Ailddefnyddio yn y Brifysgol
British Heart Foundation Cymru (BHF) a'r Neuaddau Preswyl
British Heart Foundation Cymru yw partner ailddefnyddio Neuaddau Preswyl Prifysgol Bangor. Buom yn gweithio gyda BHF ers rhai blynyddoedd i gynyddu rhoddion ac eitemau i’w hailddefnyddio, a chefnogi elusen sy'n gweithio'n ddyfal i wella iechyd y genedl.
Mae dau fanc rhoddion parhaol ym Mhentref Myfyrwyr Ffriddoedd ac un banc ym Mhentref Myfyrwyr y Santes Fair, sydd yno drwy gydol y flwydd lle gall myfyrwyr roi dillad, manion bethau, DVDau, CDau, llyfrau ac ati nad oes arnynt eu heisiau yn. Mae ‘Ymgyrch Gormod i’w Bacio' sy'n digwydd ar ddiwedd y tymor, yn hyrwyddo ailddefnyddio ac yn annog myfyrwyr i roi eu heiddo di-angen i’r elusen yn hytrach nag yn y bin. Dyna yw nôd 'Ymgyrch Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ diwedd y tymor hefyd a’r gobaith yw y byddwn yn gallu ymestyn yr ymgyrch hon i'r gymuned yn y dyfodol.
Mae BHF hefyd yn gweithio gyda'r Brifysgol ar ymgyrchoedd a digwyddiadau amrywiol fel ‘Wythnos Am Wastraff’, ‘O'r Neuaddau i'r Cartref’, ac ‘Ymgyrch Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ diwedd tymor. Trefnir sesiynau hyfforddi adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR) hefyd gan BHF a Campws Byw. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim i'r myfyrwyr.
Mae Adroddiad ‘Gormod i’w Bacio’ 2018 Prifysgol Bangor a BHF ar gael yma.
Lug a Mug, Ail-lenwi ac Arlwyo
Mae'r Tîm Arlwyo - Bwyta Yfed Bangor, mygiau coffi, poteli dŵr a chodennau dŵr sy’n bosib eu hailddefnyddio ac mae brand Prifysgol Bangor arnynt., tra bod y Brifysgol hefyd yn 'Brifysgol Ail-lenwi'. Mae hyn yn golygu y gallwch lenwi eich potel ddŵr dro ar ôl tro yn y mannau arlwyo sydd ar y campws.Mi allwch chi brynu'r Mygiau Coffi, y Poteli Dŵr a'r Codennau Dŵr yn y rhan fwyaf o'n mannau arlwyo. Os ydych yn defnyddio eich cwpan cadw eich hunain, cewch eich diod boeth am ostyngiad o 20c.
Rhoi Gwerslyfrau i’r Llyfrgell
Mae Gorsaf Roddion (troli) ar gyfer gwerslyfrau nad oes eu hangen mwyach y Prif Llyfrgell. Rydym yn annog myfyrwyr i adael unrhyw werslyfrau nad ydyn nhw eu hangen mwyach ar y troli, a’u cyfnewid am unrhyw lyfrau sydd eu hangen arnynt. Gall myfyrwyr hefyd adael hysbysiadau ar y bwrdd y tu ôl i'r troli, os ydynt am werthu neu brynu gwerslyfrau.