Canllawiau a Chod Ymddygiad
Rhagarweiniad
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd Astudiaethau yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ar gyfer rheoli hyfforddiant ymchwil a chefnogaeth myfyrwyr ôl-radd ymchwil yn yr Ysgol. Maent yn ategu canllawiau a rheoliadau Prifysgol Bangor a'r Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad ac maent yn gyson â'r ASA ar gyfer Addysg Uwch Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU.
Eu bwriad yw rhoi dealltwriaeth i ôl-raddedigion ymchwil a goruchwylwyr o'r gweithdrefnau rheoli hyfforddiant ymchwil penodol yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a'u hawliau a'u cyfrifoldebau. Mae'r canllawiau wedi'u hysgrifennu gan roi ystyriaeth i ôl-raddedigion ymchwil llawn amser. Fodd bynnag, dylai rheolaeth ôl-raddedigion ymchwil rhan amser a myfyrwyr MPhil llawn amser a rhan amser ddefnyddio'r un gweithdrefnau lle bynnag y bo modd. Mae unrhyw derfynau amser a grybwyllir yn berthnasol i ôl-raddedigion ymchwil llawn amser a dylid eu haddasu'n briodol ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil rhan amser. Yn yr un modd, ysgrifennir y canllawiau gan ragdybio bod ôl-raddedigion ymchwil yn dechrau eu hefrydiaethau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Dylid addasu unrhyw ddyddiadau a grybwyllir yn briodol i'r rhai sy'n dechrau ar eu hastudiaethau ar adegau eraill o'r flwyddyn.
|
Amcanion Hyfforddiant Ymchwil |
|
Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd |
Y Pwyllgor Traethawd Ymchwil |
Darpariaeth Hyfforddiant Ymchwil |
|
Adolygu, Monitro a Dilyniant Datblygiad |
|
Hawliau a Chyfrifoldebau Myfyrwyr |
Arholi'r Traethawd Ymchwil |
Amcanion Hyfforddiant Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Amcan ein rhaglen hyfforddiant ymchwil yw datblygu potensial ôl-raddedigion ymchwil fel ymchwilwyr annibynnol sy'n gweithredu o safbwynt theori ac sy'n gallu ymdrin â chwestiynau damcaniaethol a chymhwysol gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau ymchwil. Disgwylir i'n myfyrwyr ymchwil ôl-radd ddatblygu dealltwriaeth gadarn iawn o ystod eang o dechnegau dadansoddol, wedi ei seilio ar afael cysyniadol gref ar brosesau ymchwil a'u hathroniaethau sylfaenol. Anogir hyblygrwydd a'r gallu i addasu wrth ddewis ffyrdd o ateb cwestiynau penodol. Ein nod yw datblygu cryfderau mewn cyfathrebu a sgiliau ysgrifenedig a llafar fel bod ôl-raddedigion ymchwil yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd arbenigol a lleyg trwy amrywiaeth o fformatau. Mae ein pwyslais i raddau helaeth ar hyfforddiant ymchwil mewn ystyr eang, yn hytrach na hyfforddi i gynhyrchu traethawd ymchwil penodol yn unig. Felly rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygiad academaidd a phroffesiynol cyffredinol ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd. I'r perwyl hwn, mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn cymryd rhan weithredol yn agweddau ymchwil, addysgu a gweinyddol o waith yr ysgol a, lle bo hynny'n briodol, cyfleoedd gwaith y tu allan i'r ysgol. Mae'r ysgol yn enwog am ei hagwedd dysgwr-ganolog tuag at ddysgu israddedigion a hyfforddiant ymchwil ôl-radd ac mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r ethos hwn ledled y brifysgol.
Arweinydd Ymchwil Ôl-radd
Yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd o dan gyfarwyddyd Pennaeth yr Ysgol sy'n gyfrifol am reolaeth gyffredinol hyfforddiant ymchwil yn yr ysgol. Cyfrifoldebau penodol yr Arweinydd Ymchwil ôl-radd yw:
- Cydlynu ceisiadau, derbyniadau a gweithdrefnau cynefino ôl-raddedigion ymchwil.
- Sicrhau bod staff ac ôl-raddedigion ymchwil yn ymwybodol o weithdrefnau'r ysgol ar gyfer hyfforddiant ymchwil a chefnogaeth i ôl-raddedigion ymchwil ac yn eu gweithredu'n effeithiol.
- Sicrhau bod ôl-raddedigion ymchwil yn cael adnoddau digonol.
- Sicrhau bod cynrychiolwyr ôl-raddedigion ymchwil wedi eu penodi ac i gysylltu â nhw ynglŷn ag unrhyw faterion ôl-radd ymchwil sy'n codi.
- Rhoi cyngor a chefnogaeth gyffredinol i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd unigol pan fyddant yn gofyn amdano.
- Cydlynu'r broses o fonitro cynnydd ôl-raddedigion ymchwil
- Cydlynu proses arholi'r traethawd ymchwil.
- Cysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd a'r Ysgol Ddoethurol mewn perthynas â holl faterion ôl-raddedigion ymchwil.
- Cyflafareddu rhwng goruchwylwyr, Cadeiryddion Pwyllgorau Traethawd Ymchwil ac ôl-raddedigion ymchwil yn achos problemau na all y Pwyllgor ei hun eu datrys.
Derbyniadau
Mae ceisiadau ffurfiol yn cael eu sianelu trwy Swyddfa Derbyniadau'r Brifysgol neu, yn achos myfyrwyr rhyngwladol, trwy'r Ganolfan Addysg Ryngwladol. Fel rheol bydd gan ddarpar fyfyrwyr radd Meistr neu o leiaf radd israddedig Dosbarth Cyntaf neu gyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol ac yn gallu dangos lefel dderbyniol o ddealltwriaeth o ddulliau ymchwil a dadansoddi data sy'n briodol i'w disgyblaeth.
Mewn llawer o achosion bydd ymgeiswyr eisoes wedi nodi aelod staff fel goruchwyliwr posib ac wedi trafod pwnc yr ymchwil gydag ef neu hi. Mewn achosion lle na nodwyd goruchwyliwr posib a phwnc ymchwil, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno cynnig byr o'r pwnc ymchwil y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Bydd yr arweinydd ymchwil ôl-radd yn ceisio cael goruchwyliwr priodol ac addas i'r ymgeisydd.
Pan fo goruchwyliwr addas wedi ei nodi, a bod gan yr ymgeisydd gyllid, bydd y Swyddfa Derbyniadau yn cynnig lle ffurfiol i'r darpar fyfyriwr. Bydd y flwyddyn gofrestru gyntaf yn amodol ym mhob achos. Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen at gofrestru'n llawn ym mlwyddyn dau yn amodol ar gynnydd boddhaol fel yr amlinellir isod. Fel rheol, bydd disgwyl i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod wedi cael sgôr o fan leiaf 6.5 mewn profion iaith Saesneg safonol (IELTSs). Mae'r Ysgol yn gweithredu polisi cyfle cyfartal mewn perthynas â derbyn ôl-raddedigion ymchwil. Gellir gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil sy'n dymuno cyflwyno eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Pwyllgor Adolygu
Wrth wraidd y broses rheoli hyfforddiant ymchwil mae'r Pwyllgor Adolygu, a'i swyddogaeth yw goruchwylio hyfforddiant ymchwil a datblygiad proffesiynol ôl-raddedigion ymchwil a monitro a gwerthuso cynnydd tuag at gwblhau'r traethawd ymchwil yn amserol. Y bwriad yw nodi a darparu ar gyfer anghenion ôl-raddedigion ymchwil unigol, sylwi ar broblemau mor gynnar â phosibl a rhoi trefniadau ar waith i adfer problemau o'r fath.
Bydd y Pwyllgor Adolygu fel rheol yn cynnwys prif oruchwyliwr, ail oruchwyliwr, cadeirydd a'r myfyriwr ôl-radd ymchwil. Dewisir y Cadeirydd gan y goruchwyliwr gyda chytundeb y myfyriwr ôl-radd ymchwil. Cyfrifoldebau'r Cadeirydd yw cynorthwyo i fonitro cynnydd hyfforddiant ymchwil a thraethawd ymchwil ôl-raddedigion ymchwil, monitro ansawdd yr oruchwyliaeth a ddarperir a sicrhau bod perthynas dda yn cael ei chynnal rhwng y myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r goruchwyliwr. Dylid penodi cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Traethawd Ymchwil a'i gyflwyno i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl i'r myfyriwr ddechrau.
Bydd pob goruchwyliwr yn cael ei gymeradwyo gan Bennaeth yr Ysgol. Bydd goruchwylwyr newydd (rhai nad ydynt wedi goruchwylio o leiaf un radd ymchwil o'r blaen hyd at ei chwblhau) yn cael eu cefnogi gan ail oruchwyliwr mwy profiadol. Yn unol â rheoliadau'r brifysgol, ni all unrhyw aelod staff fod yn brif oruchwyliwr i fwy na chwe myfyriwr ôl-radd ymchwil. Dylai aelodau newydd o staff drafod y canllawiau hyn gyda'r arweinydd ymchwil ôl-radd cyn gynted ag y bo modd.
Bydd y Pwyllgor Adolygu yn sicrhau bod y gweithdrefnau ar gyfer adolygiadau datblygiad ôl-raddedigion ymchwil a phenderfyniadau cynnydd yn cael eu dilyn a bod adroddiadau ôl-raddedigion ymchwil yn cael eu cwblhau, fel y disgrifir yn Adolygu, Monitro a Dilyniant Datblygiad isod.
Yn y lle cyntaf, cyfrifoldeb Cadeirydd y Pwyllgor yw delio â chynnydd anfoddhaol. Os bydd y broblem yn parhau yna cyfeirir y mater at yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd a all weithredu neu gyfeirio'r mater at Bennaeth yr Ysgol.
Gall Cadeirydd y Pwyllgor Adolygu fod yn ffynhonnell gref o gefnogaeth gymdeithasol ac academaidd i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r goruchwyliwr, ac i bob pwrpas gall fod yn diwtor personol y myfyriwr. Dylai'r Cadeirydd, felly, gymryd diddordeb byw yn hyfforddiant ymchwil y myfyriwr ôl-radd ymchwil. Dylent gwrdd yn ffurfiol neu'n anffurfiol â myfyrwyr yn rheolaidd (o leiaf unwaith y semester) i drafod cynnydd.
Y Cyfarfod Goruchwylio Cyntaf
Fel rheol, amcan y cyfarfod goruchwylio cyntaf yw sefydlu ac egluro disgwyliadau, hawliau a chyfrifoldebau pob aelod o'r tîm goruchwylio a dylent ymdrin â'r materion canlynol:
- Amseriad ac amlder y cyfarfodydd goruchwylio.
- Lle bo mwy nag un goruchwyliwr, swyddogaethau pob un yn y broses oruchwylio.
- Disgwyliadau'r ysgol o ran oriau gwaith wedi'u neilltuo i'r ymchwil, gwyliau a phryd fydd y myfyriwr ôl-radd ymchwil ar gael yn yr adran.
- Disgwyliadau'r ysgol o ran gwaith a wneir ar gyfer yr ysgol (Oriau Adrannol).
- Gweithdrefnau monitro a dilyniant yr ysgol a'r brifysgol ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil.
- Nifer ac amlder y cyflwyniadau ysgrifenedig a ddisgwylir gan y myfyriwr a'r amser y disgwylir i oruchwylwyr ddychwelyd y gwaith.
- Y cyfleoedd a ddarperir gan Ysgol Ddoethurol y brifysgol.
- Adnoddau y gall y myfyriwr ôl-radd ymchwil eu disgwyl a'r hyn a ddisgwylir ganddynt yn gyfnewid.
Adolygu, Monitro a Dilyniant Datblygiad
Mae cofrestru yn amodol yn y flwyddyn gyntaf. Cadarnheir cofrestriad PhD llawn ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd boddhaol a chyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig llwyddiannus, fel yr amlinellir isod. Gellir tynnu ôl-raddedigion ymchwil o'r rhaglen PhD neu eu hisraddio i MPhil ar unrhyw adeg yn eu hefrydiaeth os ystyrir bod y cynnydd yn anfoddhaol gan y Pwyllgor Adolygu a'r arweinydd ôl-radd ymchwil, ar ôl cael digon o rybuddion ac amser a chefnogaeth i fynd yn ôl i drefn.
Anogir y goruchwyliwr/goruchwylwyr a'r ôl-raddedigion ymchwil i gadw cofnod byr o'r holl gyfarfodydd goruchwylio a fydd yn cael eu nodi'n ysgrifenedig gan y myfyriwr ôl-radd ymchwil a'u cymeradwyo gan y goruchwyliwr/goruchwylwyr.
Mae'r ysgol yn gweithredu proses o adolygu a monitro datblygiad y myfyriwr ôl-radd ymchwil, yn unol â gofynion y Brifysgol a'r Ysgol Ddoethurol. Dyma amcanion y broses:
- Cefnogi profiad ôl-raddedigion ymchwil yn seiliedig ar gynnydd amserol, hunanddatblygiad a chywirdeb academaidd
- Dynodi cryfderau a gwendidau yn natblygiad galluoedd yr ôl-raddedigion ymchwil ac amcanion y project
- Sicrhau bod cynlluniau gweithredu blynyddol yn cael eu datblygu yn seiliedig ar asesiad o gynnydd a nodau/amcanion y project
- Sicrhau ansawdd y berthynas rhwng y myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r goruchwyliwr.
Mae'r broses adolygu datblygiad yn canolbwyntio ar set o feini prawf sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yng ngallu'r myfyrwyr yn y meysydd canlynol:
- Sgiliau rheoli project
- Gwybodaeth a dealltwriaeth
- Cynllunio ymchwil/sgiliau labordy
- Sgiliau dadansoddi data
- Sgiliau cyfathrebu
Mae'r adolygiad yn sail i lenwi ffurflenni monitro blynyddol sy'n ofynnol gan y brifysgol a'r Ysgol Ddoethurol. Ers 2017 mae'r brifysgol wedi symud i system adolygu ar-lein y gellir mynd ati trwy FyMangor (o dan y tab Adolygu Cynnydd Ôl-raddedigion). Mae'n ofynnol i ôl-raddedigion ymchwil lenwi'r ffurflenni perthnasol cyn y cyfarfod. Disgwylir i gyfarfodydd adolygu blynyddol gael eu cynnal ym mis Mehefin bob blwyddyn.
Y Cynnig Dros Dro
Yn ystod pedwerydd mis y flwyddyn gyntaf (fel rheol mis Ionawr ar gyfer y dechrau arferol yn yr Hydref) bydd ôl-raddedigion ymchwil yn rhoi cyflwyniad ymchwil ar lafar i'r ysgol. Mae'r cynnwys yn hyblyg a chytunir arno gyda'r goruchwyliwr/goruchwylwyr a gallai fod yn gynnig o astudiaethau wedi'u cynllunio, yn amlinelliad cyffredinol o'r maes ymchwil neu'n gwestiynau o ddiddordeb neu'n gyflwyniad o ddata. Rhaid i'r cynnwys fod yn waith a gynhyrchwyd ers dechrau'r PhD (hynny yw, nid gwaith a wnaed yn flaenorol ar lefel Meistr). Bydd y cyflwyniad yn para 20 munud, a bydd 10 munud ar gyfer cwestiynau. Lle bynnag y bo modd, trefnir Diwrnod Cynnig Dros Dro lle bydd sawl myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cyflwyno gyda'i gilydd. Yn ogystal, erbyn amser y Cynnig Dros Dro disgwylir y bydd ôl-raddedigion ymchwil wedi cwblhau darn rhesymol o waith ysgrifennu i gyd-fynd â'r cyflwyniad llafar. Yn dibynnu ar natur y PhD, gallai'r ysgrifennu gwmpasu rhai/pob un o'r canlynol: cyflwyniad drafft i bapur ymchwil, adran dulliau drafft, protocol ymchwil, adolygiad llenyddiaeth, neu amserlen gyfweld. Ar ôl y cyflwyniad bydd y Pwyllgor Adolygu yn cwrdd â'r myfyriwr i drafod cynnydd a rhoi adborth. Bydd y goruchwyliwr/goruchwylwyr yn cwblhau adroddiad cynnydd byr ar gyfer yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd.
Y Cynnig Ffurfiol
Yn ystod y nawfed mis ar ôl cofrestru cychwynnol (mis Mehefin fel rheol ar gyfer y cyfnod dechrau arferol yn yr Hydref) bydd ôl-raddedigion ymchwil yn rhoi cyflwyniad llafar ffurfiol i'r ysgol am eu cynnig ymchwil a/neu ganlyniadau neu ganlyniadau rhagarweiniol eu hastudiaeth/astudiaethau cyntaf, a chynnig ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol. Bydd y cyflwyniad yn para 30 munud, a bydd 20 munud ar gyfer cwestiynau. Lle bynnag y bo modd, trefnir Diwrnod Cynnig lle bydd sawl myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cyflwyno gyda'i gilydd. Yn syth ar ôl y cyflwyniad, bydd y Pwyllgor Adolygu yn cyfarfod heb y myfyriwr ôl-radd ymchwil i drafod cynnydd a datblygiad ac, yn seiliedig ar y cyflwyniad llafar a'r gwaith ysgrifenedig a gwblhawyd hyd yma, i benderfynu a oes cynnydd digonol wedi'i wneud i warantu symud ymlaen y tu hwnt i'r cyfnod prawf. Ar gyfer y cyfarfod hwn bydd y Pwyllgor yn cyfethol o leiaf un aelod arall o staff sy'n annibynnol o dîm goruchwylio'r myfyriwr (yr arweinydd ymchwil ôl-radd fel rheol). Yna gwahoddir y myfyriwr ôl-radd ymchwil i ymuno â'r cyfarfod i drafod penderfyniadau ac argymhellion y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cofnodi:
(a) Bod y cynnydd yn foddhaol ac y dylid caniatáu i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil symud ymlaen i flwyddyn dau.
NEU
(b) Nid yw'r cynnydd yn foddhaol ac mae angen mwy o waith cyn y gall y myfyriwr ôl-radd ymchwil symud ymlaen i gofrestriad PhD llawn. Yn yr achos hwn, bydd y camau y mae'n rhaid eu cymryd i fynd yn ôl i drefn yn cael eu trafod a'u cytuno a gosodir gofynion a therfynau amser newydd. Efallai y bydd y Pwyllgor yn penderfynu y bydd angen cyflwyniad llafar a/neu ysgrifenedig pellach neu gallant wneud trefniadau eraill i werthuso cynnydd. Gall y Pwyllgor benderfynu ei bod er budd gorau'r myfyriwr ôl-radd ymchwil i beidio â symud ymlaen ymhellach na newid i radd MPhil.
Cyfrifoldebau Penodol y Goruchwyliwr
Dylai goruchwylwyr fod yn gyfarwydd â'r dogfennau a ganlyn:
- Rheoliadau Rhaglenni Ymchwil Ôl-radd Prifysgol Bangor
- Cod Ymarfer ar Ddefnyddio Myfyrwyr Ôl-radd i Addysgu Prifysgol Bangor
- Gwefan Ysgol Ddoethurol ac Amserlen Rhaglen Gweithdai Prifysgol Bangor
Cyfrifoldebau penodol y goruchwyliwr/goruchwylwyr mewn perthynas ag ôl-raddedigion ymchwil llawn amser yw:
- Rhoi arweiniad i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil wrth ddewis pwnc ymchwil priodol, i ddeall natur gradd uwch a'r safonau a ddisgwylir, wrth gynllunio'r rhaglen ymchwil, wrth gofrestru ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a datblygu priodol a gynhelir gan yr Ysgol Ddoethurol, wrth gydlynu agweddau eraill ar hyfforddiant ymchwil y myfyriwr ôl-radd ymchwil ac wrth baratoi a chyflwyno'r traethawd ymchwil.
- Sicrhau, o ddechrau'r efrydiaeth, bod y myfyriwr ôl-radd ymchwil yn ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â pherchnogaeth eiddo deallusol. Yn arbennig, dylai'r goruchwyliwr a'r myfyriwr ôl-radd ymchwil ddod i gytundeb ynglŷn â threfn awduron cyhoeddiadau a all ddeillio o'r ymchwil. Dylid ymdrin â'r materion hyn o bryd i'w gilydd trwy gydol yr efrydiaeth.
- Cadw cysylltiad trwy gyfarfodydd rheolaidd (bob wythnos fel rheol).
- Bod ar gael i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil ar bob adeg resymol arall.
- Creu amgylchedd cefnogol lle mae ôl-raddedigion ymchwil yn teimlo'n gyfforddus wrth drafod eu lles cymdeithasol a phersonol, a helpu i oresgyn unrhyw broblemau pe byddent yn codi.
- Gofyn am waith ysgrifenedig fel y bo'n briodol ac o fewn terfynau amser y cytunwyd arno a dychwelyd gwaith o'r fath gyda sylwadau adeiladol manwl o fewn amser rhesymol. Fel canllaw bras, gellir gofyn am waith ysgrifenedig tua unwaith y mis ac fel rheol efallai y bydd ôl-raddedigion ymchwil yn disgwyl iddo gael ei ddychwelyd o fewn pythefnos.
- Sicrhau bod ôl-raddedigion ymchwil yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o reoli eu hyfforddiant ymchwil eu hunain.
- Nodi gwendidau a sicrhau bod ôl-raddedigion ymchwil yn cael eu gwneud yn ymwybodol o unrhyw bethau annigonol yn eu gwaith neu eu cynnydd a'u helpu i oresgyn unrhyw wendidau neu agweddau annigonol.
- I sicrhau, lle bo'n briodol, bod y myfyriwr ôl-radd ymchwil wedi'i integreiddio'n gymdeithasol i'r ysgol a'i fod/a'i bod yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau'r ysgol.
- Gweithredu fel rheolwr llinell yr ôl-raddedigion ymchwil ar gyfer unrhyw waith a wnânt yn yr ysgol a sicrhau nad yw'r myfyriwr ôl-radd ymchwil yn cael ei ecsbloetio mewn unrhyw ffordd yn yr ysgol (gweler y Cod Ymarfer ar Ddefnyddio Myfyrwyr Ôl-radd i Addysgu)
- Cynorthwyo, lle bo'n briodol, yn natblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol pellach y myfyriwr ôl-radd ymchwil.
- Gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ôl-raddedigion ymchwil llawn amser yn cyflwyno traethawd ymchwil o fewn tair blynedd, neu bedair blynedd ar y mwyaf, ar ôl dechrau eu hastudiaethau.
Hawliau a Chyfrifoldebau Myfyrwyr
Dylai myfyrwyr fod yn gyfarwydd â'r dogfennau canlynol:
- Rheoliadau Rhaglenni Ymchwil Ôl-radd Prifysgol Bangor
- Cod Ymarfer ar Ddefnyddio Myfyrwyr Ôl-radd i Addysgu Prifysgol Bangor
- Gwefan Ysgol Ddoethurol ac Amserlen Rhaglen Gweithdai Prifysgol Bangor
- Dylai ôl-raddedigion ymchwil ymgyfarwyddo â rheoliadau'r brifysgol ar derfynau amser a chyflwyno traethodau ymchwil.
- Gall ôl-raddedigion ymchwil ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth o leiaf i'r lefel a ddisgrifiwyd yn yr adran flaenorol.
- Bydd ôl-raddedigion ymchwil yn derbyn holl fuddion arferol cofrestru ar gyfer gradd uwch a ddarperir gan y brifysgol gan gynnwys mynediad i'r llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol, Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau chwaraeon a hamdden y brifysgol. Yn ogystal, bydd ôl-raddedigion ymchwil llawn amser yn cael cymaint o le swyddfa ag sy'n rhesymol bosibl yn adeilad yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, desg, cabinet ffeilio y gellir ei gloi a lle storio arall, ac allwedd i'r adeilad a'u swyddfa. Bydd ganddynt fynediad at ddeunydd ysgrifennu a ffôn a rhoddir cod llungopïo iddynt i ganiatáu mynediad heb unrhyw gyfyngiadau i'r cyfleusterau llungopïo. Disgwylir i ôl-raddedigion ymchwil, fodd bynnag, ddangos cynildeb priodol wrth ddefnyddio deunydd ysgrifennu, y ffôn a'r llungopiwyr a byddant yn cael bil am alwadau ffôn personol. Bydd yr ysgol yn darparu cymaint ag sy'n bosibl o gyfrifiaduron personol ac argraffwyr ac ati o safon uchel, wedi'u cysylltu â rhwydwaith y brifysgol yn cynnwys yr e-bost a'r rhyngrwyd, at ddefnydd heb gyfyngiad i ôl-raddedigion ymchwil yn unig. Bydd gan ôl-raddedigion ymchwil fynediad heb unrhyw gyfyngiadau bron i fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd, ond disgwylir defnydd rhesymol unwaith eto a rhaid sianelu pob cais am fenthyciad trwy'r goruchwyliwr.
- Disgwylir i'r ôl-raddedigion ymchwil gymryd rhan weithredol yn y gwaith o reoli eu hyfforddiant ymchwil eu hunain. Dylent fod yn barod i drafod y berthynas rhwng y myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r goruchwyliwr a'u hanghenion hyfforddi canfyddedig mewn modd gonest ac agored mewn cyfarfodydd gyda'r Pwyllgor Traethawd Ymchwil a/neu ei aelodau unigol.
- Fel rheol, gall ôl-raddedigion ymchwil a ariennir gan yr ysgol ddisgwyl derbyn rhywfaint o gymorth ariannol gan yr ysgol i fynd i gynadleddau ar yr amod eu bod yn cyflwyno yn y gynhadledd a'u bod hefyd yn gwneud y cyflwyniad i'r ysgol (fel rheol cyn mynd i'r gynhadledd).
- Disgwylir i ôl-raddedigion ymchwil sydd ar efrydiaethau a ariennir gan yr ysgol gyfrannu hyd at 100 awr y flwyddyn wrth gynorthwyo gydag addysgu a dyletswyddau eraill yn yr ysgol. Gellir addasu'r ffigur hwn i gydymffurfio â chanllawiau asiantaethau cyllido yn achos ôl-raddedigion ymchwil a ariennir yn allanol. Rhaid i waith o'r fath fod yn ddatblygiadol ei natur. Hynny yw, dylai gyfrannu at ddatblygiad academaidd/proffesiynol yr ôl-raddedigion ymchwil. Gallai hyn gynnwys darlithio, cynnal/cynorthwyo gyda seminarau neu labordai, rhai mathau o farcio, ac ati. Goruchwyliwr y myfyriwr ôl-radd ymchwil fydd y rheolwr llinell ar gyfer y gwaith hwn ac fel rheol bydd â'r alwad gyntaf ar amser ei myfyriwr/ei fyfyriwr ei hun. Mater i'r myfyriwr ôl-radd ymchwil a'r goruchwyliwr gyda'i gilydd yw sicrhau na eir y tu hwnt i'r oriau hyn (oni chytunir ei fod er budd yr ôl-raddedigion ymchwil eu hunain) a bod y gwaith yn briodol ddatblygiadol. Efallai y bydd gwaith arall â thâl ar gael o bryd i'w gilydd. Bydd unrhyw gyfleoedd gwaith o'r fath yn yr ysgol yn cael eu cynnig i'r myfyriwr/myfyrwyr ôl-radd ymchwil y bernir bod ganddynt y sgiliau priodol ar gyfer y dasg, gan ystyried llwythi gwaith ac anghenion hyfforddi cyffredinol.
- Bob blwyddyn bydd y corff ôl-radd ymchwil yn ethol dau gynrychiolydd myfyrwyr. Byddant fel rheol yn ail flwyddyn eu hastudiaethau o leiaf. Swyddogaeth y cynrychiolwyr yw cynrychioli barn myfyrwyr i'r ysgol a'r Arweinydd Ymchwil Ôl-radd, lledaenu gwybodaeth i ôl-raddedigion ymchwil eraill ar ran yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd, a chynrychioli ôl-raddedigion ymchwil yr Ysgol yn Fforwm Ôl-radd y brifysgol.
- Fel rheol mae disgwyl i ôl-raddedigion ymchwil fynd i'r Rhaglen Seminar Ymchwil yn yr ysgol ac fe'u hanogir i wneud cyflwyniadau eu hunain yn y Rhaglen Seminar.
- Fel rheol mae disgwyl i ôl-raddedigion ymchwil gymryd rhan lawn a gweithredol ym mywyd yr ysgol a disgwylir iddynt gael eu gweld yn gweithio yn yr ysgol yn rheolaidd. Disgwylir y bydd ôl-raddedigion ymchwil yn gweithio o leiaf 37 awr yr wythnos am 44 wythnos y flwyddyn.
- Cyfrifoldeb yr ôl-raddedigion ymchwil yw rhoi gwybod i'w goruchwyliwr pan fyddant i ffwrdd ar wyliau ac ati, ac am unrhyw newid mewn amgylchiadau neu broblemau a allai effeithio ar eu gwaith.
- Dylai ôl-raddedigion ymchwil geisio delio ag unrhyw anghydfodau neu broblemau gyda'u goruchwyliwr yn uniongyrchol gyda'r goruchwyliwr ei hun yn y lle cyntaf. Os yw hyn yn methu neu os nad yw'n bosibl, dylent siarad â'u Cadeirydd neu'r arweinydd ymchwil ôl-radd. Gall myfyrwyr hefyd fynd at Bennaeth yr Ysgol. Mae problemau fel rheol yn cael eu datrys yn haws ac yn fwy boddhaol ar y lefel fwyaf lleol, fodd bynnag, bydd trafodaeth gynnar a gonest gyda'r goruchwyliwr fel arfer yn atal problemau bach rhag mynd yn rhai mawr.
- Lle bynnag y bo modd, bydd yr arweinydd ymchwil ôl-radd a/neu Bennaeth yr Ysgol yn delio â materion disgyblu yn yr ysgol.
- Fel pob aelod o'r ysgol, mae gan ôl-raddedigion ymchwil gyfrifoldeb i gynnal diogelwch adeilad yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a sicrhau amgylchedd gwaith iach a diogel. Dylai ôl-raddedigion ymchwil sicrhau bod yr adeilad bob amser wedi'i gloi ar ôl chwech o'r gloch gyda'r nos ac ar benwythnosau bob amser a dylent roi gwybod i'r Swyddog Iechyd a Diogelwch am unrhyw broblemau iechyd a diogelwch posibl.
Arholi'r Traethawd Ymchwil
Arholir y traethawd ymchwil yn unol â rheoliadau Phrifysgol Bangor. Bydd y bwrdd arholi yn cynnwys yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd, neu ddirprwy, fel Cadeirydd, yr arholwr allanol a'r arholwr mewnol (neu ddau arholwr allanol yn achos ymgeisydd staff). Ni chaiff y goruchwyliwr weithredu fel arholwr mewnol, ond gellir ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arholiad viva voce gyda chaniatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw. Ar ddiwedd y viva voce rhoddir cyfle i'r ôl-raddedigion ymchwil wneud sylwadau ar yr oruchwyliaeth a gawsant yn absenoldeb y goruchwyliwr. Fel rheol, bydd ôl-raddedigion ymchwil yn cael gwybod am benderfyniad y bwrdd arholi yn syth ar ôl yr arholiad viva voce.
Ymholiadau
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am dderbyniadau myfyrwyr ymchwil neu unrhyw faterion myfyrwyr ymchwil eraill at yr Arweinydd Ymchwil Ôl-radd cyfredol:
Ross Roberts PhD C.Psychol
Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Prifysgol Bangor
Adeilad George, Ffordd Caergybi,
Bangor, Gwynedd, DU LL57 2PZ.
Ffôn: (44) (0) 1248 388137 E-bost:ross.roberts@bangor.ac.uk