Module PCC-1011:
Sgiliau academaidd dwyieithog
Sgiliau Academaidd Dwyieithog 2022-23
PCC-1011
2022-23
School Of Human And Behavioural Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Emma Hughes-Parry
Overview
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) Sut i ysgrifennu adroddiadau gwyddonol ar lefel Prifysgol b) Sut i gyfeirnodi yn gywir c) Defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy ch) Sut i osgoi llên-ladrad d) Meddwl yn gritigol dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg e.e. trawsieithu, termau Cymraeg, e) ysgrifennu manwl f) defnyddio adborth ff) sut i gyflwyno ymchwil gwyddonol ar lafar
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil â fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach i ddatrys tasgau fel tîm ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil.
Assessment Strategy
-threshold -D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
-good -B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
-another level-C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
Learning Outcomes
- 1. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu mewn gwyddoniaeth.
- 2. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos sgiliau cymwys wrth ysgrifennu gwaith gwyddonol, gan ddefnyddio rheolau fformatio APA/Harvard, iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol
- 3. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar ffurf ysgrifenedig am un neu fwy o'r prif feysydd gwyddorau dynol mewn modd rhesymegol a llawn gwybodaeth.
- 4. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu trafod ac adolygu rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol
- 5. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos y gallu i gyfathrebu gwybodaeth wyddonol ar ffurf lafar trwy gyfrwng y Gymraeg.
- 6. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd trawsieithu o'r iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg ac y gallu i wneud hyn
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 1 Cymharu Ffynhonellau
Weighting
20%
Assessment type
Crynodol
Description
Erthygl crynhoi ymchwil
Weighting
40%
Assessment type
Crynodol
Description
Crynodeb
Weighting
20%
Assessment type
Crynodol
Description
Participation Cymryd rhan yn POPPS
Weighting
2%
Assessment type
Crynodol
Description
Small roles Cwblhau Rôl fach yn POPPS
Weighting
4%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi
Weighting
5%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi
Weighting
5%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad ar hap
Weighting
2%
Assessment type
Crynodol
Description
Cwblhau cyflwyniad ar hap
Weighting
2%