Llwyddo gyda'ch Astudiaethau
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig dwy raglen o weithdai y semester hwn, un ar y thema Bod yn Feirniadol a’r llall i ddatblygu Traethodau Hir Campus. Mae’r gweithdai Bod yn Feirniadol yn canolbwyntio ar ffyrdd o'ch galluogi chi i wella eich dulliau o ymdrin â thasgau ysgrifenedig, ac mae’r gweithdai Traethodau Hir Campus yn cynnig arweiniad ar sut i ddatblygu eich prosiect ymchwil ac ar ffyrdd o’i adeiladu a’i gyflwyno.
Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i chi ddilyn y rhaglen gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny yn unig sy’n apelio atoch chi. I gael amlinelliad llawn o’r ddwy raglen ac i archebu eich lle, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2017