Yn y flwyddyn olaf/ dilyn cwrs Meistr? Chwilio am eich swydd raddedig, leoliad gwaith, neu i rwydweithio?
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor yn trefnu bws i’r Ffair Recriwtio Graddedigion 2017 ym Manceinion ar Fai 4ydd 2017.
Mae Prifysgol Manceinion yn cynnal un o’r ffeiriau recriwtio graddedigion mwyaf yn y DU, gydag oddeutu 140 o gyflogwyr yn cynnig miloedd o gyfleoedd. Mae arddangoswyr yn cynnwys Abercrombie and Fitch, Aldi, Atos, Dyson, IBM, Games Workshop, Meltwater, Majestic Wine Warehouse, Teach First, RSM, a llawer mwy.
Cost y bws yw £10 y pen - os gwelwch yn dda archebwch eich lle drwy’r siop ar-lein Prifysgol Bangor - http://bit.ly/2nqMk1x
I gofrestru am y digwyddiad ac i weld y rhestr lawn o arddangoswyr ewch i: http://www.careers.manchester.ac.uk/events/gradfair/
Mae mynediad i’r ffair am ddim.
Mae llefydd yn gyfyngedig iawn a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar 01248 382071 neu e-bostiwch gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2017