Pam dewis astudio ym Mangor?
Ystod eang o gyrsiau
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu ac yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau.
Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU
Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.
Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.
Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi derbyn gwobr Arian yng ngwobrau WhatUni 2020 sy'n ein gosod yn ail orau yn y DU.
Lleoliad heb ei ail
Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019).
Buddsoddiad mewn cyfleusterau
Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.
Sicrwydd o lety
Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n cychwyn eu cais fis Medi, yn gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.