Newyddion: Chwefror 2018

Mae gwybod sut a ble i edrych yn lleihau'r risgiau wrth yrru

Gallai hyfforddi gyrwyr ifanc a newydd i sylwi ar gyrion eu maes golwg leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd. Damweiniau traffig y ffordd yw un o'r prif bethau sy'n achosi marwolaethau yn fyd-eang a gyrwyr newydd, ifanc sydd fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau o'r fath.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018

Martial arts can improve your attention span and alertness long term – new study

Dyma erthygl yn Saesneg gan Ashleigh Johnstone, myfyrwraig PhD o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2018

Darganfod ffyrdd newydd o adnabod a thrin canserau mwyaf heriol yr ymennydd

Mae project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop yn defnyddio technoleg newydd i fynd i’r afael â dau o ganserau mwyaf ymosodol yr ymennydd.

Mae’r project ymchwil yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol fydd yn y pen draw yn gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018

Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw'n golygu gwario llai ar ofal iechyd

Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd.

Canfu arolwg Cadw'n Iach yng Nghymrua gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, fod gan y cyhoedd yng Nghymru yn gryf o blaid rhagor o reoleiddio ac ymyrryd iechyd cyhoeddus.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018

Starfish can see in the dark (among other amazing abilities)

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Coleen Suckling o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018

Positive psychology helps brain injury survivors recover with a better outlook on life

In the UK alone, nearly 350,000 people are admitted to hospital each year with an acquired brain injury, caused by anything from road traffic accidents, falls, and assaults, to vascular disorders such as strokes. And this number is growing.

This article by was Leanne Rowlands, PhD researcher in Neuropsychology, at the School of Psychology was originally published on The Conversation. Read the original article.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2018

UK criminal justice is at breaking point after years of unstable leadership

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018

Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ar restr hir gwobr o fri

Mae Lisa Blower, darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor yn un o ddeg sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr stori fer y Sunday Times EFG ar gyfer 2018.

Mae’r Wobr ryngwladol yn hybu ac yn dathlu rhagoriaeth y stori fer fodern ac yn denu ceisiadau o blith ysgrifenwyr gorau’r byd. Y Wobr o £30,000 yw’r un fwyaf hael ar gyfer stori fer yn yr iaith Saesneg.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2018

Sgwrs bwysig am yr Holocost

Nos Iau, 1 Chwefror 2018, cyflwynodd Dr David Tollerton o Brifysgol Exeter drafodaeth am ‘Gof yr Holocost a thirwedd wleidyddol grefyddol-seciwlar gyfoes Prydain’ fel rhan o gyfres seminarau Ysgol Hanes ac Archeoleg mewn cydweithrediad ag Ysgol Athroniaeth a Chrefydd. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2018

Dyddiadau i’w cofio

Chwefror 6: (Bangor) Darlith Goffa Anne Marie Jones 2018 yn cael ei rhoi gan Graham Allen, cyn AS a sylfaenydd y Sefydliad Ymyrraeth Cynnar.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018

DNA yn canfod anifeiliaid afon y funud hon

Mae ymchwil newydd yn profi bod DNA amgylcheddol yn goroesi am lai na deuddydd mewn afonydd bach, chwim, ac felly mae'n darparu gwybodaeth leol a chyfredol iawn ar gyfansoddiad rhywogaethau.  Mae hon yn dystiolaeth newydd hollbwysig wrth i fiolegwyr droi fwyfwy at dechnegau samplo DNA newydd i asesu iechyd ecosystem dwr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018