
Module BSC-2021:
Medrau Bio-Wyddoniaeth
Module Facts
Run by School of Natural Sciences
20 Credits or 10 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Stella Farrar
Overall aims and purpose
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn gwella sgiliau pwnc-benodol yn y Gwyddorau Biolegol, yn ogystal â sgiliau graddedig ac allweddol, a hynny trwy diwtorialau grŵpiau bach a dysgu dan hunan-gyfarwyddyd, gan ddefnyddio adnoddau cyfrifiadurol. Bydd y modiwl yn adeiladu ar sgiliau mewn bio-wyddoniaeth a ddatblygwyd yn y flwyddyn gyntaf, ac yn cysylltu ag agweddau pwnc-benodol ar yr ail flwyddyn, gan roi i’r myfyrwyr y medrau angenrheidiol fel y gallant gwblhau project ymchwil neu traethawd hir eu trydedd flwyddyn. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn datblygu medrau o ran meddwl yn feirniadol, meddwl yn greadigol a dulliau gwyddonol, gan gwblhau amrywiaeth o dasgau gall cynnwys; dysgu trwy ddatrys problemau, dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth, beirniadaethau ar gyfryngau/ cyhoeddiadau gwyddonol, traethodau, cyflwyniadau ac ysgrifennu blog, a chynllunio projectau.
Amcanion penodol y modiwl: Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chynyddu ymwybyddiaeth o’r dull gwyddonol. Datblygu sgiliau rhifedd llythrennedd, rheoli amser, gwaith tîm, a sgiliau cyflogadwyedd graddedigion eraill. Datblygu sgiliau o ran meddwl creadigol, y dull gwyddonol, profi damcaniaethau, cynllunio ymchwil, casglu a dadansoddi data. Paratoi’r holl fyfyrwyr ar gyfer eu project neu eu traethawd hir yn eu blwyddyn olaf.
Course content
Cyflwynir y modiwl mewn pedair cydran allweddol:
- Beirniadu Gwyddoniaeth (meddwl beirniadol). Bydd myfyrwyr yn gwneud nifer o ymarferion, yn cynnwys dysgu trwy gyfrifiadur, lle byddant yn adolygu’n feirniadol erthyglau gwyddonol o amrywiaeth o ffynonellau (teledu, cyfryngau, cylchgronau gwyddonol, blogiau). Bydd myfyrwyr yn ystyried:- gwallau mewn llenyddiaeth wyddonol; methodoleg wyddonol; cynllun arbrofol; defnyddio a chamddefnyddio canlyniadau ystadegol; cyflwyniadau gwallus a chamarweiniol o ganlyniadau; ansawdd gwahanol ffynonellau o wybodaeth. Gall pynciau gynnwys newid hinsawdd, meddygaeth amgen, creadaeth, iechyd ac afiechyd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, dadleuon, ac yn ysgrifennu blogiau wyddonol.
- Ysgrifennu gwyddonol (medrau llythrennedd) Bydd myfyrwyr yn mynd i awr o ddarlith ragarweiniol ar ysgrifennu gwyddonol. Trefnir bod rhestr o raglenni gradd a medrau pwnc-benodol ar gael ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn dewid un teitl traethawd i’w gwblhau. Dysgu trwy gyfrifiadur (CAL) – bydd cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau ategol ar gael i fyfyrwyr ar wefan Blackboard (e.e. awgrymiadau ar sut i ysgrifennu traethodau, gramadeg a dealltwriaeth, cyfeirnodi a thraethodau enghreifftiol).
- Dysgu trwy ddatrys problemau (meddwl yn greadigol). Cyflwynir hwn fel dau weithdy hyfforddi yn cymryd awr yr un (mewn grwpiau o tuag 8) gydag aelod o’r staff academaidd neu ddangoswr ôl-raddedig sydd wedi’i hyfforddi, a chynhadledd fer 2-awr, lle bydd 5 grŵp yn dod at ei gilydd i roi 10 munud o gyflwyniad llafar (gyda chwestiynau) ar eu project. Caiff y myfyrwyr senario o fywyd go-iawn (yn ymwneud â’r rhaglen radd ac yn bwnc-benodol) cyn y gweithdy cyntaf. Gofynnir i fyfyrwyr:- ystyried cwestiynau diddorol ynglŷn ag ymchwil; gosod damcaniaethau o fewn terfynau; cynllunio profion priodol ar gyfer damcaniaethau; ystyried casgliadau a dadansoddiadau o ddata; ystyried dehongliadau Trafodir y rhain yn y gweithdai.
- Cynllunio ar gyfer project Blwyddyn 3 (medrau ymarferol/ cynllunio) Cyd-drafod rhwng y myfyriwr ac arolygwr y project academaidd mewn hyd ar 3 sesiwn diwtorial. Bydd y sesiynau tiwtorial yn nodi nod ac amcanion penodol y project ac yn datblygu cynllun ar gyfer y project.
Assessment Criteria
threshold
Dylai myfyrwyr ar y trothwy:- ddangos gallu sylfaenol i werthuso’n feirniadol ddeunydd gwyddonol o amryw o ffynonellau, a chyfosod a chrynhoi’r wybodaeth hon yn glir, yn gryno ac yn rhesymegol; dangos medrau sylfaenol i ddatrys problemau, gallu i gloriannu’r cwestiynau allweddol sy’n ymwneud â senario gwyddonol mewn bywyd go-iawn, gan fframio damcaniaethu y gellir eu roi a brawf a chanfod dulliau priodol o gynllunio/ profi mewn modd arbrofol, dadansoddi a dehongli data; gallu gweithio’n effeithiol, fel rhan o grŵp a hefyd fel unigolyn; datblygu’r medrau angenrheidiol fel y gallant ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Bio-Wyddorau.
good
Dylai myfyrwyr da:- ddangos gallu i werthuso’n feirniadol ddeunydd gwyddonol o amryw o ffynonellau, a chyfosod a chrynhoi’r wybodaeth hon, ar lafar ac ar bapur, yn glir, yn gryno ac yn rhesymegol, gan gynnwys gwerthusiad beirniadol o’r dull gwyddonol; dangos cynhwysfawr eang i ddatrys problemau, gallu i gloriannu’r cwestiynau allweddol sy’n ymwneud â senario gwyddonol mewn bywyd go-iawn, gan fframio damcaniaethu y gellir eu roi a brawf a chanfod dulliau priodol o gynllunio/ profi mewn modd arbrofol, dadansoddi a dehongli data. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i awgrymu dulliau a deilliannau pendant yng nghyswllt y gwaith; gallu gweithio’n effeithiol, fel rhan o grŵp a hefyd fel unigolyn; dangos strategaethau aeddfed ar gyfer ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Bio-Wyddorau.
excellent
Dylai myfyrwyr ardderchog:- ddangos gallu i werthuso’n feirniadol ddeunydd gwyddonol o amryw o ffynonellau, a chyfosod a chrynhoi’r wybodaeth hon, ar lafar ac ar bapur, yn glir, yn gryno ac yn rhesymegol, gan gynnwys gwerthusiad cynhwysfawr a beirniadol o’r dull gwyddonol; dangos medrau aeddfed i ddatrys problemau, adnabod cwestiynau allweddol a damcaniaethu y gellir eu roi a brawf sy’n ymwneud â senario gwyddonol mewn bywyd go-iawn, gan ddangos y gallu i awgrymu dulliau priodol o gynllunio/ profi mewn modd arbrofol, dadansoddi a dehongli data. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio dulliau priodol o ymdrin ag ystadegau/ dadansoddi er mwyn dod i gasgliadau pendant o ddamcaniaethau; dangos y gallu i weithredu’n effeithiol, fel rhan o grŵp a hefyd fel unigolyn; dangos strategaethau cadarn ar gyfer ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Bio-Wyddorau.
Learning outcomes
-
Gweithio’n effeithiol fel aelod o grŵp ac yn unigol i gwblhau’r ymarferion a'r tasgau a asesir yn llwyddiannus. (Meincnodau Biowyddoniaeth: 3.2 gwybodaeth am y pwnc, 3.3 sgiliau generig, 3.4 sgiliau graddedigion ac allweddol, 3.5 sgiliau deallusol, 3.6 sgiliau ymarferol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth, 3.8 Sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm, 3.9 Sgiliau hunan-reoli a datblygiad proffesiynol).
-
Datblygu sgiliau cyflwyno llafar fel rhan o ymarferion cyflwyniad grŵp. (Meincnodau Biowyddoniaeth: 3.4 sgiliau graddedigion ac allweddol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth, 3.8 sgiliau rhyng-berthnasol a gwaith tîm).
-
Gwerthuso'n feirniadol llenyddiaeth wyddonol o amryw o ffynonellau. (Meincnodau Biowyddoniaeth: 3.2 gwybodaeth am y pwnc, 3.3 sgiliau generig, 3.5 sgiliau deallusol, 3.6 sgiliau ymarferol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth)
-
Gwerthuso a chyflwyno gwybodaeth wyddonol ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffurfiau, a all gynnwys crynodeb, traethawd, adolygiad a chynnig project, mewn dull eglur, cryno, dibynadwy a rhesymegol. (Meincnodau Biowyddoniaeth: 3.2 gwybodaeth am y pwnc, 3.5 sgiliau deallusol)
-
Delio'n greadigol â phroblem ymchwil benodol, canfod rhagdybiaethau y gellir eu profi gan ddefnyddio'r dull gwyddonol o gynllunio arbrofion priodol ac ystyried casglu, dehongli a dadansoddi data. (Meincnodau Biowyddoniaeth: 3.2 gwybodaeth am y pwnc, 3.3 sgiliau generig, 3.4 sgiliau graddedigion ac allweddol, 3.5 sgiliau deallusol, 3.6 sgiliau ymarferol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth, 3.8 Sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm, 3.9 Sgiliau hunan-reoli a datblygiad proffesiynol)
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
(Sem1) Traethawd a Chrynodeb | 25 | ||
(Sem 2) Cyflwyniad Grwp | 20 | ||
Project Plan | 25 | ||
(Sem 1) Astudiaeth Achos Dadansoddol | 30 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Workshop | Defnyddir 3 gweithdy 2-awr yng Nghydrannau A a C er mwyn hwyluso'r ddau brosiect PBL. |
16 |
Lecture | Defnyddir darlithoedd i gyflwyno pedair cydran y modiwl ac i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad ar sgiliau llyfrgell, ystadegau, asesiadau risg a chynllun arbrawf. |
14 |
Tutorial | Bydd datblygiad llwyddiannus o'r cynllun ymchwil ar gyfer y traethawd hir yn cael ei hwyluso gan 3 gweithdy 1-awr gyda goruchwyliwr y project. |
3 |
Private study | Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol i gefnogi y rhannau o'r cwrs a addysgir. Dylai i fodiwl 20-credyd fod yn gyfystyr â chyfanswm o 200 awr o waith. Yn BSX-2021, bydd angen astudiaeth annibynnol yn ogystal ag astudiaeth annibynnol fel grŵp er mwyn taclo pob un o'r 4 Cydran yn llwyddiannus. |
167 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
- Leadership - Able to lead and manage, develop action plans and objectives, offer guidance and direction to others, and cope with the related pressures such authority can result in
Subject specific skills
- Develop and identify research question(s) and/or hypotheses as the basis for investigation.
- Recognize and apply appropriate theories and concepts from a range of disciplines.
- Consider issues from a range of interdisciplinary perspectives.
- Apply subject knowledge to the understanding and addressing of problems.
- Collect, analyse and interpret primary and/or secondary data using appropriate qualitative and/or quantitative techniques.
- Engagement with current developments in the biosciences and their application.
- Engage in debate and/or discussion with specialists and non-specialists using appropriate language.
Resources
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/bsc-2021.htmlReading list
Darparir rhestr darllen drwy Talis
Courses including this module
Compulsory in courses:
- C100: BSC Biology year 2 (BSC/B)
- C10F: BSc Biology year 2 (BSC/BF)
- C511: BSc Biology with Biotechnology year 2 (BSC/BIOT)
- C102: BSc Biology (with International Experience) year 3 (BSC/BITE)
- C300: BSC Zoology year 2 (BSC/Z)
- C305: BSc Zoology with Animal Behaviour (with International Exp) year 3 (BSC/ZABIE)
- C3L2: BSC Zoology with Conservation year 2 (BSC/ZC)
- C319: BSc Zoology with Climate Change Studies year 2 (BSC/ZCC)
- C327: BSc Zoology with Climate Change Studies w International Exp year 2 (BSC/ZCCIE)
- C3L3: BSc Zoology with Conservation with International Experience year 3 (BSC/ZCIE)
- C3L4: BSc Zoology with Conservation with Placement Year year 2 (BSC/ZCP)
- C30F: BSc Zoology year 2 (BSC/ZF)
- C304: BSC Zoology with Herpetology year 2 (BSC/ZH)
- C307: BSc Zoology with Herpetology (with International Experience) year 2 (BSC/ZHIE)
- C324: BSc Zoology with International Experience year 3 (BSC/ZIE)
- C3C1: BSc Zoology with Marine Zoology (with International Exp) year 3 (BSC/ZMB)
- C350: BSC Zoology with Marine Zoology year 2 (BSC/ZMZ)
- C329: BSc Zoology with Primatology year 2 (BSC/ZP)
- C32P: Zoology with Primatology with Placement Year year 2 (BSC/ZPP)
- C330: BSc Zoology with Ornithology year 2 (BSC/ZR)
- C3D3: BSC Zoology with Animal Behaviour year 2 (BSC/ZWAB)
- C3DP: BSc Zoology with Animal Behaviour with Placement Year year 2 (BSC/ZWABP)
- C101: MBiol Master of Biology year 2 (MBIOL/BIO)
- C510: MBiol Biology with Biotechnology year 2 (MBIOL/BIOT)
- C302: MZool Zoology with Animal Behaviour year 2 (MZOOL/AB)
- C30P: MZool Zoology with Animal Behaviour with Placement Year year 2 (MZOOL/ABP)
- CD34: MZool Zoology with Conservation year 2 (MZOOL/CONS)
- CD3P: MZool Zoology with Conservation with Placement Year year 2 (MZOOL/CONSP)
- C303: MZool Zoology with Herpetology year 2 (MZOOL/HERP)
- C325: MZool Zoology with Animal Behaviour with International Exp year 3 (MZOOL/ZAIE)
- C321: MZool Zoology with Climate Change year 2 (MZOOL/ZCC)
- C326: MZool Zoology with Herpetology with International Experience year 3 (MZOOL/ZHIE)
- C353: MZool Zoology with Marine Zoology year 2 (MZOOL/ZMZ)
- C37P: MZool Zoology with Marine Zoology with Placement Year year 2 (MZOOL/ZMZP)
- C306: MZool Zoology (with International Experience) year 3 (MZOOL/ZOIE)
- C301: MZool Master of Zoology year 2 (MZOOL/ZOO)
- C333: MZool Zoology with Primatology year 2 (MZOOL/ZP)
- C334: MZool Zoology with Ornithology year 2 (MZOOL/ZR)