
Denu dynion i nyrsio: y prosiect #NyrsYnGyntafPB
Mae tîm prosiect #NyrsYnGyntaf wedi'i leoli yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Nod y prosiect, sydd yn cael ei arwain gan y myfyrwyr, yw annog sgyrsiau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo nyrsio fel dewis gyrfa i bawb trwy symud y tu hwnt i ystrydebau rhyw a chanolbwyntio ar y proffesiwn.
Yn ganolbwynt i’r ymgyrch, mae’r hashnod #NyrsYnGyntafPB, wedi ei ddylunio a’i hyrwyddo gan y myfyrwyr fu’n rhan o’r prosiect, yn amlygu mai mewn nyrsio, proffesiynoldeb, gofal a thosturi sy’n bwysig, ac nid rhywedd.
Darganfyddwch fwy am ein cyrsiau nyrsio isradddig yma.
Am fwy o wybodaeth am ariannu eich cwrs, ymwelwch â’n tudalen ariannu'r GIG.
Owain Jones - Myfyriwr Nyrsio Oedolion