Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau
Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol. Am wybodaeth ynglŷn â bwrsariaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ôl-raddedigion ewch i’r tab ‘Allanol’ isod.
Gwobrau’r Ysgol
Gwybodaeth ddefnyddiol
Am fanylion ffynonellau eraill o gyllid, gweler ein tudalen we amdan Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ôl-radd.
Gwobrau’r Prifysgol
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Dyma'r bwrsariaethau a'r ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Price Davies
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2020.
Thomas Ellis Memorial Fund
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2020.
Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2020.
Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2020.
Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cliciwch yma.
Disgownt teyrngarwch i raddedigion
Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bwrsariaeth Postgrad Solutions
Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...
Bwrsariaeth Mynediad ôl-raddedig
Gall myfyrwyr DU (gan eithrio myfyrwyr o Gymru*) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o’r canlynol tra’n fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academiaeth 2019/20 neu’n ddi-waith cyn cychwyn cwrs ol-radd yn Brifysgol Bangor.
- Grant Cynhaliaeth
- Benthyciad Cynhaliaeth
- Bwrsariaeth Foyer
- Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal
- Gymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith,/ Credyd Cynhwysol
Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.
Dyfernir bwrsariaeth o £500 i:
- fyfyrwyr oedd yn derbyn cyllid myfyrwyr mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion yn ystod 2019/20.
- fyfyrwyr oedd yn ddi-waith yn union cyn cychwyn eu cwrs ôl-radd
Dyfernir bwrsari o £250 i:
- fyfyrwyr oedd yn israddedigion yn 2019/20 ac yn derbyn cyllid myfyrywyr rhannol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol.
*Mae gan fyfyriwr o Gymru hawl i grant o leiaf £1,000 gan Lywodraeth Cymru
Bwrsariaethau Ehangu Mynediad ôl-radd
Mae’r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.
Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae nifer o ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o rai grwpiau. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.
Beth mae'n ei gynnwys?
Telir ffioedd dysgu am gwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil un flwyddyn neu am ddwy flynedd os yw'n astudio'n rhan amser.
Gwybodaeth ar sut i wneud cais am yr ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer 2020/21 yma. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk.
Addysgedau AALl
Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.
Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.
Cysylltiadau Defnyddiol
Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs:
- Cyngor i hunan ariannu
- Dulliau Talu Hyblyg
- Prospects
- StudentFunder.com
- Education UK
- Arts & Humanities Council
- Economic & Social Research Council
- Natural Environment Research Council
- Biotechnology and Biological Sciences Research Council
- Engineering and Physical Sciences Research Council
- NHS Social Work Bursary (English Students)
- Care Council for Wales
- Postgrad.com
- Darganfod Addysgu Cymru
Ariannu Strwythurol
Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2)
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi’i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe’i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.
Ysgoloriaethau ar gael yma.
Allanol
Bwrsariaeth newydd ar gyfer Ôl-raddedigion yng Nghymru
Mae cynllun bwrsariaeth newydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 i gynorthwyo myfyrwyr o Gymru i barhau â'u hastudiaethau ôl-raddedig yng Nghymru.
Nod y Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Graddau Meistr Ôl-radd a addysgir yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy'n aros yng Nghymru, neu'n dychwelyd i Gymru, i astudio gradd meistr ôl-raddedig yn y pynciau STEMM canlynol:
- Gwyddoniaeth
- Technoleg
- Peirianneg
- Mathemateg
- Meddygaeth
Mae bwrsariaeth ôl-raddedig newydd hefyd ar gael i'r rheini sydd am astudio 40 credyd neu fwy o'u gradd Meistr trwy gyfrwng Cymraeg.
Mae’r bwrsariaeth ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallai myfyrwyr o Gymru dderbyn hyd at £ 17,000 tuag at eu hastudiaethau a’u costau byw, os ydynt yn dewis astudio cwrs Meistr cymwys ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi.
Mae dyfarniad bwrsariaeth STEMM werth £2,000, gyda bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg o £1,000 ar gael i'r rheini sy'n astudio 40 credyd neu fwy trwy gyfrwng Cymraeg.
Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â phob myfyriwr o Gymru a'r UE sy'n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth newydd ym mis Medi, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio fel hepgoriad ffioedd i leihau cost eich ffioedd dysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu bwrsariaeth newydd o £4,000 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig 60+. Mae'r fwrsariaeth ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 i fyfyrwyr Meistr Ôl-radd a Addysgir o Gymru a'r UE, sy'n astudio yn llawn amser.
Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â phob myfyriwr sy'n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth newydd ym mis Medi, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio fel hepgoriad ffioedd i leihau cost eich ffioedd dysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
Bwrsariaeth ‘Leverhulme Trade Charities Trust’
Mwy o wybodaeth ar gael yma
FindaMasters.com Ysgoloriaeth
Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.
FindaPhD.com Ysgoloriaeth
Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.
Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor
- Gwybodaeth ar Gyfer Darpar Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd-
- Cyfarwyddwyr Astudiaethau Ôl-radd yr Ysgolion
- Cyllid Myfyrwyr
- Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd
- Gwasanaethau Myfyrwyr
Cyrsiau Wedi'u Hariannu
Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.
Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.
Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau
- Ysgoloriaethau Myfyrwyr Pantyfedwen
- British Council
- British Council
- Chevening Scholarships
- Commonwealth Scholarship Commission
- Mantais - Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg.
- Nuffield Foundation - Undergraduate Research Bursaries
- PhD Fellowships for eligible registered health professionals.
Benthyciadau
Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd
Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid – yn enwedig elusennau – a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth.
Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i’ch helpu i baratoi cais sy’n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr!
Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.
PostgraduateStudentships.co.uk
- Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.