Pwyllgor Gweithredu
Mae Pwyllgor Gweithredu y brifysgol yn gyfrifol am reolaeth a gweinyddiaeth gyffredinol y Brifysgol o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys gweithredu polisïau a strategaeth y Brifysgol, monitro pob elfen o berfformiad y Brifysgol a darparu arweinyddiaeth yn y Sefydliad.
Mae’r Pwyllgor Gweithredu fel grŵp a’i aelodau yn gyfrifol, ar y cyd ac yn unigol, am eu penderfyniadau a’r effaith mae’r penderfyniadau’n eu cael ar iechyd a diogelwch yn y Brifysgol.
Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol