Neuadd Rathbone (dôl ogleddol)
Dôl laswelltog rhwng Ffordd y Coleg a Neuadd Rathbone yw’r safle hwn sydd wedi ei amgylchynu gan goed aeddfed a llystyfiant, yn cynnwys gweiriau a pherlysiau brodorol. Mae amrywiaethau lleol o goed ffrwythau wedi eu plannu yn y ddôl, yn ogystal â bylbiau sy’n ychwanegu lliw a diddordeb. Mae’r ardal hon yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi peillwyr, pryfed ac adar.