Ymgeiswyr UCAS Maes Plant
Llongyfarchiadau ar dderbyn eich gwahoddiad am gyfweliad i’r rhaglen Nyrsio Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgol Bangor.
Gofalwch eich bod yn dilyn y wybodaeth bwysig yma ar gyfer eich cyfweliad:
O ganlyniad i’r cyfyngiadau sydd mewn lle gyfer Cofid 19 a'r amrywiad Omicron mwyaf diweddar, byddwn yn darparu ein holl gyfweliadau ar gyfer y rhaglenni cyn-gofrestru ar-lein. Byddwn yn defnyddio'r platfform cyfarfod ar-lein, Zoom, i hwyluso ein cyfweliadau. Mae Zoom yn gweithio ar lawer o lwyfannau TG fel eich ffôn symudol, cyfrifiadur personol a dyfeisiau electronig eraill.
Gweler y gwefannau canlynol i gael mwy o wybodaeth:
- https://zoom.us
- https://www.techradar.com/uk/news/what-is-zoom-how-does-it-work-tips-and-tricks-plus-best-alternatives
Bydd y ddolen Zoom, y dyddiad ac amser dyranedig eich cyfweliad yn cael ei gynnwys yn yr e-bost a'ch tudalen UCAS Trac. Bydd y cyfweliad yn para oddeutu 3 awr felly gadewch ddigon o amser i'ch hun ar y diwrnod. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw clicio ar y ddolen gywir, a sicrhau bod gennych gamera a meicroffon sy'n gweithio, fel y gallwn eich gweld a'ch clywed.
Mi fyddwch yn cael eich cyfweld mewn grwpiau o oddeutu 10-20 o ymgeiswyr ac mi fyddech yn cael y cyfle i gwrdd â’r darlithwyr Nyrsio Plant a Phobl Ifanc a'n Partneriaid Ymarfer o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae'n bwysig eich bod chi'n ymarfer defnyddio Zoom cyn eich cyfweliad, dysgwch sut i fynd i mewn i gyfarfodydd a defnyddio'r swyddogaeth sgwrsio. Ymarferwch gyda theulu a ffrindiau, mae'r ddolen hon yn darparu rhywfaint o wybodaeth am y swyddogaethau sylfaenol.
Bydd y ddolen Zoom yn dod i'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i ddarparu ar eich cais UCAS ac yn edrych fel hyn:
School of Health Science Admissions is inviting you to a scheduled Zoom meeting.
Join Zoom Meeting
https://us02web.zoom.us/j/81027365632?pwd=L3NaY000VTg2RFRuTW9BWE9jZVdHdz09
Meeting ID: 810 2736 5632
Passcode: 315257
Y Drefn Cyfweld
- Bydd cyflwyniad i'r grŵp yn darparu gwybodaeth am yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, ein prosesau dewis a sut byddwch yn cael cynnig os byddwch yn llwyddo yn y cyfweliad. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y cwrs, ein disgwyliadau gennych chi, eich lleoliadau, sy'n ffurfio 50% o'r cwrs, gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gofynion iechyd galwedigaethol.
- Bydd y cyfweliad ar-lein yn cynnwys gweithgareddau grŵp a gânt eu hwyluso gan staff academaidd a chydweithwyr o'r bwrdd iechyd sy'n gweithio ym maes Pediatreg ac Iechyd Plant.
- Cewch eich croesawu i'r diwrnod gan y darlithwyr maes plant a byddwch yn cael eich rhannu i grwpiau ar gyfer senarios grŵp i drafod problem a osodir ar y diwrnod. Byddwn yn chwilio am sgiliau cyfathrebu da, caredigrwydd deallus, a gwaith tîm.
- Byddwch wedyn yn cael cyfweliad unigol, byr a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod agwedd o nyrsio Plant a Phobl ifanc a dangos eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o swyddogaeth Nyrs Plant a Phobl ifanc.
- Dilynir hyn gyda chyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- Bydd y cyfweliadau grŵp yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar werthoedd ac mae'r gweithgareddau wedi eu cynllunio i asesu eich gwybodaeth am Nyrsio Plant a Phobl ifanc. Rydym hefyd eisiau asesu eich gallu i feddwl yn feirniadol, eich sgiliau cyfathrebu ac eich gallu i weithio fel rhan o dîm.
- Mae'n ofynnol i chi gyflwyno'ch prawf adnabod i'r cyfwelydd a chadarnhau eich tystiolaeth o rifedd a llythrennedd.
Paratoi at eich cyfweliad
- Bydd rhaid i chi fynd i'ch tudalen bersonol ar UCAS Trac i weld manylion eich cyfweliad a bydd rhaid i chi gadarnhau y byddwch yn bresennol trwy UCAS Trac. Os na fyddwch yn cadarnhau, bydd eich cynnig o gyfweliad yn cael ei dynnu'n ôl.
- Mae angen i chi ymarfer defnyddio Zoom, edrychwch am le tawel i gael eich cyfweliad lle na fydd rhywun yn tarfu arnoch chi ac sydd â golau da.
- Rhoddir amser a dyddiad penodol i chi ar gyfer y cyfweliad.
- Yn ystod y broses gyfweld, gofynnir i chi gael eich camera ymlaen a'ch meicroffon i ffwrdd tra bod pobl eraill yn siarad. Bydd cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau gan ddefnyddio'r swyddogaeth codi llaw a swyddogaeth sgwrsio.
- Mae'r cyfweliadau'n seiliedig ar werthoedd sy'n golygu eu bod yn cwmpasu gwerthoedd a nodweddion Nyrs Plant. Wrth baratoi ar gyfer eich cyfweliad, rydym yn argymell eich bod yn darllen am y pynciau sy'n berthnasol i Nyrsio Plant.
- Os na allwch ddod ar y dyddiad a bennwyd i chi, rhowch wybod i ni trwy UCAS, dim ond dan amgylchiadau eithriadol y newidir dyddiadau cyfweliadau.
Gallwn gynnig cyfweliad i chi trwy gyfrwng y Gymraeg os dymunwch a bydd y dyddiad ar gyfer hyn ym mis Chwefror. Gallwn eich sicrhau na fydd dyddiad cyfweld diweddarach yn rhoi ymgeiswyr dan anfantais ac y bydd pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal yn unol â pholisi Prifysgol Bangor.
Ymgeiswyr maes plant - sylwer bod y niferoedd yn cael eu pennu gan y comisiynwyr ac mae cael lle yn dibynnu ar faint o lefydd bwrsariaeth wedi ei chomisiynu sydd ar gael.
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?
Cewch wybod am ganlyniad y cyfweliad trwy UCAS Trac, felly mae'n bwysig eich bod yn edrych ar eich cyfrif yn rheolaidd.
A yw pob dim yn barod gen i at y cyfweliad?
Ni fydd modd cynnal eich cyfweliad oni bai bod y dogfennau canlynol gennych:
- Pasbort neu drwydded yrru fel prawf adnabod
Ychydig o gymorth
- Mae paratoi yn allweddol - Ymgyfarwyddwch â chynnwys eich CV a'ch datganiad personol, ymchwiliwch y rhaglen, gyrfa mewn Nyrsio Plant a Phobl Ifanc a Chod Ymddygiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Technegau - Sicrhewch fod gennych gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy a bod eich dyfais yn gydnaws â Zoom cyn y cyfweliad. Gofynnwn i chi gael camera a meicroffon sydd yn gweithio a'ch bod chi mewn amgylchedd addas a phriodol.
- Cefnogwch ei gilydd - Mae angen i Nyrsys Plant a Phobl Ifanc allu gweithio'n dda o fewn tîm, mae sgiliau cyfathrebu llafar ac aneiriol a'r gallu i wrando ar eraill yn allweddol. Cofiwch fod nyrsys yn unigolion hawdd mynd atynt, cyfeillgar ond hefyd mae ganddynt yr hyder i herio neu ofyn cwestiynau.
- Gwisg - Cyfweliad ar gyfer cwrs proffesiynol yw hwn, felly cofiwch wisgo mewn dillad smart, cyfforddus.
- Ymlaciwch - Rydyn ni am i chi wneud yn dda, rhowch sylw i'r person sy'n gofyn y cwestiwn, byddwch yn ddeniadol, yn gynnes ac yn barchus tuag at eich gilydd ... a pheidiwch ag anghofio gwenu!