Angen Profiad Gwaith o Lefel Graddedig?
Yn ystod semester 2, bydd 35 cyfle i ennill profiad gwaith o lefel graddedig a thaladwy (hyd at 150 awr yr un) ar gael mewn amryw o ysgolion ac adrannau y Brifysgol. Bydd cyfleoedd yn amrywio o waith ymchwil i farchnata, ac o drefnu digwyddiadau i waith ymchwil i enwi dim ond rhai. Nid oes angen profiad blaenorol i gael eich ystyried, dim ond diddordeb, gwybodaeth a brwdfrydedd ar gyfer yr interniaeth!
Mae’r cyfleoedd nawr ar gael i chi bori drwyddynt ac i wneud cais erbyn hanner dydd, Dydd Mercher Rhagfyr 14eg.
https://my.bangor.ac.uk/employability/internopps.php.cy
Sesiynau Gwybodaeth am y Cynllun Interniaeth
- 15:00-16:00, Dydd Mercher, Tachwedd 30eg, Darlithfa 5, Prif Adeilad
- 15:00-16:00, Dydd Mercher, Rhagfyr 7fed, Darlithfa 5, Prif Adeilad
- 16:00-17:00, Dydd Mercher, Rhagfyr 7fed, Darlithfa 5, Prif Adeilad (Sesiwn Cyfrwng Cymraeg)
Bydd y sesiynau gwybodaeth yn ymdrin a gwybodaeth am y cynllun, cyngor ar sut i wneud eich cais, a chyfle i ofyn cwestiynau (nid oes angen archebu lle).
Mae manylion pellach am y cynllun a sut i wneud cais ar gael yma: https://my.bangor.ac.uk/employability/internapplicants.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2016