Teithio a Thrafnidiaeth
Carbon deuocsid, sylffwr deuocsid, cyfansoddion nitrogen, a gronynnau carbon. Mae'r rhain i gyd, yn ogystal â nifer fwy o gyfansoddion gwenwynig, yn cael eu pwmpio i mewn i'r atmosffer bob tro rydyn ni’n troi injan wedi’i bweru gan danwydd ffosil ymlaen. Byddwn yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth Wyrdd dros y misoedd nesaf ac yn annog staff a myfyrwyr i roi cynnig ar ddulliau arall o drafnidiaeth.
Beth allwch chi ei wneud
- Oes rhaid i chi yrru? Ydych chi wedi ystyried beicio neu gerdded i gyfarfodydd neu ddarlithoedd – mi all eich bywiogi, ac yn sicr, byddwch yn arbed arian. Gweler map o leoliadau ein cawodydd a'n rheseli beiciau yma.
- Gall staff brynu beic ac offer diogelwch drwy'r cynllun aberthu cyflog.
- Ydy’ch cyfarfod yn hanfodol? Allwch chi ffonio neu yrru e-bost yn hytrach? Neu, mae gennym nifer o unedau fideo-gynadledda ar ein safle sy'n opsiwn ymarferol arall yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb. Mae'r rhain yn cyfrannu'n sylweddol at leihau ein siwrneiau ar ran busnes. Cewch fanylion pellach ar y wefan cyfleusterau fideo-gynadledda
- Gall staff brynu tocynnau bws misol Arriva am bris gostyngol
- Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau pellach. Mae'r orsaf drenau o fewn pellter cerdded o'r Brifysgol, ac mae cysylltiadau bws da yn ein gwasanaethu. Cewch fanylion amserlenni bysiau a threnau ar wefan Traveline Cymru.
- Gellir dod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus leol ar gyfer pob safle yma.
- Os mai mynd yn y car yw eich unig opsiwn, allwch chi rannu lifft?
Wasanaethau Campws: Trydaneiddio’r Fflyd
Mewn ymdrech i fod yn sefydliad sy’n gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau, mae gan y Brifysgol bellach 16 cerbyd trydan yn rhan o fflyd y Gwasanaethau Campws.
Gwnaed hyn yn bosibl drwy gais llwyddiannus gan y Gwasanaethau Campws am gyllid Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Talodd hyn am bedwar o’r cerbydau trydan. Yn ogystal, defnyddiwyd Cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i brynu chwe cherbyd ychwanegol.
Mae newid y fflyd i fod yn un trydan yn cyfrannu at uchelgais y Brifysgol i fod yn brifysgol gynaliadwy ac yn cyfrannu ymhellach at nod ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Fel yr esbonia Meryl Wyn-Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cyfleusterau y Gwasanaethau Campws:
“Fe wnaeth y cyllid yn ein galluogi ni i gyfnewid y cerbydau disel am rai trydan ac erbyn hyn mae’r Adain Ddiogelwch, ar y cyfan, ddim ond yn defnyddio cerbydau trydan.
Mae’r Adain Cyfleusterau wedi cael gwared ar y ddau gerbyd disel olaf oedd ganddyn nhw, a bellach mae’r adain yn defnyddio cerbydau trydan, ar wahân i’r adegau pan mae angen llogi fan y mae ei chefn yn codi i symud llwythi mawr a thrwm.
Ar hyn o bryd mae yna 16 cerbyd trydan yn ein fflyd ac fe fydden ni’n hoffi symud ymhellach i lawr y llwybr trydan yn y dyfodol. Mae'r fflyd yn cynnwys dau gerbyd arbenigol yn rhan o’r fflyd - tryc tipio a fan cawell.
Mae’r Tîm Tiroedd a Thirlunio wedi dweud eu bod yn gallu gweithio’n fwy effeithiol ers dechrau defnyddio’r tryc tipio. Mae gallu’r tryc i gario llwythau mwy wedi torri ar nifer y teithiau y mae’n rhaid eu gwneud i’r safle compostio, ac mae ei allu i dipio wedi cwtogi ar yr amser mae’n ei gymryd i ddadlwytho.
Mae’r ramp sydd gan y cerbyd cawell hefyd yn hynod hwylus ac yn ei gwneud lawer yn haws i’r Tîm Cyfleusterau lwytho biniau ac ailgylchu."
Dolennau
Darllenwch ein:
- Polisi Cynaliadwy Teithio a Chludiant y Brifysgol - o dan adolygiad
- Teithio Diogel Tramor - Canllawiau Cydraddoldeb i Staff