Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Fy Mangor
  • Swyddi
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Fy Mangor
  • Swyddi
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Diogelwch Bwyd: Gwerthu Cacennau a Digwyddiadau tebyg

Defnyddir gwerthiant cacennau yn aml fel ffordd hwyliog o godi arian at achos da e.e. elusen. Fodd bynnag, gellir achosi dryswch ynghylch gofynion diogelwch bwyd a'r gwahanol safonau sy'n berthnasol, er enghraifft, rhwng 'busnes bwyd' gwirioneddol a gwerthiant cacennau elusennol a gynhelir unwaith yn unig. 

Gobeithio y bydd y canllawiau canlynol yn helpu i ateb rhai o'r cwestiynau hynny.  Fodd bynnag, os oes gennych bryderon o hyd, mae pob croeso i chi gysylltu ag Iechyd a Diogelwch.

 'Busnes Bwyd' v Arwerthiant Cacennau Elusen

Rhaid i fusnes bwyd, fel mannau arlwyo'r Brifysgol sy'n darparu bwyd yn rheolaidd ac yn drefnus, gofrestru gyda'r awdurdod lleol fel 'busnes bwyd'. Rhaid iddo sicrhau bod eu staff yn cael hyfforddiant priodol (e.e. Tystysgrifau Hylendid Bwyd) a rhaid iddo weithredu system gadarn rheoli diogelwch bwyd Dadansoddiad Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Nid oes angen cofrestru ar gyfer digwyddiadau fel arwerthiant cacennau, sy'n ddigwyddiad a gynhelir unwaith yn unig, lle mae bwyd risg isel yn cael ei weini, ac yn gyffredinol, nid oes angen Tystysgrif Hylendid Bwyd arnoch (er bod cyrsiau Diogelwch Bwyd sylfaenol ar-lein ar gael). Wrth gwrs bydd angen i chi sicrhau eich bod chi'n trin bwyd yn ddiogel.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cynllunio Arwerthiant Cacennau?

  1. Dylech gael cymeradwyaeth ymlaen llaw bob amser e.e. gan Bennaeth yr Ysgol, neu'r sawl sy'n gyfrifol am y lle.
  2. Gwiriwch fod yr ardal yn yr hon yr ydych chi'n bwriadu trefnu'r digwyddiad ar gael (h.y. a oes angen i chi ei bwcio'n ffurfiol)
  3. Trefnwch y digwyddiad i ffwrdd o fannau arlwyo sydd wedi'u sefydlu'n barod
  4. Sicrhewch fod pawb sy'n gysylltiedig yn ymwybodol o'r diogelwch bwyd sylfaenol a'r gofynion sefydlu isod

Bwyd Risg Isel - IE

Dylech weini bwyd risg isel y gellir ei storio a'i weini'n ddiogel ar dymheredd yr ystafell YN UNIG.  Peidiwch byth â gweini bwyd y mae angen ei gynhesu neu y mae angen ei gadw'n oer/ wedi'i rewi. 

Ar ôl eu paratoi, storiwch a chludwch gacennau ac ati mewn cynwysyddion glân y gellir eu selio (i ffwrdd o gynhyrchion amrwd eraill).  Mae cyngor diogelwch bwyd pobi cacennau cyffredinol ar gael yma

Bwyd Risg Uchel - NA

PEIDIWCH â gweini bwydydd risg uchel. Gall y rhain ddifetha o ganlyniad i amodau storio anaddas, neu ddulliau coginio amhriodol, gan roi lle i facteria niweidiol ffynnu, ac arwain o bosibl at wenwyn bwyd ac ati.  Ymhlith yr enghreifftiau mae: cig a physgod wedi'u coginio, grefi, stoc, saws a chawl, pysgod cregyn, cynhyrchion llaeth fel llefrith, hufen a llefrith soia, reis wedi'i goginio.

Gwybodaeth Alergen

Rhaid i chi roi gwybodaeth am y 14 Prif Alergenau bwyd (e.e. cnau mwnci, cnau, llefrith) sy'n bresennol yn y bwyd fel cynhwysion.  Sicrhewch fod deunydd pacio'r bwyd ar gael, rhestrwch ac arddangoswch wybodaeth alergenau yn glir ym mhob eitem.  

Hylendid Bwyd Sylfaenol

Sicrhewch fod y rhai sy'n cymryd rhan yn gwneud y canlynol

  • Dilyn y rheolau bwyd risg isel ac alergenau uchod.
  • BYTH yn paratoi neu weini bwyd os ydych chi wedi bod ag anhwylder stumog, neu wedi bod ag un yn ystod y 48 awr flaenorol.
  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd mewn dŵr cynnes a sebon neu defnyddiwch weipiau/geliau llaw gwrthfacteriol sy'n ddiogel i'w defnyddio â bwyd. 
  • Golchwch eich dwylo BOB AMSER ar ôl mynd i'r toiled, tisian, pesychu, trin sbwriel, glanhau unrhyw beth sydd wedi colli ac ati.
  • Dylech besychu a thisian i hances a'i rhoi yn y bin.
  • Clymwch wallt hir yn ôl.  Sicrhewch na all llewys, breichledau ac ati lusgo i mewn i fwyd.
  • Gorchuddiwch friwiau ac ati ar ddwylo gyda phlastr glas sy'n dal dŵr.

Gweini Bwyd

  • Ceisiwch orchuddio bwyd ac estyn pethau ar gyfer gwesteion, yn hytrach na gadael iddyn nhw drin bwyd eu hunain.
  • Defnyddiwch gefel neu rywbeth, os yn bosibl, i afael yn y bwyd. Peidiwch â gafael yn y bwyd â dwylo noeth.
  • Rhowch fwyd mewn napcynau, bagiau papur neu ar blât papur/ plât y gellir ei ail-ddefnyddio.
  • Dylech gael gwared ar yr holl fwyd dros ben (oni bai ei fod wedi'i selio o hyd) ar y diwedd.

Ar y diwrnod

Gosod pethau'n barod, yn cynnwys gweini diodydd

  • Gofynnwch am help wrth symud byrddau gan sicrhau bod y bwrdd:
    • Wedi'i sefydlu ar wyneb gwastad a ddim ar lwybrau cerdded, neu wrth ddrysau neu Allanfeydd Tân.
    • Yn ddigon cryf ar gyfer pwysau'r eitemau arno e.e. wrn wedi'i lenwi, tegell, cwpanau. 
    • Mor agos at gyflenwad pŵer (os ydych chi'n defnyddio offer trydanol) â phosib.
  • Gweithiwch allan ble byddwch chi'n cael dŵr 'yfed', a sut y bydd yn cael ei gludo.
  • Sicrhewch fod gennych dyweli papur i glirio unrhyw hylif sy'n colli, a rhywbeth ar gyfer sbwriel.
  • Edrychwch ar offer i sicrhau ei fod:
    • yn lân ac mewn cyflwr da.
    • yn addas, h.y. cwpanau tafladwy y gellir eu hailgylchu, sydd wedi'u cynllunio i ddal diodydd poeth.

Os ydych chi'n defnyddio tegelli, yrnau ac ati

  • Gwiriwch fod tegelli, ceblau estyniad ac ati mewn cyflwr da ac wedi cael prawf PAT.
  • Ceisiwch blygio yrnau/tegelli yn uniongyrchol i soced y wal.
  • RHAID i geblau estyniad fod yn 13 AMP gyda chebl mor fyr â phosib (rhaid i geblau troellog fod wedi eu dadweindio'n llwyr).
  • Gosodwch geblau trydanol yn ddiogel h.y. heb greu perygl baglu.
  • Rhowch eitemau i ffwrdd o le gallent gael eu taro neu greu difrod, e.e. gall stêm o yrnau gamu paneli pren/paentiadau.
  • Gadewch i'r tegelli/yrnau oeri cyn eu gwagio.  Os ydych chi'n defnyddio wrn, gwagiwch y dŵr wedi'i oeri yn gyntaf i gynhwysydd addas cyn ei symud.

Cysylltiadau

  • Taflen Wybodaeth (yn crynhoi'r canllawiau uchod)

  • Asiantaeth Safonau Bwyd: 14 Prif Alergen

  • Asiantaeth Safonau Bwyd: Bwyd mewn Digwyddiadau Cymunedol ac Elusennau

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

  • Iechyd a Diogelwch
    • Iechyd a Diogelwch
    • A-Z Iechyd a Diogelwch
    • Gwybodaeth amdanom ni
      • Ein staff
      • Lleoliad
      • Ein Hanes
    • Iechyd a Lles
      • Eich Iechyd chi ydyw!
      • Gwaith ac Iechyd
    • Yr Amgylchedd
    • Staff a Myfyrwyr
      • Staff
      • Myfyrwyr
      • Staff Goruchwyliol
      • Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch
    • Hyfforddiant i Staff
    • Ymwelwyr a Chontractwyr
    • Penaethiaid Colegau ac Adrannau
      • Arweiniad i Ddeoniaid a Phenaethiaid
      • Pam Iechyd a Diogelwch?
      • Onid Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch?
      • Beth yw fy nghyfrifoldeb i?
      • A gaf ddirprwyo cyfrifoldeb?
      • Mae diogelwch yn costio arian!
      • Felly beth sydd angen imi ei wneud?
      • Ydw i’n gyfrifol am adeiladau hefyd?
      • Beth os aiff rhywbeth o’i le?
      • Sut rwy’n gwybod bod y drefn yn gweithio?
      • Pwy sy’n mynd i’m helpu?
      • Yr hyn y dylech ei wybod a’i wneud
      • Penaethiaid Colegau / Adrannau – Map Is-adrannol
    • Polisïau a Chyfarwyddyd
    • Cyfraith a Dyletswyddau Iechyd a Diogelwch
    • Ffurflenni a Dogfennau
    • Rhoi gwybod am ddamwain neu ddigwyddiad
    • Archwiliadau ac Adroddiadau
    • Grŵp Iechyd a Diogelwch
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor