Newyddion: Gorffennaf 2018

Pobl hŷn yn helpu tyfu economi Cymru

Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu.

Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn ei ddweud yn eu hadroddiad Byw yn iach yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi ym maes iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru heddiw (30 Gorffennaf 2018).

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018

Golwg newydd ar Gymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America

Bydd academyddion a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn astudio Hanes Cymru yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (25 - 27 Gorffennaf), wrth i’r Brifysgol groesawu 12fed cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America 2018. Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018

Unused £321m trapped on dormant Oyster cards – and time may be running out to get it back

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo a myfyriwr PhD Prachandra Shakya o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick

Mae'r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll.

Ei theitl oedd Burning Secret, sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018

Pristine Antarctic fjords contain similar levels of microplastics to open oceans near big civilisations

Dyma erthygl yn Saesneg gan Katrien Van Landeghem o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac eraill, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018

Bôn-gelloedd yn cael eu trin ar ‘labordy ar sglodyn’ am y tro cyntaf

Wrth wireddu cam cyntaf project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop sy’n trin y ddau fath o ganser mwyaf ymosodol yr ymennydd, daw’r partneriaid academaidd a diwydiant at ei gilydd yr wythnos hon (11-12 Gorffennaf) i drafod y camau nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018

Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau

Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To, menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project  yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi  arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi  a fu’n  cymryd rhan.

Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI)  a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME),  gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1  a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018

Theresa May was right to reimpose collective ministerial responsibility – it's the only way to govern

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018

Addysg feddygol yng ngogledd Cymru

Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei fod yn bwriadu ehangu addysg feddygol ledled Cymru, sy'n cynnwys cyfleoedd newydd i astudio yn y gogledd.

O 2019, trwy gydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â'u gradd meddygol israddedig yn llawn yn y gogledd.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018

Prifysgol Bangor yn cael grant i ddatgelu cynnwys llythyrau Mostyn o'r 17 ganrif

Bydd tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg  a'r ddeunawfed ganrif ar gael i ysgolheigion rhyngwladol yn dilyn grant ymchwil newydd gan Gronfa Marc Fitch.

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor wedi cael grant o £40,000 i ddigido ac ymchwilio i gasgliad eithriadol o lythyrau a gedwir yn llyfrgell Plas Mostyn yn Sir y Fflint.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018

Mae rhai o bobl dlotaf y byd yn ysgwyddo costau gwarchod coedwigoedd trofannol

Nid ar draul tolodion y byd y mae cyrraedd targedau cadwraeth y byd. Mae honno'n egwyddor sy'n cael ei derbyn yn fyd-eang, ond mae'r astudiaeth gyntaf i gloriannu'r polisi sy'n ceisio digolledu pobl leol am gostau cadwraeth yn dangos, er y bwriadau da, mai'r tlodion sy'n colli allan.

Mae coedwigoedd trofannol yn bwysig i bawb sydd ar y blaned. Nid yn unig y mae coedwigoedd trofannol yn gartref i fioamrywiaeth hynod a phrin (fel lemyriaid Madagascar), maen nhw hefyd yn cadw swmp enfawr o garbon dan glo ac mae hynny'n helpu sefydlogi'r hinsawdd. Hefyd, mae coedwigoedd trofannol yn gartref i gannoedd o filoedd o bobl ac mae'r polisïau cadwraeth rhyngwladol yn gallu effeithio ar eu bywydau hwythau

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2018

UK and Germany combine forces to fund crucial Arctic science

Datganiad Saesneg a gyhoeddwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol

 Mae manylion ein project yn Ysgol Gwyddorau Eigion i'w gael yma:

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2018

Ymchwilio i newidiadau i Gefnfor yr Arctig

Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain un o 12 project ymchwil pwysig a wnaeth gais llwyddiannus i gyflawni ymchwil allweddol bwysig yn un o ardaloedd mwyaf gerwin y blaned - sef yr Arctig.

Caiff y gwaith a wneir gan y Brifysgol ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn y Deyrnas Unedig, a Gweinyddiaeth Addysg ac Ymchwil Ffederal yr Almaen (BMBF). Enw'r project yw The Changing Arctic Ocean.

Arweinir y project ymchwil tair blynedd gan Dr Yueng-Djern Lenn, Uwch Ddarlithydd mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a bydd partneriaid a sefydliadau eraill yn cydweithio â Bangor.  Nod yr ymchwil yw cynyddu dealltwriaeth o'r modd y gall newidiadau yn ein cefnforoedd effeithio ar swm ffytoplancton a gynhyrchir yng Nghefnfor yr Arctig.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2018