Neuadd Gartherwen
Mae'r safle hwn yn cynnwys dôl ar dir llethrog i’r dwyrain o Gartherwen a’r neuadd Rathbone newydd. Mae'r llystyfiant yn cynnwys gweiriau a pherlysiau brodorol yn bennaf, gyda nifer o goed ar hyd ei ffiniau, gan gynnwys Betula pubescens (bedw), Acer pseudoplatanus (masarn) a Ilex aquifolium (celyn). Mae’r cynefin hwn yn rhoi cynhaliaeth i beillwyr, amrywiol bryfed ac adar.