Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau
Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau a fydd lle bo’n briodol, yn gweithredu ar ran yr Is-Ganghellor, a bydd yn arwain materion iechyd a diogelwch yn y sefydliad.
Mae gan y Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau awdurdod, ar ran yr Is-Ganghellor, dros weithredu polisïau iechyd a diogelwch y Brifysgol, datblygu arferion da a monitro materion gweithredol cysylltiedig. Mae’r Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau yn adrodd i’r Pwyllgor Gweithredu ac i’r Is-Ganghellor drwy ei Gadeirydd.
Cylch Gorchwyl y Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau yw:
- Bod yn gyfrifol, ar ran yr Is‐Ganghellor, dros oruchwylio gweithredu Polisïau Iechyd a Diogelwch y Brifysgol
- Monitro unrhyw faterion gweithredol ynghylch iechyd a diogelwch
- Adrodd i’r Pwyllgor Gweithredu a rhoi adroddiad i Bwyllgor Iechyd a Diogelwch
- Ceisio hyrwyddo materion iechyd a diogelwch ar draws y Sefydliad
Mae’r Is-Ganghellor yn derbyn agenda, papurau a chofnodion y Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau.
Aelodaeth
- Ysgrifennydd y Prifysgol: Dr Kevin Mundy
- Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr: Ms Mair Rowlands
- Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol: Mrs Tracy Hibbert
- Deon Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg: Athro Paul Spencer
- Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes: Athro Andrew Edwards
- Rheolwr ColegGwyddorau Dynol: Dr Huw Roberts
- Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws: Mr Lars Wiegand
- Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio: Mrs Gwenan Hine
- Pennaeth Iechyd a Diogelwch ac Ysgrifennydd y Grŵp Tasg: Mr Gareth W. Jones