Cynaliadwyedd ym maes Adeiladu
Rydym wrthi’n lleihau maint ystad y Brifysgol, ac yn creu cyfleoedd newydd i ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gweledigaeth ddylunio. Wrth adnewyddu ein hadeiladau presennol, byddwn yn ystyried gwelliannau amgylcheddol a chost-effeithiol, ac yn eu gweithredu. Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys defnyddio systemau gwresogi ac oeri mwy effeithlon, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ailgylchu dŵr llwyd.
Mae cyfleuster ymchwil newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith o gyflawni’r project CEB+. Bydd y cyfleuster hwn yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, sef canolfan ymchwil maes y Brifysgol. Nod y fenter hon yw datblygu prosesau biolegol carbon isel fel dewisiadau amgen yn hytrach na chynhyrchion confensiynol a phrosesau gweithgynhyrchu diwydiannol. Yn rhan o’r cytundeb ariannu, mae mesurau cynaliadwyedd ychwanegol yn cael eu cyflwyno. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gosod paneli solar ffotofoltaidd ar y to a chreu ardal blodau gwyllt.
Mae’r project Egni (M-SParc 2) yn ddatblygiad carbon isel newydd, sydd wedi’i gynllunio i ddarparu llefydd a chymorth busnes i denantiaid gan eu galluogi i arloesi a chynhyrchu ynni carbon isel er mwyn datgarboneiddio’r sector ynni yng ngogledd Cymru. Mae'r cynigion dylunio tirwedd ar gyfer project Egni (M-Sparc 2) yn rhoi gwelliannau bioamrywiaeth ar waith ac yn cyd-fynd â’r gofynion ariannu.
Gwastraff ym maes adeiladu
Cyfrifoldeb y contractwr yw unrhyw wastraff a gynhyrchir ganddo, ac mae hyn wedi'i ysgrifennu yn y dogfennau caffael. Mae pob contractwr sy'n gweithio i Brifysgol Bangor yn cytuno i gael gwared ar unrhyw wastraff maent yn eu cynhyrchu yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.