Y Ganolfan Rheolaeth
Mae’r safle hwn i’r dwyrain o’r Ganolfan Rheolaeth, ac mae’n cynnwys dôl yn y rhan uchaf, wedi ei ffinio gan eithin (Ulex europaeus) yn bennaf. Wrth i'r tir oleddu at i lawr, mae'r ddôl yn trawsnewid i gynnwys coed a llwyni gwasgaredig, Prunus laurocerasus (coed llawrgeirios) a Ilex aquifolium (celyn) yn bennaf. Mae gwaelod y llethr yn cynnwys mieri, garlleg trionglog ac eiddew. O arsylwadau cychwynnol, mae'r cynefin amrywiol hwn yn cynnal amrywiaeth o adar a mamaliaid bach.