Byw a Gweithio yn Japan: Sesiwn Gwybodaeth JET 28.10.20
28/10/2020
2pm-3pm
Hoffech chi fyw a gweithio fel cymhorthydd dysgu yn Japan wedi i chi raddio? Mae cynllun JET (Japan Exchange and Teaching) yn gynllun swyddogol gan lywodraeth Japan, sy’n gyrru graddedigion i Japan i hybu dealltwriaeth rhyngwladol yn y gymuned, ac i wella addysg Saesneg mewn ysgolion. Bydd y sesiwn gwybodaeth yma yn dweud mwy wrthych am fywyd yn Japan, beth i ddisgwyl, sut i wneud cais, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau.
Archebwch lle trwy TARGETconnect
Rhaglen JET (saesneg yn unig)
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2020