Amser i feddwl am brofiad gwaith!
Ddim yn siwr lle i ddechrau?
Angen cefnogaeth?
Os ydych yn 24 oed neu ieuengach gall ein prosiect newydd ni eich helpu!
Mae GO Wales: Cyflawni drwy brofiad gwaith yn anelu i helpu myfyrwyr fyddai yn cael mantais o gael amserlen fwy hyblyg neu awyrgylch gwaith cefnogol i'w helpu i oroesi unrhyw rwystrau byddant yn eu hwynebu pan fyddant yn ceisio trefnu profiad gwaith.
Gall cynghorwyr GO Wales, sydd wedi eu lleoli yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn Neuadd Rathbone, gyd-weithio efo chi a chyflogwyr lleol i drefnu profiad gwaith sydd wedi ei drefnu i gwrdd ag anghenion chi ac i gynyddu eich cyfleoedd o gael lefel graddedig ar ôl i chi adel y brifysgol.
I weld os ydych chi yn gymwys i fanteisio o’r prosiect, edrychwch ar my.bangor.ac.uk/careers/students/go-wales, cysylltwch ar tim gowales@bangor.ac.uk 01248 388159 neu dewch draw i un o’r sesiynnau ‘pop’ yn dderbynfa Prif Adeilad y Brifysgol, Ionawr 23 9:45-11yb neu yn Pontio 11-12 ar y 31 o Ionawr.
Mae’r prosiect GO Wales wedi ei ariannu gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop ac yn cael ei gyflwyno ym Mhrifysgolion yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2017