Rheoli Dŵr
Mae dŵr ffres yn adnodd prin yn fyd-eang - mae llai nag 1% o'r holl ddŵr ar y Ddaear yn ddŵr croyw ar gael. Yn ogystal, mae trin a phwmpio dŵr a dŵr gwastraff yn broses ynni-ddwys. Trwy leihau faint o ddŵr a ddefnyddiwn gallwn arbed ynni a lleihau allyriadau carbon yn ogystal â chadw cyflenwadau dŵr.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23, defnyddiodd Prifysgol Bangor fwy na 129,867 metr ciwbig o ddŵr. Mae'r Brifysgol yn gosod targedau iddi'i hun i leihau'r defnydd o ddŵr fel rhan o'i System Rheoli Amgylcheddol. Rhwng 2005 a 2023, gostyngwyd cyfanswm y defnydd o ddŵr 35.6% fesul arwynebedd llawr m2.
* Gan gynnwys data CALl wedi'i gywiro ar gyfer 2018/19 a 2019/20
Mae'n bwysig bod pawb yn cyfrannu at helpu i leihau'r defnydd o ddŵr a gwarchod yr adnodd gwerthfawr hwn.
- Peidiwch â gadael tapiau'n rhedeg yn ddiangen ac adroddwch ddiferion neu ollyngiadau i campusservices@bangor.ac.uk
- Dim ond berwi cymaint o ddŵr ag sydd ei angen arnoch chi wrth wneud eich te neu goffi, bydd hyn yn helpu i arbed ynni hefyd
Dŵr Yfed
Bydd allfeydd arlwyo Prifysgol Bangor yn ail-lenwi'ch potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio am ddim, ac mae nifer o ddosbarthwyr dŵr wedi'u lleoli o amgylch y campws.