth yn fater o fwy o fyrder yn sgil pandemig Covid-19. Mae iechyd a llesiant yn hanfodol i alluogi staff i wireddu eu potensial, i ffynnu, i ymdopi â straen arferol bywyd, i weithio'n gynhyrchiol, ac i gyfrannu at y gymuned ehangach.

I ddatblygu rhagor ar y gwaith hwn, datblygwyd Strategaeth Iechyd a Llesiant i’r brifysgol gyfan ac ymgynghorwyd yn eang arni yn 2021. O dan y thema strategol “Creu Amgylcheddau Cadarnhaol”, gwnaethpwyd ymrwymiad i “Greu a gwreiddio rhwydwaith o hyrwyddwyr llesiant i hybu llesiant ledled colegau a gwasanaethau proffesiynol Prifysgol Bangor”. 

Pa ddatblygiadau eraill sydd ar y gweill ym maes iechyd a llesiant  staff Prifysgol Bangor?

Gwnaed llawer iawn o waith datblygu i sicrhau bod y brifysgol yn mabwysiadu dull a arweinir gan yr anghenion, ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i hybu iechyd a llesiant staff. Eisoes cafodd dros 100 o aelodau staff, gan gynnwys aelodau’r Pwyllgor Gweithredu, hyfforddiant sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn rheoli a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol. Yn ogystal, mae nifer o’r staff yn hyfforddwyr hyfforddedig ac maent yn cynnig hyd at dair sesiwn llesiant un-i-un i aelodau staff, ac rydym wedi comisiynu 10 cwrs hyfforddi hyfforddwyr iechyd meddwl a llesiant fel y bydd gennym grŵp o hyfforddwyr iechyd meddwl a llesiant “mewnol” sy’n gallu cyflwyno cyrsiau llesiant i-act i’r staff – bydd y cyfle i ddod yn hyfforddwr i-act yn agored i hyrwyddwyr llesiant staff (gan ddefnyddio proses ddethol oherwydd bod llefydd yn gyfyngedig). Mae'r mentrau hyn oll ar ben yr amrywiol wasanaethau cefnogi (gan gynnwys cwnsela), adnoddau ar-lein, a chyfleoedd datblygu sy'n ymwneud ag iechyd a llesiant ac sydd ar gael i aelodau staff.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hyrwyddwr llesiant staff a hyfforddwyr staff (llesiant)?

  • Efallai eich bod wedi gweld gwybodaeth am hyfforddwyr llesiant yn y bwletin staff yn ddiweddar, er eglurder, mae’r prif wahaniaethau rhwng y ddwy swydd hyn wedi eu nodi isod:
    • Mae Hyrwyddwyr Llesiant Staff yn gweithio ar draws ysgol neu adran gyfan ac yn cael trafodaethau llesiant cefnogol byr a chyfeirio staff at wasanaethau/cyfleusterau iechyd a llesiant eraill – gan gynnwys at hyfforddwyr llesiant. Efallai y byddant hefyd yn ymwneud â hwyluso gweithgareddau llesiant yn eu hysgol neu adran, ac mewn cefnogi’r rheolwyr trwy fwydo syniadau a blaenoriaethau yn ôl gan gydweithwyr, ynglŷn â meysydd llesiant.
    • Mae hyfforddwyr staff (llesiant) yn cefnogi staff ar sail un i un i drafod eu hiechyd a'u llesiant yn fanwl ac i gynllunio camau gweithredu gyda hwy i gefnogi hyn; Bydd hyfforddwyr yn cyfarfod hyd at deirgwaith gydag aelodau staff i'w cefnogi i gyflawni eu nodau llesiant personol.

A fydd y rôl hon yn cael ei chynnwys fel rhan o ddyraniad y Model Dyrannu Llwyth Gwaith?

Rydym ar hyn o bryd yn edrych i weld beth yw’r ffordd orau o gynnwys y rôl hon yn y model dyrannu llwyth gwaith, a’r disgwyl yw y bydd yn cael ei chyfrif fel rhan o’r dyraniad yn y dyfodol agos. Yn achos staff anacademaidd, disgwylir y bydd y rôl hon yn cyd-fynd â’r oriau arferol, ac y bydd addasiadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod modd i chi ymgymryd â’r rôl yn effeithiol.

Hoffwn wneud cais i fod yn hyrwyddwr llesiant staff. Beth yw’r cam nesaf i mi?

Os hoffech gael eich ystyried am y swydd, bydd rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell i wneud hyn, felly anfonwch e-bost yn nodi eich enw, swydd broffesiynol gyfredol, ac adran at Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Llesiant (a.quinn@bangor.ac.uk) ynghyd â datganiad byr, heb fod yn fwy na 400 gair, yn egluro pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd, a pham rydych yn credu y byddwch yn hyrwyddwr llesiant staff effeithiol.   I helpu datblygu eich datganiad, gweler y disgrifiad swydd isod. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon o geisiadau yw 27/05/2022.  Rydym yn awyddus iawn i gael ceisiadau o bob rhan o'r brifysgol. Os bydd sawl aelod staff yn gwneud cais o'r un adran, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n gallu dangos hanes o ddiddordeb cyson yn natblygiad iechyd a llesiant, gan gynnwys swyddi bugeiliol, a hanes o gymryd rhan mewn hyfforddiant sy’n gysylltiedig ag iechyd a llesiant.

Mae’n gyfle gwych i ymwneud â maes allweddol i gefnogi a datblygu staff a bod yn rhan o fenter newydd gyffrous ym Mhrifysgol Bangor.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y wybodaeth hon, cysylltwch ag Anna Quinn: a.quinn@bangor.ac.uk

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?