Trin yn Ddiogel yn y Gweithle - Aseswyr
Mae aseswyr Trin a Thrafod â’r Dwylo yn cael eu hyfforddi i adnabod ac ystyried tasgau codi a chario a all fod angen rheolau ychwanegol neu arbennig. Mae hefyd yn galluogi Aseswyr i wneud argymhellion ynghylch pa gamau a rheolaethau y dylid eu rhoi ar waith.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i unigolion sy'n goruchwylio neu sy'n gyfrifol am staff sy'n cyflawni gweithgareddau codi, cario, gwthio neu dynnu yn ystod eu diwrnod gwaith.
Amcan y gweithdy
Er mwyn galluogi i'r unigolyn gyflawni swyddogaeth Aseswr Trin a Thrafod â’r Dwylo yn eu mannau gwaith gyda'r nod o leihau'r risgiau o weithgareddau codi a chario.
Manteision y gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
• Deall sut mae'r cefn yn gweithio a'r hyn sydd angen ei wneud i gael cefn heini ac iach gydol oes
• Nodi technegau codi syml y gellir eu defnyddio i atal difrod i’r cefn
• Nodi pa fath o godi a chario sy’n rhesymol i’w wneud
Cynnwys
Math o anaf, lle mae’r anaf
Sgôp codi a chario - beth ydyw? – cario, codi, gwthio, tynnu
Technegau ymarferol trin a thrafod
Gofalu am eich cefn
Sut i gwblhau asesiad o drin a thrafod pethau â’r dwylo a gwneud argymhellion
Nodi atebion ymarferol i leihau'r risgiau o weithgareddau codi a chario
Hyd
3 awr
Noder: mae'r cwrs yn cynnwys y cwrs sylfaenol Trin yn Ddiogel yn y Gweithle
Yn dilyn y cwrs hwn gellir cynnal ymweliad safle ymarferol i gynorthwyo gydag asesu yn eich man gwaith chi
Dulliau Dysgu
Gweithredir hyn trwy weithgareddau cyflwyno, arddangos ac ymarferol.
Asesu / Ardystio
Nid yw'r cwrs wedi'i asesu. Rhoddir tystysgrif dim ond i'r rhai sy'n bresennol.
Dyddiadau’r Cwrs
Am fwy o wybodaeth am y dyddiadau a'r lleoliad edrychwch ar yr Amserlen.
I drefnu cwrs i'ch coleg / adran neu i fynd ar gwrs sydd wedi'i raglennu (fel unigolyn mae'n rhaid i chi yn gyntaf gael caniatâd eich rheolwr i fynd iddynt) cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk