Wythnos Cyflogadwyedd
Mae ein rhaglen ehangach o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Cyflogadwyedd eleni yn fyw!
Bydd Wythnos Cyflogadwyedd yn rhedeg o ddydd Llun 10 Chwefror i ddydd Gwener 14 Chwefror.
Dewiswch o dros 40 o weithdai a digwyddiadau gan ein staff, cyflogwyr ac alumni, a mynychwch cymaint o sesiynau ag y dymunwch. Yn ogystal a hyn, ‘da ni’n cynnig trip i M-SParc i gwrdd â'r busnesau sy’n gweithio yna ac ymweld â’r Man Deori newydd.
Byddwn hefyd ar gael trwy’r wythnos yn y gofod cydweithio yn Pontio lle cynhelir sesiynau galw heibio.
Gweler rhestr llawn y digwyddiadau yma.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf am #WythnosCyflogadwyeddPB:
Facebook: facebook.com/pbcyflogadwyedd
Twitter: @PBcyflogadwyedd
Instagram: @profiadgwaithprifysgolbangor
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2020