Ysgol Glinigol Gogledd Cymru
Beth yw Ysgol Glinigol Gogledd Cymru?
Mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru (NWCS) yn bartneriaeth rhwng y sefydliadau addysg uwch a’r ymddiriedolaethau GIG yng ngogledd Cymru, sy’n gweithredu ar draws yr ardal:
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI)
- Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych
- Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Beth mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn ei wneud?
- Mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn rhoi mwy o gyfleoedd i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd astudio a byw yng ngogledd Cymru, mewn gosodiad dwyieithog gan fwyaf, ac felly’n hyrwyddo dal gafael ar sgiliau a ffyniant economaidd yr ardal.
- Mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn darparu dull cydweithredol sy’n torri tir newydd o fynd i’r afael ag addysg feddygol yng ngogledd Cymru, gan ddod ag amrywiaeth gyfan o bartneriaid ynghyd o’r sectorau iechyd ac academaidd o bob rhan o ogledd Cymru.
- Mae wedi galluogi i Ymddiriedolaethau GIG gogledd Cymru fwy na dyblu nifer y myfyrwyr sy’n gwneud lleoliadau blwyddyn pedwar a phump yng ngogledd Cymru (yn 2006/07 o gymharu â 2002/3).
- Ers i nifer sylweddol o fyfyrwyr meddygol ddechrau hyfforddi yng ngogledd Cymru, mae 90% o swyddi meddygon iau yn awr yn cael eu llenwi gan raddedigion a wnaeth leoliadau yn yr ardal (o gymharu â 1999 pan oedd nifer y lleoliadau’n fychan iawn a’r tair Ymddiriedolaeth yn cael trafferth fawr wrth lenwi’r swyddi hyn). Cafwyd cynnydd mawr hefyd yn nifer y ceisiadau ar gyfer swyddi ymgynghorol yn ysbytai gogledd Cymru gan staff meddygol uwch, sy’n cael eu denu i’r ardal gan y cyfleoedd ar gyfer addysgu ac ymchwil y mae’r Ysgol Glinigol yn eu cynnig.
- Gall myfyrwyr meddygol hefyd ddewis gwneud yr Elfennau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (Student Selected Components - SSCs) ym Mhrifysgol Bangor a NEWI.
Cewch fwy o fanylion am Ysgol Glinigol Gogledd Cymru a’r lleoliadau SSC yn: www.nwcs.ac.uk