Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Pwy sy’n mynd i’m helpu?
Bydd y tîm Iechyd a Diogelwch yn eich helpu, bydd eich cydweithwyr yn helpu, ac efallai y ceir arbenigwyr allanol a all helpu. Eich man cychwyn fydd eich Cydlynydd Iechyd a Diogelwch eich hunan a thîm GID.
Ceir hefyd gyrff proffesiynol sy’n rhoi cymorth a chyfarwyddyd, megis y Pwyllgor Gweithredu Iechyd a Diogelwch a chyrff Addysg Uwch megis UCEA ac USHA.
Mae’r tim o staff canolog Iechyd a Diogelwch yn gweithredu fel ffynhonnell y Brifysgol o gyngor medrus ar iechyd a diogelwch (Gwasanethau Campws), ac un o’n prif bwrpasau yw rhoi cyngor medrus a buddiol ar gyfer yr holl Brifysgol. Nid yn unig y mae’r Adran yn gosod safonau, yn dehongli deddfwriaeth a monitro perfformiad, ond mae hefyd yn ffynhonnell o gymorth a chyngor i Benaethiaid Colegau / Cyfarwyddwyr Gwasanaethau, Cydlynwyr Diogelwch ac eraill. Ni all y tim Iechyd a Diogelwch reoli iechyd a diogelwch o fewn eich Coleg neu’ch Adran ac ni all wneud hynny chwaith; mater i chi yw hynny, fel yr un sydd wrth y llyw, ond byddwn yn cynnig cymorth a chyngor ar bopeth sydd o fewn ein gallu.
Pan na all y tîm Iechyd a Diogelwch gynnig cyngor penodol, oherwydd yr arbenigedd dan sylw ac ati, byddant yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir ac yn cael cymaint o wybodaeth ag sy'n ymarferol i'ch cynorthwyo. Weithiau, bydd gofyn i arbenigwyr allanol helpu o bryd i'w gilydd (ee dyfeisio systemau gweithredu diogel ar gyfer defnyddio eitem arbenigol o offer), yn aml gellir cael cyngor arbenigol o'r fath yn y sector addysg uwch a'r gymuned ymchwil.
Eich Cydlynydd Iechyd Colegol / Adrannol yw eich ffynhonnell allweddol leol o gymorth o ddydd i ddydd, a dylai ef/hi fod wedi’i hyfforddi ac yn fedrus i oruchwylio iechyd a diogelwch o fewn y Coleg / Adran. O fewn eich Coleg / Adran, bydd gennych hefyd nifer o aelodau staff tra medrus a fydd yn gallu eich helpu â chyngor mwy penodol; er enghraifft Cydlynwyd Gwaith Maes, Arolygwyr Ymbelydredd, Aseswyr Offer Sgrîn Arddangos.
Gall Pwyllgor Iechyd a Diogelwch eich Coleg / Gwasanaeth hefyd helpu i oruchwylio systemau rheoli iechyd a diogelwch ar draws y Coleg / Gwasanaeth, a bydd yn helpu i ddod â phartïon ac arbenigwyr lleol at ei gilydd.