Penaethiaid Colegau ac Adrannau
Onid Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch?
Yn syml, NAGE, nid cyfrifoldeb y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch yw iechyd a diogelwch, am nad oes gennym reolaeth dros eich Coleg / Adran.
Mae’r gyfraith yn nodi’n glir fod gan unigolion a sefydliadau gyfrifoldeb torfol a phersonol dros iechyd a diogelwch, ac mae Polisi’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch yn ailadrodd hyn wrth nodi cyfrifoldebau ar draws y Sefydliad. Yn unol â’r dywediad, “y rhai sy’n creu’r risg sydd berchen ar y risg”, h.y. y Coleg / Adran sy’n creu’r perygl sydd i fod i reoli’r perygl hwnnw.
Mae’r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch yn rhoi cyngor a chymorth i’r Brifysgol a’i Cholegau, ei Hysgolion a’i Hadrannau, a hynny’n annibynnol ar unrhyw bwysau cyllidebol neu wleidyddol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw gyngor diduedd ar iechyd a diogelwch, ac yn hollbwysig i lwyddiant system reoli’r Brifysgol o ran iechyd a diogelwch.