Arholiadau ar y Gorwel?
Arholiadau ar y gorwel ond methu’n lân â mynd ati i adolygu?
Methu’n lân â gwneud synnwyr o’r holl nodiadau darlith?
Wedi hel gwybodaeth ynghyd ond yn ansicr ynghylch sut i fynd i’r afael â hyn mewn modd ystyrlon?
Mae gan wefan y Ganolfan Sgiliau Astudio lawer o wybodaeth i’ch helpu chi i lwyddo yn eich arholiadau: Cyngor arholiad; Sgiliau adolygu ar gyfer arholiadau a Pwysau (straen) arholiadau. Os byddai’n well gennych drafod eich pryderon adolygu ac astudio mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio'n darparu apwyntiadau astudio unigol hyd at 50 munud a gwasanaeth Galw Heibio Mathemateg ac Ystadegau. Gellir archebu apwyntiadau ar-lein neu dros y ffôn ar 01248 382689.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2019