Rhoi Gwybod am Ddamwain neu Ddigwyddiad
Mae Iechyd a Diogelwch yn edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd o wella ein system o roi gwybod am ddamwain neu ddigwyddiad i'ch galluogi i fedru rhoi gwybod ar-lein.
Yn ddiweddar rydym wedi diweddaru ein Ffurflen Rhoi Gwybod am Ddamwain/Digwyddiad fel ei bod (gobeithio) yn haws ei defnyddio, ac mae nawr yn cynnwys adran ar Ymchwilio i Ddamwain a Digwyddiad. Yn y cyfamser, daliwch i lenwi copi papur o’r Ffurflen ‘Damwain a Digwyddiad’, yn Word trwy gopi caled; gan gofio anfon copi atom ni hefyd os gwelwch yn dda.
Os teimlwch bod angen delio’n syth â damwain neu ddigwyddiad, ffoniwch Iechyd a Diogelwch ar est. 38-3847. Os oes gennych fater yr hoffem i ni ymchwilio iddo, ffoniwch neu anfon e-bost at iechydadiogelwch@bangor.ac.uk. Mewn achos brys plîs ffoniwch 333 ar unwaith.
NODWCH: Mae'r Ffurflen adrodd Digwyddiad / Achos y bu ond y dim iddynt ddigwydd byr yn gallu cael eu defnyddio i adrodd sefyllfaoedd peryglus a allai fod, arferion anniogel a digwyddiadau fu bron os nad oes person wedi niweidio / anafu.
Cysylltiadau:
- Ffurflen Rhoi Gwybod am Ddamwain/Digwyddiad
- Ffurflen adrodd Digwyddiad / Achos y bu ond y dim iddynt ddigwydd
- Gwybodaeth Ychwanegol am Ddamweiniau a Digwyddiadau
Digwyddiadau Amgylcheddol
Os ydych yn sylwi ar unrhyw lygredd neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill yn y Brifysgol cofiwch adael i ni wybod yn syth trwy llenwi’r ffurflen Adroddiad Digwyddiad Amgylcheddol.