Polisi Cynaliadwyedd Uneb Myfyrwyr Bangor
Mae’r Undeb Bangor yn Nodi:
(1) Mae 10,000 a mwy o aelodau Undeb Myfyrwyr Bangor yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang.
(2) Mae newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn gynyddol gostus a niweidiol i bob cymdeithas ddynol. (BBC, 2010)
Mae’r Undeb hwn yn Credu:
(1) Ein dyletswydd ni yw amddiffyn yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac felly dylai egwyddorion cynaladwyedd fod wrth galon pob polisi Undeb perthnasol.
(2) Fod llawer o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu bywydau annibynnol a dylai’r Brifysgol eu cynorthwyo i fabwysiadu arferion amgylcheddol am oes fel rhan o’u haddysg ehangach.
(3) Y gall Undeb Myfyrwyr Bangor chwarae rhan hanfodol mewn cymell byw’n gynaliadwy ymysg myfyrwyr drwy hyrwyddo materion fel:
- Cadwraeth egni a dwr
- Gostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff
- Teithio cynaliadwy
- Arferion prynu cynaliadwy, moesegol
- Ymwneud gan fyfyrwyr mewn prosiectau amgylcheddol ymarferol
- Gostyngiad mewn treuliant
Mae’r Undeb hwn yn Penderfynu:
(1) Lobïo’r Brifysgol yn rhagweithiol i godi ei safonau amgylcheddol i’r lefel uchaf posib.
(2) Parhau i:
- Brynu 100% o bapur wedi’i ailgylchu.
- Brynu 100% o bapur wedi’i ailgylchu. Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
- Gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau fod datblygiad Pontio’n cwrdd â’r safonau amgylcheddol uchaf posib.
- Gwella a chynnal y tudalennau Amgylchedd a Chynaladwyedd ar wefan UM.
- Gweithio gyda Rheolwr Amgylcheddol y Brifysgol i wella perfformiad amgylcheddol y Brifysgol ac ymateb i anghenion, syniadau a hygyrchedd myfyrwyr o ran cymell cynaladwyedd.
- Codi ymwybyddiaeth myfyrwyr a staff ynghylch pwysigrwydd dilyn ffordd o fyw mwy cynaliadwy.
- Defnyddio mygiau ceramig y gellir eu hailddefnyddio’n hytrach na chwpanau plastig neu bolystyren tafladwy.
- Cyfrannu at, a chodi ymwybyddiaeth am Gyfundrefn Amgylcheddol y Brifysgol.
(3) Lleihau ei dreuliant ei hun, ailddefnyddio cynnyrch ac ailgylchu gwastraff ble bynnag y bo’n bosib drwy:
- Sicrhau fod offer trydanol, goleuadau, boeleri dwr a gwresogyddion ble bynnag y bo’n bosib yn cael eu troi i ffwrdd yn adeilad(au) UM pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Gellir sicrhau hynny drwy ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau ‘cau lawr’ ffurfiol a chorfforaethol.
- Gwneud yn siwr fod effeithlonrwydd egni’n cael ei ystyried yn ystod unrhyw broses o brynu neu ailddatblygu adeilad(au) UM. Yn y pendraw, dylai unrhyw arbedion a wneir drwy fentrau arbed egni gael eu hail-fuddsoddi mewn prosiectau effeithlonrwydd pellach.
- Ystyried p’un ai oes gwir angen gwneud pryniad, yn ogystal â dewis pwrcasu cynnyrch gyda’r effaith leiaf negyddol / mwyaf cadarnhaol.
- Gwahardd teithio ar awyrennau’n fewnwladol gan swyddogion sabothol a staff UM ar fusnes yr Undeb er mwyn dangos arweiniad, gan gymell myfyrwyr Bangor i beidio â hedfan yn fewnwladol pan fo dewisiadau trafnidiaeth amgen mwy cynaliadwy’n bodoli.
(4) Mewnblannu cynaladwyedd yn arferion prynu Undeb y Myfyrwyr hyd yn oed ymhellach drwy:
- Sicrhau’n rhagweithiol fod unrhyw gynnyrch coed (e.e. dodrefn) yn dod o ffynonellau cynaliadwy ardystiedig.
- Hyrwyddo defnydd o ddillad Masnach Deg fel dewis i Glybiau a Chymdeithasau pan fo hynny’n briodol.
- Arwain drwy esiampl a defnyddio deunyddiau Masnach Deg ar gyfer dillad y swyddogion sabothol.
(5) Cynorthwyo a chymell myfyrwyr i fyw’n fwy cynaliadwy drwy:
- Hyrwyddo unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol a gynhelir gan Gymdeithasau etc.
- Cynhyrchu a dosbarthu taflen ‘byw’n amgylcheddol’ i fyfyrwyr yn ystod Serendipedd, yr Wythnos Groeso etc.
- Hyrwyddo ymgyrchoedd a mudiadau perthnasol fel ‘Caru Bwyd, Casáu Gwastraff’ a Rhannu Ceir Myfyrwyr.
- Hyrwyddo grwpiau lleol fel Rhadgylchu, Freegle, a Mudiad Cydweithredol Ffrwythau a Llysiau Bangor.