
Module VPC-2400:
Bwdhaeth yn y Byd Modern
Module Facts
Run by School of History, Philosophy and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Joshua Andrews
Overall aims and purpose
Ers ei dechrau yn India'r 6ed ganrif CC, mae Bwdhaeth wedi dyfod yn un o grefyddau cenhadol mwyaf y byd, gan ledaenu'n gyntaf drwy Asia cyn ennyn poblogrwydd yn y Gorllewin yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae'r lledaeniad byd-eang hwn wedi sicrhau bod Bwdhaeth wedi dyfod yn grefydd cloriannu a chymathu, gan barhau i addasu er mwyn cymathu â gwahanol draddodiadau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd. Y bydolwg hwn fydd wrth wraidd y modiwl, wrth inni archwilio sut y bu i ledaeniad byd-eang Bwdhaeth arwain at ddatblygu amrediad o draddodiadau crefyddol, sy'n parhau i fod wedi eu canoli ar ddysgeidiaethau Siddhārtha Gautama. Yn benodol, byddem yn archwilio'r gwahaniaethau canolog rhwng y ddau draddodiad - Therefada a Mahayana, cyn ystyried arferion tantrig Bwdhaeth Fajrayana, moeseg gymdeithasol a Bwdhaeth anffyddiol Stephen Bachelor. Bydd y cwrs yn darfod drwy archwilio sut y mae'r traddodiadau amrywiol hyn yn ymateb i faterion bydol cyfoes, gan drafod rôl Bwdhaeth mewn gwleidyddiaeth a dadleuon moesegol cyfoes.
Course content
Drwy gydol y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn archwilio:
- Tarddiad hanesyddol Bwdhaeth: Bydd yr agwedd hon ar y modiwl yn archwilio bywyd ac athroniaeth Siddhārtha Gautama. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn ystyried arwyddocâd y Pedwar Gwirionedd Nobl, Tri Nod Bodolaeth a chosmoleg Bwdhaidd er mwyn asesu sut y mae Bwdhaeth yn amrywio i draddodiadau dharmaidd eraill.
- Ysgolion Bwdhaidd: Drwy gydol rhan hon y cwrs, bydd myfyrwyr yn dadansoddi lledaeniad Bwdhaeth, gan drafod sut y mae dysgeidiaethau traddodiadol Siddhārtha Gautama wedi esblygu wrth i Fwdhaeth ei sefydlu ei hun mewn ardaloedd newydd. Byddem yn asesu sut yr addasodd Bwdhaeth i ideolegau lleol er mwyn ffurfio ysgolion Bwdhaidd newydd, a bydd myfyrwyr yn cloriannu sut y mae Bwdhaeth Fajrayana a Chyswllt yn amrywio i'r traddodiadau Therefada a Mahana cynharach.
- Bwdhaeth yn y Gorllewin: Bydd myfyrwyr wedyn yn archwilio sut y mae Bwdhaeth wedi datblygu yn y Gorllewin, gan ystyried amrediad o draddodiadau gwahanol, megis Bwdhaeth anffyddiol ac ymwybyddiaeth ofalgar. Bydd gofyn i fyfyrwyr asesu sut y mae'r traddodiadau hyn yn amrywio i'r rhai a drafodwyd eisoes.
- Bwdhaeth a materion cyfoes: Bydd yr agwedd olaf hon ar y cwrs yn archwilio sut y mae gwahanol ysgolion Bwdhaidd yn ymateb i amrediad o faterion cyfoes; yn benodol, byddem yn ymchwilio sut y mae gwahanol ysgolion Bwdhaidd wedi ymateb i faterion gwleidyddol, megis Tseina'n meddiannu Tibet a'r gwrthdaro diweddar ym Murma. Byddem wedyn yn archwilio materion cysylltiedig i ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth, gan drafod ymatebion Bwdhaidd i broblemau moesegol cysylltiedig ag embryoleg, trawsblaniadau a bywddyraniad.
Assessment Criteria
excellent
A- i A+ Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
threshold
D- i D+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
good
B- i B+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
C- to C+
C- i C+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Learning outcomes
-
- Dangos ymwybyddiaeth o draddodiadau cyfoethog Bwdhaeth yn eu ffurfiau amrywiol a gallu i ymdrin â'r traddodiadau hyn.
-
- Trafod ac arddangos gwybodaeth o ffynonellau clasurol Bwdhaeth a'u deongliadau diweddarach gan rai dehonglwyr canolog y traddodiad(au).
-
- Arddangos dealltwriaeth soffistigedig o gymhlethdod amlweddog Bwdhaeth, er enghraifft, yn y berthynas rhwng credoau crefyddol, testunau, arferion a sefydliadau, â strwythurau cymdeithasol a diwylliannol, normau, estheteg a dyheadau ehangach.
-
- Cymhwyso dealltwriaeth athronyddol, themâu a dadleuon o wahanol ysgolion Bwdhaidd yn briodol i gyd-destunau cymdeithasol a disgyblaethol ehangach, gan gynnwys gwyddoniaeth feddygol a biolegol.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
ESSAY | Traethawd | Disgwylir i fyfyrwyr lunio traethawd 2,500 gair. Rhoddir y dewis o 5 cwestiwn a bydd disgwyl iddynt ateb un yn unig, |
40.00 |
Written assignment, including essay | Geirfa Termau Canolog | Disgwylir i fyfyrwyr lunio geirfa ac esboniad o dermau canolog y modiwl. Cynghorir myfyrwyr ynghylch pa fath o dermau y dylid eu diffinio a sut i fynd ati i gynnig diffiniadau clir a manwl. |
30.00 |
ORAL | Cyflwyniad Llafar Grŵp | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno cyflwyniad llafar unigol ar agedd benodol ar y modiwl. Rhoddir y dewis o 4 pwnc posibl iddynt. |
30.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Seminar | Cynhelir seminarau am un awr bob wythnos. Bydd y seminarau'n galluogi myfyrwyr i gymryd arnynt rôl fwy gweithredol yn eu profiad dysgu wrth iddynt wneud gwahanol dasgau a fydd yn eu hannog i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy wrth iddynt ymwneud yn feirniadol â'r pynciau a drafodwyd yn y darlithoedd. Yn benodol, gofynnir i fyfyrwyr ddadansoddi astudiaethau achos unigol er mwyn eu helpu i gymhwyso'r wybodaeth athronyddol a drafodwyd mewn dosbarthiadau diweddar i faterion moesegol cyfoes. Bydd seminarau'n cynnwys gwaith unigol a grŵp a fydd yn gofalu bod myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau dysgu annibynnol, ynghyd â gweithio mewn grŵp a chyfathrebu'n effeithiol. |
12 |
Private study | Darperir myfyrwyr â Gwaith darllen y disgwylir iddynt ei wneud bob wythnos; bydd y deunyddiau yn gysylltiedig â phynciau penodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau dilynol. Bydd hefyd ddisgwyl i fyfyrwyr gwblhau ymchwil manwl er mwyn cyflawni eu haseiniadau ysgrifenedig. Bydd detholiad o ffilmiau dogfen hefyd ar gael iddynt a bydd disgwyl i fyfyrwyr eu gwylio yn eu hamser eu hunain. |
164 |
Lecture | Bydd dwy awr o ddarlithoedd drwy gydol y semester (wythnosau 1-12). |
24 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Mentoring - Able to support, help, guide, inspire and/or coach others
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Precision of thought and expression in the analysis and formulation of complex and controversial problems.
- Sensitivity in interpretation of religious and philosophical texts drawn from a variety of ages and/or traditions.
- Clarity and rigour in the critical assessment of arguments presented in such texts.
- The ability to use and criticise specialised religious and philosophical terminology.
- The ability to abstract and analyse arguments, and to identify flaws in them, such as false premises and invalid reasoning.
- The ability to construct rationally persuasive arguments for or against specific religious and philosophical claims.
- The ability to move between generalisation and appropriately detailed discussion, inventing or discovering examples to support or challenge a position, and distinguishing relevant and irrelevant considerations.
- The ability to consider unfamiliar ideas and ways of thinking, and to examine critically presuppositions and methods within the disciplines of philosophy and religion.
Resources
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/vpc-2400.htmlReading list
Paul Williams with Tribe, Anthony, Buddhist Thought: A Complete Introduction to the Indian Tradition (Oxford: Routledge, 2000). Peter Harvey, Buddhism (London: Continuum, 2001). Damien Keown, Buddhism (London: Sterling, 2009).
Courses including this module
Optional in courses:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- V100: BA History year 2 (BA/H)
- VV41: BA Herit, Archae & Hist year 2 (BA/HAH)
- VV42: BA Heritage, Archaeology & History with International Exp year 2 (BA/HAHIE)
- V1V9: BA History with Archaeology with International Experience year 2 (BA/HAIE)
- V1V4: BA History with Archaeology year 2 (BA/HAR)
- V10F: BA History [with Foundation Year] year 2 (BA/HF)
- 8B03: BA History (with International Experience) year 2 (BA/HIE)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 2 (BA/HSW)
- V140: BA Modern & Contemporary History year 2 (BA/MCH)
- V130: BA Mediaeval and Early Modern His year 2 (BA/MEMH)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 2 (BA/PC)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/PCCCJ)
- VV56: BA Philosophy and Religion year 2 (BA/PHRE)
- VV5P: BA Philosophy and Religion with Placement Year year 2 (BA/PHREP)
- 3VQV: BA Philosophy and Religion and English Literature year 2 (BA/PREN)
- VVR1: BA Philosophy and Religion and French year 2 (BA/PRF)
- VVR2: BA Philosophy and Religion and German year 2 (BA/PRG)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 2 (BA/PRH)
- VVR3: BA Philosophy and Religion and Italian year 2 (BA/PRI)
- VV57: BA Philosophy and Religion with International Experience year 2 (BA/PRIE)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VVR4: BA Philosophy and Religion and Spanish year 2 (BA/PRS)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 2 (BA/PRWH)
- L300: BA Sociology year 2 (BA/S)
- L31B: BA Sociology (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/S1)
- LM40: BA Sociology & Criminology & Crim Just with International Ex year 2 (BA/SCJIE)
- LM39: BA Sociology and Criminology & Criminal Justice year 2 (BA/SCR)
- L30F: BA Sociology [with Foundation Year] year 2 (BA/SF)
- 8Y70: BA Sociology (with International Experience) year 2 (BA/SIE)
- LL34: BA Sociology and Social Policy year 2 (BA/SOCSP)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 2 (BA/SPWWH)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 2 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 2 (BA/SWWH)
- VV12: BA Welsh History/History year 2 (BA/WHH)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)
- V102: MArts History with International Experience year 2 (MARTS/HIE)
- V101: MArts History year 2 (MARTS/HIST)