Pryd mae Dyddiau Agored Prifysgol Bangor yn 2026?
- Dydd Sadwrn, Gorffennaf 04
- Dydd Sul, Awst 16
- Dydd Sul, Hydref 11
- Dydd Sadwrn, Hydref 24
- Dydd Sadwrn, Tachwedd 28
Beth fyddwch yn ei gael ar Ddiwrnod Agored?
- cewch fwy o fanylion am eich pwnc
- gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- gweld y llety i fyfyrwyr
- cewch flas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Cysylltu â ni am y Diwrnod Agored
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall.
Wedi gwneud cais ar gyfer Medi 2026?
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais ar gyfer mis Medi yma, cadwch lygad am eich gwahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr, a fydd yn cael ei anfon trwy e-bost neu'r post.
Dali i ystyried eich opsynau ar gyfer Medi 2026?
Dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2026 neu yn ymchwilio eich opsiynau ar gyfer Medi 2027? Dewch i'r Diwrnod Ymweld, Dydd Sul, 26 Ebrill.
Pam Dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?