Eich Iechyd yn y Gweithle
Pan ydych yn meddwl amdano, mae’r rhan fwyaf ohonom yn treulio llawer o amser yn ein gwaith – o gwmpas hanner yr amser rydym yn effro; felly, p’run a ydym yn hoffi hynny ai peidio, mae gwaith yn gallu cael effaith fawr ar ein hiechyd a’n lles yn y dyfodol.
Felly, dylem i gyd geisio’n gorau i gadw’n iach drwy ofalu bod ein ffordd o fyw yn iachus er mwyn osgoi salwch. Gwnewch amser i edrych ar eich ôl eich hun. Bydd yn gwella a chynyddu’r rheolaeth sydd gennych dros eich iechyd.
Diben y wybodaeth sydd ar gael trwy glicio ar y lluniau ar y dde, neu trwy glicio ar unrhyw un o’r adrannau o’r ddewislen gwympo ar y chwith, yw hybu eich lles corfforol a meddyliol trwy gymysgedd o gefnogaeth ymarferol, cyngor arbenigol a mynediad at wybodaeth ychwanegol.
Plîs cysylltwch â ni os hoffech wneud apwyntiad i gael sgwrs gyda’n Ymarferydd Iechyd Galwedigaethol, Michele Lake, ym Adran Adnoddau Dynol, am unrhyw faterion neu bryderon sydd gennych am eich iechyd.
Hefyd mae yna Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar gael, sef wasanaeth cyfrinachol yn y gwaith a ddarperir gan y brifysgol i helpu aelodau staff ddelio â straen bywyd-gwaith, problemau teuluol, pryderon ariannol, problemau perthynas, a phryderon eraill. Mae ar gael i aelodau staff a'u teuluoedd ac mae'n anelu at gael effaith gadarnhaol ar eu lles.