Cyfarfod â'r criw
- Cwestiynau cyflym gyda gweddill y tîm.
Calendr Campws Byw
- Llawrlwytho Calendr Campws Byw.
Criw Campws Byw - Olatain
Hei bawb! Fy enw i yw Olaitan. Rwy'n fyfyriwr ôl-radd sy'n astudio Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol. Rwyf wrth fy modd yn rhwydweithio a chwrdd â phobl newydd felly cofiwch ddweud sut mae wrthyf ar y campws neu gysylltu â mi! Rwy'n ddyngarwraig ac mae gen i ddiddordeb mewn mentrau cymdeithasol.
Fi yw llywydd Enactus Bangor a'r gymdeithas Datblygu Personol, a Swyddog Rhwydweithiau'r cymdeithasau. Rwyf hefyd yn rhedeg grŵp chwiorydd Islamaidd o'r enw Chwiorydd Llwyddiannus Islam (@ssistersinislam ar Instagram). Mae'n lle diogel i fyfyrwyr rannu eu profiadau, mae'n agored i bawb.
Mae fy mhrofiad ym Mangor wedi bod yn anhygoel hyd yma! Mae Campws Byw'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd ac ymgolli ym mhrofiad Prifysgol Bangor.