Gwastraff nad yw’n bosib ei ailgylchu (caeadau du) yn y Brifysgol
Oherwydd bod y Brifysgol yn gweithio tuag at beidio ag anfon dim gwastraff i safleoedd tirlenwi, mae'r gwastraff nad yw’n bosib ei ailgylchu yn mynd i gyfleuster ‘Ynni o Wastraff’ yn Runcorn, ers canol 2018. Mae hyn yn golygu bod popeth sydd ddim yn cael ei ailgylchu gan y Brifysgol yn cael ei losgi i'w droi'n ynni. Mae metel gwerthfawr yn cael ei adfer yn ystod y broses hon ac yna yn cael ei ailgylchu. Ym mis Mai 2019, bydd ‘Parc Adfer’, Cyfleuster Adfer Ynni lleol newydd yn agor yn Sir y Fflint, Unwaith y bydd y cyfleuster hwn ar agor, bydd yr holl wastraff sydd ddim yn cael ei ailgylchu yn cael ei anfon yno.
Mae'r biniau du ledled y campws ar gyfer gwastraff sy’n amhosib i’w ailgylchu. Caiff y deunyddiau canlynol ei dderbyn yn y bin du: deunydd lapio a ffilm blastig, pecynnau creision, deunydd lapio melys/siocled/bisgedi, deunydd lapio swigod, hancesi papur gwlyb, cadachau gwlyb, cyllyll a ffyrc plastig/pren, gwellt, sachets, cwpanau coffi, bagiau plastig, masgiau, menig defnydd un-tro ac unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu.
Sylwer, os yw'r geiriau “pydradwy/compostadwy” ar eitemau fel gwydr yfed, cwpan goffi, cyllyll a ffyrc neu wellt, bydd angen iddynt fynd i'r bin du.
Lawrlwythwch y poster methu ailgylchu yma
Cynllun Ailgylchu Cwpanau Coffi
Mae Prifysgol Bangor wrthi’n lansio cynllun ailgylchu cwpanau coffi (Chwefror 2022)! Er yn amlwg, y byddai’n well gennym pe bai pawb yn defnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer eu diodydd ‘wrth fynd’, rydym yn gwybod nad yw hyn bob amser yn bosib. Rydym felly’n ymuno â chwmni lleol – Humphrey’s Waste & Recycling (sydd hefyd yn casglu ein plastigion o labordai) i ailgylchu’r cwpanau un-defnydd arferol (cwpanau papur wedi’i leinio a phlastig) a ddefnyddiwn ar draws y campws. Bydd biniau wedi eu lleoli yn Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Caffi Teras, Prif Lyfrgell, Bar Uno, Barlows a Chanolfan Brailsford.
Rydym hefyd yn edrych ar ailgylchu pethau sy'n anoddach i'w hailgylchu fel ffilm a deunydd lapio, ond mae'n debyg y cymer fwy o amser oherwydd bod angen i ni fod yn siŵr eu bod yn cael eu hailgylchu'n gynnyrch ar ddiwedd eu hoes.
Os hoffech wybod mwy am ein safbwynt ar blastig a mentrau parhaus, ewch i'r dudalen ganlynol.