Newyddion: Mawrth 2018
Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.
Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tîm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018
Plygu golau
Mae Dr Liyang Yue o'r Ysgol Peirianneg Electronig yn brif awdur papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn gwyddonol Optics Letters . Mae'r papur hwn yn ymdrin â ffordd newydd i gynhyrchu pelydryn golau crwm ac mae nifer o wyddonwyr wedi dangos diddordeb ynddo ers iddo gael ei gyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018