Proffiliau Alumni
Mae Prifysgol Bangor yn falch o lwyddiannau ei chyn-fyfyrwyr. Isod mae proffiliau o rai o’n cyn-fyfyrwyr. Os hoffech gyfrannu eich proffil eich hun, e-bostiwch: alumni@bangor.ac.uk
Gradd Seicoleg cyn-fyfyriwr o Fangor yn mynd â hi i bencadlys
Cewch hyd i rai a raddiodd o Fangor yn gweithio ym mhob cwmni mawr ar draws y byd.
Mae Facebook, cwmni cyfryngau cymdeithasol mwyaf y byd, yn gartref i Susie Thompson, a raddiodd mewn Seicoleg yn 2004, ac a ddaeth o hyd i'w swydd ddelfrydol yng Nghaliffornia.
Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor Tsieina 2017
Yangjing yw ail Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor Tsieina ac ef enillodd y wobr yn 2017. Yanjing oedd y myfyriwr cyntaf o Tsieina i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Alumnus y flwyddyn Prifysgol Bangor/ BIBF 2017
Daeth i Brifysgol Bangor i gwblhau ei radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Busnes a Chyllid yn y flwyddyn academaidd 2010-11 ac enillodd radd 2:1.
Alumnus y flwyddyn Prifysgol Bangor 2017
Ray Footman yw Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor 2017. Mae gwobr Alumnus y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau ein graddedigion, yn broffesiynol ac yn bersonol, ac yn tynnu sylw arbennig at y rhai sydd wedi dewis parhau i ymwneud â'u hen brifysgol a rhoi'n ôl i'r brifysgol, naill ai trwy wasanaeth, dyngarwch, neu'r ddau.
“Y tro cyntaf i mi fentro allan o'm byd cyfarwydd”
Mae James McAllister wedi dilyn gyrfa ym maes marchnata digidol ers iddo raddio mewn Llenyddiaeth Saesneg a Newyddiaduraeth o Brifysgol Bangor.
Mwy am James...
“Gwnaeth y sgiliau ddysgais trwy astudio creu gryn argraff ar gyflogwyr”
Graddiodd Hannah Corbett o Fangor ym 2013 gyda gradd mewn Ieithyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol.
Mwy am Hannah…
Alumnus y flwyddyn Prifysgol Bangor/ BIBF
Amina Rashid Al-Alaiwi (Cyfrifeg a Chyllid, 2010) oedd Prifysgol Bangor / BIBF Alumnus y Flwyddyn 2016 yn yr Aduniad i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn y Deyrnas Bahrain a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Four Seasons, Bae Bahrain ym Medi 2016.
"Gwnaeth astudio ym Mangor fy estyn tu hwnt i'r meysydd rwy'n teimlo'n gartrefol ynddynt”
Graddiodd Lucy Orchiston o Fangor ym 2011 gyda gradd mewn Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg.
Mwy am Lucy…
Alumnus y Flwyddyn 2016
Ym mis Gorffennaf 2016, dychwelodd Kevin Deeming (Eigioneg Ffisegol, 1969) i Fangor i dderbyn gwobr Alumnus y Flwyddyn 2016.
Mae ef yn sylfaenydd a chyn-reolwr-gyfarwyddwr Metoc Plc, cwmni peirianneg forol (sydd bellach yn rhan o gwmni ymgynghoriaeth Ynni a Dŵr, Interek) ac yn aelod gweithgar o SOSA, cymdeithas alumni yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
“Roedd bywyd fel myfyriwr yn eithaf paradwysaidd”
Dilynodd Dermot Statham yrfa mewn electroneg ar ôl derbyn gradd ym Mangor
Tri deg mlynedd yn yr anialwch!
Ar ôl astudio ym Mangor, defnyddiodd Chris Yarrow ei angerdd dros Goedwigaeth i greu atyniad twristiaeth a chanolfan addysgol sydd wedi ennill gwobrau.
"Bangor oedd y lle i mi"
Graddiodd Paul Southall o Brifysgol Bangor ym 1993 gyda gradd mewn Hanes ac mae'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar brojectau ynni adnewyddadwy. Mae hefyd yn gweithio'n rheolaidd gydag Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol.
Bangor a Thu hwnt
Mae gradd Mathemateg John Graham o Fangor wedi mynd ag ef ar draws y byd.
Alumnus y Flwyddyn Bangor 2015
Mae Dr Ross Piper yn sŵolegydd, yn awdur ac yn gyflwynydd a raddiodd mewn Sŵoleg gydag Ecoleg Anifeiliaid ym 1998. Cyflwynwyd gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor iddo fo yn 2015.
Gweithio hefo planhigion rhyfeddol mewn lleoliad prydferth
Mae Rosie Barratt, a raddiodd o Brifysgol Bangor, yn gweithio ar hyn o bryd fel Technegydd Garddwriaethol yng Ngerddi Botaneg Treborth, Prifysgol Bangor.
Fe wnaeth Rosie astudio Ecoleg ym Mangor a graddiodd yn 2008.
Alumna yn lansio nofel a ysgrifennodd fel rhan o’i PhD
Mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor newydd ryddhau nofel a ysgrifennodd fel rhan o’i PhD.
Fe ysgrifennodd yr awdures Gill James, sydd yn dod o Ganolbarth Lloegr yn wreiddiol, ei nofel ‘The Prophecy’, sydd yn rhan o gyfres wedi ei hanelu at blant rhwng 14 – 17 oed, yn ystod ei hamser ym Mangor rhwng 2003 a 2007.
Oherwydd Bangor
Darllenwch beth mae rhai o’n alumni yn ei wneud heddiw ‘Oherwydd Bangor’…
Cymrodyr Er Anrhydedd
Cliciwch yma i weld rhestr o Gymrodyr Er Anrhydedd Prifysgol Bangor.