
Module CXD-2018:
Y Sgrin Fach Gymraeg
Module Facts
Run by School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Manon Williams
Overall aims and purpose
Dylai myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl hwn feddu ar y gallu i:
- gywain gwybodaeth berthnasol am ddatblygiad y ddrama deledu yng Nghymru;
- ddadansoddi’r technegau gweledol a ddefnyddir gan gyfarwyddwyr i ddehongli elfennau dramatig mewn sgript;
- ddadansoddi dramâu teledu mewn modd deallus a dychmygus;
- weithio’n annibynnol ac mewn grwpiau a chyflwyno’r syniadau’n raenus ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Course content
Yn y modiwl hwn astudir nodweddion y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres fel cyfryngau dramatig ac olrheinir datblygiad y cyfryngau yng Nghymru rhwng diwedd y 1970au a’r cyfnod presennol. Canolbwyntir ar ddadansoddi themâu a chynnwys gan archwilio’r berthynas rhwng cymeriadau a’r modd y caiff Cymru (a’r gwahanol ardaloedd o fewn y wlad) a’i phobl eu portreadu ar y sgrin deledu Gymraeg. Astudir y technegau a ddefnyddir mewn cyfresi drama a dramâu cyfres i ddenu gwylwyr a chyfleu tensiwn. Canolbwyntir ar drawstoriad eang weithiau (9 cyfres) o wahanol gyfnodau ac o wahanol ardaloedd gan gynnwys gweithiau gan ddramodwyr megis Meic Povey a Siwan Jones.
Yn gyfochrog ag astudio'r 9 cyfres uchod, bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar astudio un gyfres gyflawn, sef Pen Talar.
Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3. Bydd y cynnwys yr un fath ond bydd natur y tasgau’n wahanol.
Assessment Criteria
threshold
D- i D+
Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth eraill ynghyd â'r gallu i gywain, dadansoddi a mynegi barn bersonol ar ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael ar gystrawen a theithi'r iaith Gymraeg.
good
B- i B+
Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
excellent
A- i A+
Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos gwybodaeth drylwyr o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol yn y maes ynghyd â gallu datblygedig i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o rychwant eang o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol. Dylai'r farn honno fod yn un annibynnol, aeddfed a threiddgar sy'n dangos gwir allu i ddatblygu dadl glir, estynedig a rhesymegol mewn perthynas â dadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning outcomes
-
dangos gwybodaeth fanwl am ddatblygiad y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres yng Nghymru
-
Cymhwyso'r hyn a ddysgwyd at gyd-destun newydd a phenodol.
-
creu dadansoddiad o'r portreadau a'r themâu a gyflwynir
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
ESSAY | Traethawd | 60.00 | |
GROUP PRESENTATION | Cyflwyniad llafar mewn parau | 40.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | Darlith 3 awr x 11 wythnos |
33 |
Private study | 167 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Resources
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxd-2018.htmlCourses including this module
Compulsory in courses:
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
Optional in courses:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)